Mae chwaraeon yn bwysig i ni yma yn Coleg Gwent!
Mae ein cyfleusterau chwaraeon i’w gweld ym Mharth Dysgu Blaenau Gwent a Champysau Crosskeys a Brynbuga, gan roi mynediad i chi at weithgareddau ffurfiol ac anffurfiol.ÌýÌý
Mae ein cyfleusterau’n cynnwys:
- Meysydd chwarae ar y Campysau
- Campfa Ffitrwydd
- Stiwdio ddawns
- Neuadd Chwaraeon
- Ystafell Ddadansoddi
- Arenâu Marchogaeth dan do ac awyr agored pwrpasol
Amseroedd agored a prisiau Campfa Brynbuga
Mae’r gampfa ar agor yn ystod y tymor yn unig ac wedi cau ar wyliau banc. Rhaid i bob aelod adael y safle (gan gynnwys y cyfleusterau newid) erbyn yr amseroedd isod. Rhaid i bob aelod adael y safle (gan gynnwys y cyfleusterau newid) erbyn yr amseroedd isod fel y gall dosbarthiadau ddechrau ar amser ac mae’r gofalwyr yn gallu cloi.
Amseroedd Agori’r Gampfa:
Dydd Llun | Dydd Mawrth | Dydd Mercher | Dydd Iau | Dydd Gwener |
---|---|---|---|---|
Campfa 07:00 – 09:00 |
Campfa 07:00 – 09:00 |
Campfa 07:00 – 09:00 |
Campfa 07:00 – 09:00 |
|
Campfa 16:30 – 19:00 |
Campfa 16:30 – 19:00 |
Dosbarthiadau Ffitrwydd:
Dydd Llun | Dydd Mawrth | Dydd Mercher | Dydd Iau | Dydd Gwener |
---|---|---|---|---|
Cylchedau 07:15 – 08:00 |
Seiclo grŵp dan do 07:15 – 08:00 |
|||
Seiclo grŵp dan do 16:30 – 17:30 |
Prisiau cyhoeddus
£25 am 10 sesiwn / £3.50 wrth dalu fesul ymweliad yn cynnwys dosbarthiadau.
Pris aelodaeth am hanner tymor yw £35
Prisiau i ddysgwyr
£10 am 10 sesiwn / £2 wrth dalu fesul ymweliad yn cynnwys dosbarthiadau.
Prisiau staff
Gall holl aelodau staff Coleg Gwent ei ddefnyddio am ddim.