Â鶹´«Ã½

En

Hyfforddiant Gyrwyr HGV / LGV CE (Dosbarth 1): Dilyniant o Gategori C (Dosbarth 2)

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Cyfrifon Dysgu Personol

Dull Astudio
Dull Astudio
Rhan Amser (Dydd)
Lleoliad

Lleoliad
Oddi ar y safle

Sector

Sector
Trafnidiaeth a Logisteg

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
Hyblyg

Dyddiau
Dyddiau
Hyblyg

Yn gryno

Bydd y cwrs hwn yn eich galluogi i yrru cerbydau cymalog categori CE (Dosbarth 1) LGV, y categori cerbyd nwyddau mwyaf y gallwch ei gyflawni.

Cyfeirir yn gyffredinol at y cerbyd hwn fel lori gymalog, sydd fel rheol wedi ei gwneud o naill ai uned tractor gonfensiynol a threlar neu lori a threlar â bar tynnu arno (gwagen a cherbyd tynnu).

Mae Cyfrif Dysgu Personol yn fenter newydd gan Lywodraeth Cymru. Bydd y fenter yn rhoi cyfle i bobl gael mynediad at gyrsiau rhan amser, rhad ac am ddim sy'n cynnig ffyrdd hyblyg a chyfleus o ddysgu i gyd-fynd â'u ffordd bresennol o fyw.

Mae'r cwrs hwn ar gyfer...

... rheiny sy’n 19+ oed, yn byw yng Nghymru, yn gyflogedig, ac yn ennill llai na £32,371 y flwyddyn

... Unrhyw un sydd eisoes yn meddu ar drwydded yrru Categori C (Dosbarth 2) LGV, neu sydd eisiau mynd ymlaen at gategori CE (Dosbarth 1). Nid oes angen i chi fod wedi meddu ar eich trwydded categori C am gyfnod penodol o amser

... Gyrwyr cymwys sy’n awyddus i wella eu sgiliau a chyfoethogi eu rhagolygon gyrfa yn y diwydiant cludo fel gyrwyr cerbyd nwyddau mawr

Cynnwys y cwrs

Cwblheir yr hyfforddiant ymarferol i yrwyr ar sail 1 i 1. Yn ystod y cyfnod hwn, byddwch yn dysgu sut i wirio am ddiffygion, gyrru a symud cerbyd nwyddau mawr cymalog a dysgu i’w ddadfachu/ail-fachu’n ddiogel ac i’r safon ofynnol.

Hyd y Cwrs: 2 diwrnod, yn cynnwys eich prawf ymarferol.

Mae dwy ran i’r prawf ymarferol:

  • ymarfer symud cerbyd am yn ôl mewn 'siâp S' i fae llwytho + gallu arddangos y weithred o ddadfachu/ail-fachu yn ddiogel
  • gyrru ar y ffordd am 60 munud

Efallai y bydd angen i chi ddychwelyd er mwyn cwblhau eich cymhwyster Tystysgrif Cymhwysedd Proffesiynol i Yrwyr os nad oes gennych gerdyn dilys.

Bydd yr opsiynau hyfforddiant yn dibynnu ar le'r ydych chi'n byw gan ein bod yn gweithio gyda dau ddarparwr hyfforddiant i ddarparu'r cwrs hwn, Heads of the Valley ac Academi Monex.

Os oes un yn well gennych na'r llall, yna nodwch hyn ar eich cais os gwelwch yn dda.

Gofynion Mynediad

Mae’n ofynnol bod gennych drwydded (Dosbarth 2) C LGV er mwyn ymrestru ar y cwrs hwn. Os nad oes gennych y drwydded hon, gweler Hyfforddiant Gyrwyr LGV CE (Dosbarth 1): Mynediad Uniongyrchol o Gar.

Nid oes angen i chi gwblhau unrhyw brofion meddygol ychwanegol i yrwyr, ceisiadau dros dro na phrofion theori.

Gwybodaeth Ychwanegol

Bwriad rhaglen PLA yw darparu cyngor ac arweiniad o safon ar yr yrfa i gyfranogwyr cyn, yn ystod ac wedi eu dysgu.

Cyn i chi gael eich ymrestru ar eich cwrs sydd wedi'i ariannu gan PLA, bydd cynllun dysgu unigol yn cael ei drafod gyda chi er mwyn sicrhau bod y dysgu cywir wedi cael ei ystyried.

Bydd hyn yn cynnwys trafodaeth gyffredinol ar y pynciau canlynol:

  • addysg ffurfiol neu gymwysterau mewn meysydd perthnasol
  • profiad blaenorol o fewn y diwydiant neu faes
  • dyheadau gyrfa yn y dyfodol
  • ymrwymo i'r amser sydd ei angen

Bydd hyn hefyd yn cynnwys trafodaeth benodol ar y meysydd isod ar gyfer y cwrs hwn:

  • dyheadau gyrfa i ddod yn yrrwr ac ar gyfer ennill trwydded
  • rheswm dros ddewis categori trwyddedu
    • profiad blaenorol o yrru cerbydau mwy neu beiriannau
    • anghenion cefnogi ychwanegol ar gyfer profion meddygol neu theori
    • mynediad at liniadur/cyfrifiadur/llechen/ffôn clyfar er mwyn cwblhau adolygu theori ac ymrwymiad amser ar gyfer hyn
    • prawf meddygol/dros dro neu brawf theori a gwblhawyd cyn hyn

Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

Ble alla i astudio Hyfforddiant Gyrwyr HGV / LGV CE (Dosbarth 1): Dilyniant o Gategori C (Dosbarth 2)?

MPLA0132AA
Oddi ar y safle

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â ni ar 01495 333777
neu e-bostiwch pla@coleggwent.ac.uk.