Os ydych chi'n meddwl y bydd angen cymorth arnoch yn y Coleg, rhowch wybod i ni:
Peidiwch â bod yn nerfus, mae yna lawer o gymorth ar gael. Peidiwch ag oedi – y cynharaf y byddwn yn gwybod amdanoch chi, y cynharaf y gallwn eich cefnogi chi, felly cysylltwch â ni.
Mae sawl ffordd o gysylltu:
- Gallwch anfon e-bost atom
- Siaradwch â ni mewn Digwyddiad Agored.
- Gofynnwch i Gydlynydd ADY eich ysgol neu Gynghorydd Gyrfa Cymru gysylltu â ni.
- Dywedwch wrthym am eich anghenion ar eich ffurflen gais ar-lein.
Cynlluniau Datblygu Unigol
Os oes gennych Gynllun Datblygu Unigol (CDU) gofynnwch i’ch ysgol ein gwahodd i’ch adolygiad fel y gallwch ddweud wrthym am eich anghenion a gallwn drafod cefnogaeth.
Rydym yn gweithio gyda phobl ifanc, eu teuluoedd, ysgolion, Gyrfa Cymru ac unrhyw bobl eraill sy’n eich cefnogi, i ddeall eich anghenion a chynllunio sut y dylai eich cefnogaeth edrych yn y coleg.