Â鶹´«Ã½

En

CBAC Llenyddiaeth Saesneg UG Lefel 3

Gallwch chi ddewis campws arall neu ddyddiad oddi ar y rhestr isod:

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Lefelau A

Lefel

Lefel
3

Dull Astudio
Dull Astudio
Llawn Amser
Lleoliad

Lleoliad
Campws Crosskeys

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
02 Medi 2025

Hyd

Hyd
1 flwyddyn

Gofynion Mynediad

Gofynion Mynediad

O leiaf 5 TGAU gradd A*-C neu uwch, yn cynnwys Mathemateg/Rhifedd a gradd B mewn Saesneg Iaith neu Lenyddiaeth.

Yn gryno

Mae Llenyddiaeth Saesneg Lefel U yn bwnc dwys ond pleserus, sy'n caniatáu lle i drafod a datblygu eich syniadau eich hun. Mae’n rhoi cyflwyniad i ddisgyblaeth astudiaethau llenyddol uwch i ddysgwyr ac mae’n cyflwyno cyfleoedd ar gyfer darllen yn eang a rhoi ymatebion creadigol a llawn gwybodaeth i bob un o’r prif genre llenyddiaeth sef barddoniaeth, rhyddiaith a drama

Dyma'r cwrs i chi os...

... Hoffech chi ddilyn y llwybr Saesneg ac Ysgrifennu ond bydd astudio’r pwnc trosglwyddadwy hwn hefyd yn darparu mynediad da at y rhan fwyaf o’r llwybr Safon Uwch.

... Ydych yn mwynhau darllen llyfrau.

... Ydych yn hoffi dadansoddi a thrafod llenyddiaeth.

... Ydych yn gweithio'n dda â thraethodau ac aseiniadau ysgrifenedig

Beth fyddaf yn ei wneud?

Byddwch yn astudio dwy uned ar Lefel UG a thair uned ar Lefel U. Trwy gydol y cwrs, anogir chi i ddarllen yn eang ac annibynnol a chewch eich addysgu sut i ddadansoddi, gwerthuso a chymharu ystod o destunau llenyddol o wahanol gyd-destunau diwylliannol.

Ar Lefel UG, byddwch yn astudio Sense and Sensibility (rhyddiaith) Jane Austen, Lady Windermere’s Fan (drama) gan Oscar Wilde, a chasgliad o farddoniaeth gan Philip Larkin – The Whitsun Weddings, a Carol Ann Duffy – Mean Time. Ar Lefel A, byddwch yn astudio Hamlet (drama) Shakespeare, sef casgliad o gerddi gan Christina Rosetti ac yn cynhyrchu ffolder gwaith cwrs o 2,500-3,500 o eiriau, yn dilyn astudiaeth o The Collector gan John Fowles, a thestun a ddewisir gennych chi.

Cewch eich asesu drwy waith cartref rheolaidd, gwaith dosbarth, marciau profion a graddau arholiadau ffug a fydd yn eich galluogi chi i fesur eich cynnydd. Ar Lefel UG, cewch eich asesu'n ffurfiol drwy ddau arholiad yn yr haf a thrwy waith cwrs a dau arholiad yn yr haf ar Lefel U. Pan fyddwch yn ei gwblhau, byddwch yn cyflawni:

  • Llenyddiaeth Saesneg Lefel UG
  • Llenyddiaeth Saesneg Lefel U

Beth a ddisgwylir ohonof i?

I ymrestru ar y cwrs hwn, mae angen ichi fod ag o leiaf 5 TGAU Gradd C neu uwch, yn cynnwys Mathemateg/Rhifedd Mathemateg a Gradd B mewn Iaith neu Lenyddiaeth Saesneg.

Beth sy'n digwydd nesaf?

Mae Llenyddiaeth Saesneg yn gymhwyster uchel ei barch a all fod yn fan cychwyn i nifer o yrfaoedd. Mae'n arbennig o ddefnyddiol i unrhyw un sy'n bwriadu mynd i'r maes Addysgu, y Gyfraith, Newyddiaduraeth, Rheolaeth o bob math a Gwyddor Gymdeithasol.

Gwybodaeth Ychwanegol

Cewch gyfle i gymryd rhan mewn gweithgareddau cyfoethogi a gweithgareddau allgyrsiol i gefnogi eich dilyniant academaidd a gofynnir am gyfraniad ariannol bach tuag at hyn. Disgwylir y bydd modd i chi gael mynediad at brofion a argymhellir sy’n rhai penodol ar gyfer eich cwrs.

Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

Ble alla i astudio CBAC Llenyddiaeth Saesneg UG Lefel 3?

CFAS0119A1
Campws Crosskeys
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 02 Medi 2025

Efallai bydd y cwrs hwn ar gael ar ddyddiadau, amseroedd neu gampysau eraill, cliciwch i weld eich opsiynau.

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr