Â鶹´«Ã½

En

APMG Rhithwir Ar-lein - Ymarferydd Rheoli Prosiectau Ystwyth (AgilePM®)

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Cyfrifon Dysgu Personol

Dull Astudio
Dull Astudio
Dosbarth Rhithwir Mae astudio'n gyfwerth â chyrsiau ystafell ddosbarth wyneb yn wyneb, ond fe'i cyflwynir mewn amgylchedd ar-lein.
Lleoliad

Lleoliad
Hyblyg

Sector

Sector
Busnes, Cyllid a Rheoli

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
Hyblyg

Yn gryno

Darganfyddwch gysyniadau Agile, dewch  i ddeall egwyddorion uwch a dysgwch sut i reoli prosiectau yn fwy effeithiol ac effeithlon gyda methodolegau rheoli prosiect Agile.

Mae fframwaith rheoli prosiect Agile yn defnyddio dull cynyddrannol o ran y prosesau adeiladu a rheoli, a bydd y cwrs hwn yn eich addysgu am gysyniadau allweddol y fframwaith, a sut i'w rhoi ar waith mewn prosiectau go iawn, gan gynyddu cyfraddau llwyddo.

Mae’r cwrs hwn ar gael fel rhan o Gyfrif Dysgu Personol (PLA). Mae PLA yn fenter gan Lywodraeth Cymru sy’n cynnig cyfle i bobl gael mynediad at gyrsiau rhan-amser, rhad ac am ddim sydd â ffyrdd hyblyg a chyfleus o ddysgu sy’n addas i’w ffordd o fyw presennol.

Mae'r cwrs hwn ar gyfer...

... unrhyw un dros 19 oed, sy'n byw yng Nghymru, sy’n gweithio, ac yn ennill llai na £32,371 y flwyddyn

...unrhyw un sy'n croes-hyfforddi ar gyfer swydd mewn rheoli prosiectau sydd angen cymhwyster i agor opsiynau cyflogaeth newydd.

..unrhyw un sydd eisiau deall eu rôl yn well, gwella eu gwybodaeth ac angen tystiolaeth o'u profiad Agile.

Cynnwys y cwrs

Darperir y cwrs hwn drwy ddosbarth rhithiol. Mae dosbarthiadau rhithiol gyfwerth â chyrsiau dosbarth wyneb yn wyneb, ond fe'u darperir mewn amgylchedd ar-lein.

Hyd y Cwrs: 1.5 diwrnod

Drwy gydol y cwrs, byddwch yn dysgu’r canlynol:

  • Sut i roi amrywiaeth o arferion Agile ar waith mewn prosiect, er enghraifft, gweithdai, techneg MoSCoW er mwyn diffinio blaenoriaethau'r prosiect, datblygiad ailadroddol a modelu
  • Sut i brofi, creu amcangyfrif a gwerthuso cyflawni elw o fewn prosiect Agile
  • Y rolau a’r cyfrifoldebau o fewn prosiect Agile
  • Dull Agile o reoli a blaenoriaethu gofynion

Gofynion Mynediad

Mae'n rhaid i ddysgwyr fod wedi cwblhau AgilePM Foundation a bod yn dal cymhwyster AgilePM Foundation cyn bod yn gymwys i sefyll yr arholiad AgilePM Practitioner.

Bydd angen i chi fod â mynediad i'r rhyngrwyd, cyfrifiadur Windows a gwe-gamera/meicroffon.

Gwybodaeth Ychwanegol

Bwriad rhaglen PLA yw darparu cyngor ac arweiniad o safon ar yr yrfa i gyfranogwyr cyn, yn ystod ac wedi eu dysgu.

Cyn i chi gael eich ymrestru ar eich cwrs sydd wedi'i ariannu gan PLA, bydd cynllun dysgu unigol yn cael ei drafod gyda chi er mwyn sicrhau bod y dysgu cywir wedi cael ei ystyried.

Bydd hyn yn cynnwys trafodaeth gyffredinol ar y pynciau canlynol:

  • addysg ffurfiol neu gymwysterau mewn meysydd perthnasol
  • profiad blaenorol o fewn y diwydiant neu faes
  • dyheadau gyrfa yn y dyfodol
  • ymrwymo i'r amser sydd ei angen
  • bydd angen i chi fod â mynediad i'r rhyngrwyd, cyfrifiadur Windows a gwe-gamera/meicroffon.

Bydd hyn hefyd yn cynnwys trafodaeth benodol ar y meysydd isod ar gyfer y cwrs hwn:

  • unrhyw brofiad blaenorol gyda methodoleg Agile
  • profiad o weithio ar unrhyw brosiectau oedd yn defnyddio arferion Agile
  • profiad gyda fframweithiau rheoli prosiect eraill neu fethodolegau (e.e. PRINCE2, Scrum, APM)

Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

Ble alla i astudio APMG Rhithwir Ar-lein - Ymarferydd Rheoli Prosiectau Ystwyth (AgilePM®)?

MPLA0149AA
Hyblyg

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â ni ar 01495 333777
neu e-bostiwch pla@coleggwent.ac.uk.