Mae gennym nifer o gyrsiau ar gael ar gyfer dysgwyr Saesneg fel ail iaith
P’un a ydych eisiau gwella eich sgiliau Saesneg ar gyfer gwaith neu astudiaethau, neu os oes angen gwella eich sgiliau cyfathrebu ar lafar ac ysgrifenedig, mae gennym gwrs Siaradwyr Ieithoedd Eraill (ESOL) ar gael i chi. Mae’r rhain yn amrywio o lefel cyn mynediad i Lefel 2, a gallant astudio ar sail llawn amser neu ran amser.
Cyrsiau ESOL
Astudio llawn amser
Os ydych chi am ddatblygu eich sgiliau Saesneg yn yr amser byrraf posibl, yna cwrs llawn amser sydd orau i chi. Mae ein cyrsiau llawn amser yn datblygu’r holl ddulliau Saesneg o wrando, siarad, darllen ac ysgrifennu, yn ogystal â chynnwys sgiliau cyflogadwyedd a sgiliau mathemateg i gefnogi eich datblygiad at astudiaethau pellach neu gyflogaeth.
Mae ein cyrsiau llawn amser yn cael eu hamserlennu dros bedwar diwrnod ac yn dechrau ym mis Medi. Byddwch yn cael eich asesu drwy bortffolio o dystiolaeth ac arholiadau.
Astudio rhan amser
Mae ein cyrsiau Iaith Saesneg rhan amser yn addas i bobl sy’n cyfuno astudio Saesneg gyda chyflogaeth neu ymrwymiadau teuluol. Rydym yn cynnig ystod eang o gyrsiau rhan amser, o rai sy’n cael eu rhannu dros ddeuddydd i rai sy’n cael eu cynnal am bedair awr yr wythnos, felly byddwch yn sicr o ddod o hyd i un sy’n addas i chi. Mae’r rhan fwyaf o gyrsiau rhan amser yn canolbwyntio un ai ar sgiliau siarad a gwrando neu sgiliau ysgrifennu.
Mae cyfleoedd i ymuno â chwrs rhan amser ar sawl pwynt yn ystod y flwyddyn, gan gynnwys mis Medi a mis Ionawr. Byddwch yn cael eich asesu mewn amrywiaeth o ffyrdd, fel arholiadau neu bortffolio o dystiolaeth.
Sut i wneud cais am gwrs ESOL
Os hoffech chi ymuno â chwrs ESOL yn Coleg Gwent, gallwch chi ddechrau drwy gysylltu â’r Hwb Reach. Bydd yr Hwb Reach yn cynnal asesiad iaith, yn rhoi cyngor i chi am ba gyrsiau fyddai fwyaf addas i chi, a threfnu i chi ymrestru yn Coleg Gwent.
Cysylltu â’r Hwb Reach:
¹ó´Úô²Ô: 07805272916
E-bost: reach@coleggwent.ac.uk
Cyfeiriad: Hwb Reach, 23 Stryd y Deml, Pilgwenlli, Casnewydd, NP20 2GJ
Myfyrwyr Rhyngwladol
Rydym yn croesawu myfyrwyr rhyngwladol yn Coleg Gwent ac mae gennym ystod o gyrsiau lefel prifysgol a llawn amser ar gael. Am ragor o wybodaeth am ein cyrsiau lefel addysg uwch a llawn amser sydd ar gael i Fyfyrwyr Rhyngwladol, cysylltwch â ni heddiw – byddem wrth ein bodd yn eich helpu.
Cysylltwch â’r Tîm Rhyngwladol:
E-bost: international@coleggwent.ac.uk
¹ó´Úô²Ô: +44 1495 333777