Â鶹´«Ă˝

En

RTITB Triniwr Deunyddiau Telesgopig (Teledriniwr) - Gweithredwr Newydd

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Cyfrifon Dysgu Personol

Dull Astudio
Dull Astudio
Rhan Amser (Dydd)
Lleoliad

Lleoliad
Oddi ar y safle

Sector

Sector
Trafnidiaeth a Logisteg

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
Hyblyg

Dyddiau
Dyddiau
Hyblyg

Yn gryno

Bydd y cwrs hyfforddi Trinwyr Deunyddiau Telesgopig (y cyfeirir ato'n aml fel “Teledriniwr”, neu Teleandler) yn rhoi'r sgiliau i chi weithredu'r tryc codi yn ddiogel ac yn effeithlon, cynnal archwiliad cyn-ddefnydd, ac atgofio ac egluro achosion ansefydlogrwydd y tryc codi a’r llwyth.

Defnyddir Trinwyr Deunyddiau Telesgopig yn helaeth ar draws y diwydiant adeiladu ac amaethyddol oherwydd eu natur amlbwrpas a'u gallu i symud llwythi o bob math. Mae'r peiriannau fel arfer yn fwy amlbwrpas na thryciau cydbwyso llai oherwydd eu gallu i estyn i fyny ac ymlaen ymhellach, a’u capasiti codi uwch.

Ar Ă´l cwblhad llwyddiannus byddwch yn cael trwydded achrededig gan yr RTITB a fydd yn ddilys am 3 blynedd.

Mae’r cwrs hwn ar gael fel rhan o Gyfrif Dysgu Personol (PLA). Mae PLA yn fenter gan Lywodraeth Cymru sy’n cynnig cyfle i bobl gael mynediad at gyrsiau rhan-amser, rhad ac am ddim sydd â ffyrdd hyblyg a chyfleus o ddysgu sy’n addas i’w ffordd o fyw presennol.

Ěý

Mae'r cwrs hwn ar gyfer...

...unrhyw un dros 19 oed sy'n byw yng Nghymru, mewn cyflogaeth ac yn ennill llai na ÂŁ32,371 y flwyddyn.

... unrhyw un sy'n chwilio am yrfa yn niwydiant, adeiladu neu amaethyddiaeth, lle ddefnyddir trinwyr telesgopig yn rheolaidd

Cynnwys y cwrs

Mae’r cwrs hyfforddiant Gweithredwr newydd yn cael ei gwblhau dros 5 diwrnod.

Erbyn diwedd y cwrs, dylech fod yn gallu:

  • Arddangos gwybodaeth a dealltwriaeth o’r peiriant a sut i’w weithredu’n ddiogel
  • Lleoli ac adnabod y prif gydrannau a rheolyddion y peiriant ac egluro eu ffwythiannau
  • Egluro’r ffactorau sy’n effeithio ar sefydlogrwydd y wagen ac adnabod sut i gynnal sefydlogrwydd y wagen a’i llwyth
  • Egluro peryglon gorlwytho’r wagen a dangos sut i osgoi gorlwytho
  • Cynnal yr holl wiriadau cyn-gweithredu
  • Cynnal yr holl wiriadau diogelwch angenrheidiol yn yr ardal waith
  • Symud y peiriant yn ddiogel pan mae’n llawn ac yn wag, dros amrywiol arwynebeddau a thir anwastad
  • mewn ardaloedd agored ac ardaloedd cyfyngedig ac ar oleddf
  • Ymgymryd â thasgau codi a chario llwythau, gan ddefnyddio tŵr llwytho allan (sgaffaldiau) a/neu gerbyd ar y ffordd
  • Ffitio, addasu a/neu symud unrhyw atodiadau i ffwrdd
  • Gweithredu yr holl weithdrefnau diwedd sifft a chau i lawr

Bydd gofyn i chi basio prawf theori ac asesiad gweithredwr ymarferol er mwyn cwblhau'r cwrs yn llwyddiannus.

Gofynion Mynediad

Lefel sylfaenol o sgiliau darllen ac ysgrifennu Saesneg.

Argymhellir esgidiau diogelwch, ond nid yw hyn yn orfodol. Gan fod rhywfaint o hyfforddiant yn cael ei gwblhau yn yr awyr agored fe'ch cynghorir i wisgo'n briodol ar gyfer y tywydd.

Gwybodaeth Ychwanegol

Bwriad rhaglen PLA yw darparu cyngor ac arweiniad o safon ar yr yrfa i gyfranogwyr cyn, yn ystod ac wedi eu dysgu.

Cyn i chi gael eich ymrestru ar eich cwrs sydd wedi'i ariannu gan PLA, bydd cynllun dysgu unigol yn cael ei drafod gyda chi er mwyn sicrhau bod y dysgu cywir wedi cael ei ystyried.

Bydd hyn yn cynnwys trafodaeth gyffredinol ar y pynciau canlynol:

  • addysg ffurfiol neu gymwysterau mewn meysydd perthnasol
  • profiad blaenorol o fewn y diwydiant neu faes
  • dyheadau gyrfa yn y dyfodol
  • ymrwymo i'r amser sydd ei angen

Bydd hyn hefyd yn cynnwys trafodaeth benodol ar y meysydd isod ar gyfer y cwrs hwn:

  • dyheadau gyrfa er mwyn sicrhau trwydded i wella cyfleoedd gwaith
  • profiad blaenorol o wagenni fforch-godi
  • hyfforddiant blaenorol neu dystysgrif a sicrhawyd yn y maes hwn

Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

Ble alla i astudio RTITB Triniwr Deunyddiau Telesgopig (Teledriniwr) - Gweithredwr Newydd?

MPLA0163AA
Oddi ar y safle

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â ni ar 01495 333777
neu e-bostiwch pla@coleggwent.ac.uk.