Gwellwch lefel eich sgiliau yn Coleg Gwent –Canolfan Ragoriaeth WorldSkills UK
Cewch gyfle i gystadlu a chynrychioli eich coleg, gan arddangos eich sgiliau ar lwyfan cenedlaethol.
O Gystadleuaeth Sgiliau Cymru i gystadleuaeth genedlaethol WorldSkills UK, gallwch gystadlu gyda myfyrwyr o golegau ledled y DU, gan ennill medalau mewn ystod eang o sectorau a hybu eich sgiliau cyflogadwyedd.
Mae nifer o’n cyn-gystadleuwyr Cystadleuaeth Sgiliau Cymru a WorldSkills wedi symud yn uniongyrchol o’r coleg i gyflogaeth neu wedi lansio eu busnesau llwyddiannus eu hunain.
Pam cymryd rhan yn y cystadlaethau sgiliau?
Cystadleuaeth Sgiliau Cymru
Mae Cystadleuaeth Sgiliau Cymru yn rhoi’r cyfle i chi serennu a rhoi hwb i’ch CV drwy gystadlu ar draws ystod eang o sectorau. Yn digwydd rhwng Ionawr a Mawrth pob blwyddyn, mae’r cystadlaethau yn hwyl ac yn rhad ac am ddim i gymryd rhan.
Mae Cystadlaethau Sgiliau Cymru yn ymwneud â chyfres o gystadlaethau sgiliau lleol, sydd yn cyd-fynd â chategorïau cystadleuaeth WorldSkills ac anghenion yr economi yng Nghymru. Mae’r cystadlaethau, a ariennir gan Lywodraeth Cymru ac sy’n cael eu rhedeg gan rwydwaith o golegau ymroddgar fel Coleg Gwent, darparwyr dysgu sy’n seiliedig ar waith a sefydliadau a arweinir gan gyflogwyr, yn anelu at godi proffil hyfforddiant sgiliau yng Nghymru.
Cystadleuaeth WorldSkills
Ers 2012, mae’n destun balchder gennym ein bod yn cefnogi nifer o ddysgwyr wrth iddynt gystadlu’n llwyddiannus yng nghystadlaethau WorldSkills, a hwythau ymhlith y 10 gorau yn nhabl cynghrair eu meysydd sgiliau am 3 blynedd yn olynol.
Gan fynd i’r afael â thros 60 gwahanol sgil mewn amrywiaeth o sectorau megis peirianneg ac adeiladu i dechnoleg gwybodaeth, mae WorldSkills UK wedi helpu i wella sgiliau addysg ledled y wlad, gan gyflwyno safonau o’r radd flaenaf o ran datblygu sgiliau yn y DU. Gyda’r cystadlaethau sgiliau yn cael eu cynllunio gan arbenigwyr o’r diwydiant, maent yn asesu gwybodaeth, sgiliau ymarferol a phriodoleddau cyflogadwyedd y dysgwr.
Ganolfan Ragoriaeth WorldSkills UK
Fel rhan o raglen Canolfan Ragoriaeth WorldSkills UK, byddwn i gyd yn elwa o arbenigedd NCFE mewn datblygu cwricwlwm, a safbwyntiau unigryw WorldSkills UK fel yr hwb byd-eang ar gyfer rhagoriaeth sgiliau.
Rydym yn falch o helpu i godi safonnau prentisiaethau a hyfforddiant technegol, ond yn bwysicach byth, rydym yn edrych ymlaen at allu cynnig y cyfleoedd hyn ar eich hiniog yng Ngwent, fel y gallwch chi ymuno ag un o golegau gorau Cymru ac ennill sgiliau o’r radd flaenaf ar draws ein hystod o gyrsiau galwedigaethol.
Dan arweiniad Hyfforddwyr Sgiliau Perfformiad Uchel WorldSkills UK, bydd ein tiwtoriaid, Gareth Pugh, Robert Morse, Paul Chard, Stephanie Parrot a Cerys Rees, yn cael eu hyfforddi a’u mentora i ymgorffori arferion a thechnegau o’r radd flaenaf yn eu harferion addysgu, dysgu ac asesu yn Coleg Gwent ar draws meysydd megis Celf Gemau 3D,ÌýCynnal a Chadw Moduron,ÌýPeirianneg Drydanol,ÌýTrin Gwallt a Harddwch, a Chwaraeon a Ffitrwydd. Bydd yr arbenigedd hwn yn cael ei drosglwyddo i chi, ein dysgwyr, i’ch galluogi i ddatblygu sgiliau o’r radd flaenaf ar eich hiniog yn Ne Cymru.