Ymgysylltu ag Ysgolion yn Coleg Gwent
Yn Coleg Gwent, rydym wedi ymrwymo i fagu perthnasoedd cryf â’n hysgolion lleol ac ysgogi myfyrwyr i archwilio’r ystod o lwybrau sydd ar gael iddynt.
Os ydych chi’n chwilio am wasanaeth ysgol i gyflwyno disgyblion i fyd addysg bellach neu weithdy ymarferol pwrpasol wedi’i deilwra i bynciau a llwybrau gyrfa penodol, mae gennym sesiwn sy’n bodloni amcanion eich ysgol.
Sesiynau sydd ar gael:
A) Cyflwyniad i Coleg Gwent (gwasanaeth)
Yn y gwasanaeth 30 munud hwn sy’n ennyn diddordeb, a arweinir gan ein Penaethiaid Gwasanaethau Dysgwyr, bydd disgyblion yn profi cyflwyniad i fywyd yn Coleg Gwent.
Hyd: 30 munud
Lleoliad: Yr ysgol
Cynulleidfa: Blwyddyn 9 / Blwyddyn 10 / Blwyddyn 11
Cyflwynir gan: Pennaeth Gwasanaethau Dysgwyr
Uchafbwyntiau:
- Fideo wedi’i animeiddio ar BontioÌýÌý
- Trosolwg o fywyd yn y ColegÌýÌý
- Cymorth, Cyllid a ThrafnidiaethÌýÌý
- Arddangos Digwyddiadau sydd Ar DdodÌýÌý
- Sut i gyflwyno cais?ÌýÌýÌý
Yr hyn i’w ddisgwylÌý
Mae’r gwasanaeth wedi’i ddylunio i roi trosolwg o Coleg Gwent, ein campysau, ein cyfleusterau a’r mathau o opsiynau astudio.
Gall disgyblion ddisgwyl cael gwybodaeth am bontio o’r ysgol, cymorth, cyllid a’r broses cyflwyno cais.
B) Clinig y Coleg (cymhorthfa ar gyfer cymorth ac arweiniad wrth gyflwyno cais)
Mae’r sesiynau hyn yn fwyaf addas ar gyfer disgyblion sy’n dymuno mynd i’r coleg ar gyfer astudio pellach. Bydd ein tîm cyfeillgar a phrofiadol yn helpu myfyrwyr o ran cyflwyno cais i’r coleg wrth gynnig cyngor amhrisiadwy ar gyllid a thrafnidiaeth.ÌýÌý
Hyd: Hyd at 1 awrÌý
Lleoliad: Yr ysgol – bydd angen ystafell gyfrifiaduronÌýÌý
Cynulleidfa: Blwyddyn 10/Blwyddyn 11Ìý
Cyflwynir gan: Pennaeth Gwasanaethau Dysgwyr, Tîm Cymorth CGÌý
Uchafbwyntiau:ÌýÌý
- Cymorth un i un ar gyfer cyflwyno caisÌýÌý
- Arweiniad pwrpasol ar grantiau a thrafnidiaethÌý
- Cyngor gan Gymorth CG sef ein tîm cymorth Coleg GwentÌýÌý
- Sesiynau grŵp bachÌý
Yr hyn i’w ddisgwylÌý
Mae ein staff wrth law i roi arweiniad i’ch disgyblion o ran y broses gyflwyno cais a gallant hefyd eu cynghori ynghylch y pynciau gorau yn seiliedig ar y gyrfaoedd y dymunir eu dilyn.ÌýÌýÌý
Bydd gan ddisgyblion gyfle i ofyn cwestiynau ynghylch opsiynau cyllid a thrafnidiaeth, gan gynnwys cyflwyno cais am Lwfans Cynhaliaeth Addysg a thocyn bws Coleg Gwent.Ìý
C) Gweithdy Pwnc Pwrpasol
Mae ein gweithdai pwnc pwrpasol, a arweinr gan ein staff addysgu profiadol, yn sesiynau rhagarweiniol sy’n para rhwng 1 a 3 awr. Gall y gweithdai gael eu teilwra i gyd-fynd ag anghenion ac oedrannau’r disgyblion, o oedran ysgol gynradd i ddisgyblion Blwyddyn 11.Ìý
Hyd: Rhwng 1 a 3 awrÌý
Lleoliad: Yn yr ysgol neu ar un o gampysau Coleg GwentÌý
Cynulleidfa: Disgyblion ysgol gynradd i ddisgyblion Blwyddyn 11Ìý
Cyflwynir gan: Tiwtoriaid pwncÌý
Uchafbwyntiau:ÌýÌý
- Archwilio PynciauÌýÌý
- Cyfleoedd GyrfaÌýÌýÌý
- Cyrsiau yn Coleg GwentÌýÌý
- Sesiynau RhyngweithiolÌýÌý
- Cyflwyno ar y campws neu yn yr ysgolÌýÌý
Pam dylech chi fynychu?ÌýÌý
Mae gweithdy pwrpasol yn cynnig cyfle i fyfyrwyr archwilio eu diddordebau academaidd a’u diddordebau gyrfa trwy sesiwn ymarferol dan arweiniad ein tiwtoriaid profiadol.ÌýÌý
Ymhlith y sesiynau a gynhaliwyd yn ddiweddar mae gweithdai a oedd yn canolbwyntio ar STEM a Pheirianneg, sgyrsiau ar yrfaoedd, rhagflas ar Godio a TGCh, cyflwyniad i faes gofal plant a llawer mwy!Ìý
D) Noson Rhieni / Gyrfaoedd / Noson Opsiynau
Gallwn fynychu digwyddiad uchod gyda staff yn barod i roi arweiniad a chyngor am ddechrau yn Coleg Gwent.
Hyd: Rhwng 1 a 3 awr
Lleoliad: Yn eich ysgol
Cynulleidfa: Blwyddyn 9+
Cyflwynir gan: Tîm Gwasanaethau Dysgwyr neu Tîm Allgymorth
Uchafbwyntiau:
- Archwilio Pynciau
- Cyfleoedd Gyrfa
- Cyrsiau yn Coleg Gwent
- Arweiniad Penodol
Archebion
I drefnu sesiwn, llenwch y ffurflen a bydd aelod o’n tîm yn cysylltu â chi.
Cylchlythyr
Cysylltu â ni!
Swyddogion Digwyddiadau ac Allgymorth