Â鶹´«Ã½

En

Rhaglen dramor

Nod y rhaglen dramor yn Coleg Gwent yw darparu cyfleoedd a phrofiadau i ddysgwyr deithio a gweithio dramor. Mae’r rhaglen wedi’i chynllunio i ddangos i ddysgwyr fod y sgiliau y maent yn eu dysgu yn y coleg yn drosglwyddadwy unrhyw le yn y byd.

I rai, mae yna hefyd gyfleoedd bywyd-newidiol i deithio ymhellach i ffwrdd, gan gynnwys cyrchfannau fel Cambodia, Gwlad Thai, Nepal, India, Tanzania, a Pheriw. Mae’r teithiau hyn yn gydweithrediad â Sefydliad FutureSense, sef elusen sy’n cefnogi cymunedau gwledig lleol gyda ffocws ar Addysg, Iechyd a Bywoliaethau. Mae’r teithiau’n galluogi dysgwyr i chwarae rhan mewn cyflwyno rhaglenni’r elusen i gymunedau incwm isel ar draws chwe gwlad, a’u nod yw gwneud dysgwyr yn Ddinasyddion Byd-eang.

Ariennir y rhaglen dramor drwy Erasmus+, Taith, a Turing, ac mae pob un ohonynt yn darparu cyllid ar gyfer teithiau, llety, gweithgareddau diwylliannol a lletygarwch dysgwyr yn ystod yr ymweliad pythefnos o hyd gyda’r gyrchfan dramor.

Yn ystod yr ymweliad pythefnos o hyd, bydd dysgwyr yn cymryd rhan yn un o’r gweithgareddau canlynol:ÌýÌý

  • Profiad gwaith traddodiadolÌý
  • Prosiect gwaithÌý
  • Prosiect gwaith dinesydd–gymuned byd-eangÌý

ÌýYn ystod yr ymweliad, anogir dysgwyr i gymryd rhan lawn yn y gweithgareddau a drefnir, sy’n eu darparu dealltwriaeth lawn a chynhwysol o ddiwylliannau a ffyrdd newydd o weithio.Ìý

Ymweliadau tramor

Yn 22/23 mae Coleg Gwent wedi mynd â dros 200 o fyfyrwyr i ystod o leoliadau gan gynnwys Barcelona, yr Eidal, Nepal, Salou a Tanzania.Ìý