Gwasanaeth achredu i gyflogwyr a sefydliadau bach
Gallwch gynnig cyrsiau achrededig heb orfod talu i fod yn ganolfan gofrestredig
Gall cyrsiau achrededig apelio at ddysgwyr, cyflogeion a gwirfoddolwyr gan fod cyflogwyr, colegau a phrifysgolion yn eu cydnabod yn aml, ond os yw’r gwaith papur neu gost y broses achredu yn eich digalonni gallwch gofrestru eich dysgwyr trwy Goleg Gwent am bris cystadleuol tu hwnt.
Mae’r amrywiaeth eang o unedau a chymwysterau rydym yn gynnig drwy Agored Cymru yn golygu y gallwch ddewis cyrsiau sy’n addas i’ch dysgwyr.
Ansawdd y gallwch ymddiried ynddo
Yn ystod y pum mlynedd diwethaf rydym wedi gweithio gyda llawer o sefydliadau bach a chanolig yng Nghymru a Lloegr er mwyn iddynt gynnig cymwysterau sy’n gweddu i ofynion eu cyflogeion, gwirfoddolwyr a dysgwyr.
Yn ein harolwg Estyn diweddaraf cawsom sgôr ‘da’ am ein hansawdd, gan brofi fod gennym hanes llwyddiannus.
Dyma ychydig o’r sefydliadau rydym yn gweithio gyda nhw ar hyn o bryd:
- Pen y Cwm School
- Torfaen Inspire
- ELI Training
- Newport Flying Start (part of Newport Community Learning)
- Aneurin Leisure Multiply
- Blaenau Gwent Multiply
- Newport Multiply
- Torfaen and Monmouth Multiply
Beth arall allwn ni ei gynnig?
- Cyfleoedd datblygu staff proffesiynol
- Arsylwyr cymwys a/neu hyfforddiant arsylwi
- Hyfforddiant a/neu staff sicrhau ansawdd mewnol cymwys
- Sesiynau adeiladu portffolio
Darganfyddwch fwy
Kerry Budden
01495 333602
°ì±ð°ù°ù²â.²ú³Ü»å»å±ð²Ô°ª³¦´Ç±ô±ð²µ²µ·É±ð²Ô³Ù.²¹³¦.³Ü°ìÌý
Mark Harding
01495 333360
mark.harding@coleggwent.ac.uk
Rydym yn hapus i gwrdd â chi i ganfod beth yw eich anghenion ac egluro costau ein disgwyliadau a gwasanaeth sicrhau ansawdd. Byddwn yn sicrhau eich bod yn cael y gefnogaeth ac arweiniad sydd ei angen arnoch pob cam o’r ffordd.
Mae gweithio mewn partneriaeth â Choleg Gwent wedi ein galluogi i ddarparu’r cymwysterau galwedigaethol sydd eu hangen yn ein cymunedau gan gyfranogwyr a chyflogwyr lleol.  Rydym wedi adeiladu partneriaethau gweithio cryf ac effeithiol gyda’r tîm addysg gymunedol i’n cynorthwyo ni i gyflawni ein nod i wella sgiliau dysgwyr a’u cefnogi nhw i mewn i gyflogaeth gynaliadwy.  Mae’r cymorth rydym yn ei gael heb ei ail.  Maent wrth law bob amser i ateb unrhyw ymholiadau sydd gennym, o gofrestru unedau i safoni a sicrhau ein bod yn cofrestru’r dysgwyr mewn pryd.  Maent hyd yn oed wedi danfon ein tystysgrifau â llaw!
Angela Shirlow
Prosiect Cyflogadwyedd Torfaen