Â鶹´«Ã½

En

OCR Safon Uwch Hanes yr Henfyd Lefel 3

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Lefelau A

Lefel

Lefel
3

Dull Astudio
Dull Astudio
Llawn Amser
Lleoliad

Lleoliad
Parth Dysgu Torfaen

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
03 Medi 2025

Hyd

Hyd
2 flynedd

Gofynion Mynediad

Gofynion Mynediad

I gofrestru ar y cwrs hwn, bydd angen i chi feddu ar o leiaf 5 cymhwyster TGAU, gradd C neu uwch, ac o leiaf gradd C mewn Saesneg a Mathemateg/Rhifedd.

Yn gryno

Cwrs dwy flynedd o hyd yw hwn, sydd yn defnyddio dull sy’n seiliedig ar ffynonellau i astudio digwyddiadau, unigolion, cymdeithasau a datblygiadau arwyddocaol, yn ogystal â materion ynghylch hanes Groegaidd a Rhufeinig o fewn eu cyd-destun hanesyddol ehangach.

Dyma'r cwrs i chi os...

...oes gennych angerdd dros hanes ac rydych yn chwilfrydig am yr henfyd

...ydych yn mwynhau ymchwilio a darganfod ffeithiau gan ddefnyddio gwahanol fathau o ffynonellau

...oes gennych ddiddordeb mewn astudio hanes, hen hanes, archaeoleg neu'r clasuron yn y Brifysgol.

Beth fyddaf yn ei wneud?

Rhennir y cwrs yn 4 uned a addysgir dros ddwy flynedd gyda chymhwyster Lefel A llawn yn cael ei ennill ar ddiwedd y cwrs. 

Yn y flwyddyn gyntaf byddwch yn cwblhau dau fodiwl. Bydd y modiwl cyntaf yn canolbwyntio ar y berthynas rhwng y taleithiau Groegaidd a di-Groeg rhwng 492 a 404 CC, gan dalu sylw arbennig i Sparta, Athen a Phersia. Bydd yr ail yn ymchwilio i deyrnasiad pum Ymerawdwr cyntaf Rhufain, sef Augustus, Tiberius, Gaius, Claudius a Nero. 

Yn yr ail flwyddyn byddwch yn cwblhau dau fodiwl manwl. Bydd y modiwl cyntaf yn mynd i'r afael â thwf Macedon rhwng 359-323 CC gan gynnwys gyrfa a marwolaeth Alecsander Fawr. Bydd yr ail yn ystyried chwalfa'r Weriniaeth Hwyr rhwng 88 a 31 CC a'r rôl a chwaraewyd gan unigolion megis Gnaeus Pompey, Julius Caesar, Mark Anthony a Cleopatra. Wrth astudio'r cwrs hwn byddwch yn datblygu sgiliau pwnc-benodol. Bydd hefyd yn eich helpu i ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy pwysig megis sgiliau ymchwil, y gallu i ddadansoddi, gwerthuso a chyfathrebu gwybodaeth a'r gallu i lunio dadl. Byddwch hefyd yn datblygu eich sgiliau meddwl beirniadol a threfnu, a'r gallu i weithio'n annibynnol, sgiliau sydd i gyd yn hanfodol ar gyfer y brifysgol.

Ar ôl cwblhau'r cwrs yn llwyddiannus, byddwch yn ennill gradd Safon Uwch mewn Hanes yr Henfyd, fodd bynnag mae'n bosibl cofrestru ar gyfer cymhwyster UG, a byddwch yn sefyll yr arholiad ar ddiwedd y flwyddyn gyntaf. Bydd myfyrwyr Hanes yn cael y cyfle i gymryd rhan mewn dosbarthiadau meistr gyda phrifysgolion mawreddog, mynychu ysgolion haf a chymryd rhan mewn teithiau sy’n seiliedig ar hanes i hyrwyddo dealltwriaeth ehangach o'r pwnc hwn.

Beth a ddisgwylir ohonof i?

I ymrestru ar y cwrs hwn, bydd angen o leiaf 5 TGAU ar radd C neu’n uwch arnoch, ac o leiaf gradd C mewn Saesneg a Mathemateg/Rhifedd.

Beth sy'n digwydd nesaf?

Pwnc academaidd traddodiadol cydnabyddedig yw Hanes yr Henfyd, a fydd yn eich galluogi i symud ymlaen i addysg uwch neu gyflogaeth. Mae cyfleoedd ar gael i raddedigion hanes mewn amrywiaeth o broffesiynau gan gynnwys y Gyfraith, Addysg, Busnes, Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a gwaith Amgueddfa.

Gwybodaeth Ychwanegol

Bydd rhaid i chi wneud cyfraniadau ariannol at gost teithio ar gyfer ymweliadau addysgol. Byddai ymweliadau tebygol yn cynnwys cestyll a safleoedd treftadaeth lleol, yn ogystal â’r cyfle i gymryd rhan mewn taith dramor sy’n gysylltiedig â’r cwrs Hanes Safon Uwch.

Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

Ble alla i astudio OCR Safon Uwch Hanes yr Henfyd Lefel 3?

PFAL0198Y1
Parth Dysgu Torfaen
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 03 Medi 2025

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr