BTEC Diploma Cyntaf mewn Busnes Lefel 2
Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Cyfrifeg, Busnes a’r Gyfraith
Lefel
2
Llawn Amser
Lleoliad
Campws Crosskeys
Dyddiad Cychwyn
01 Medi 2025
Hyd
1 flwyddyn
Gofynion Mynediad
O leiaf 4 TGAU gradd D neu uwch, gan gynnwys naill ai Mathemateg/Rhifedd neu Gymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg; neu gymhwyster Diploma Lefel 1 priodol yn y maes galwedigaethol perthnasol sy'n cynnwys naill ai TGAU Mathemateg/Rhifedd neu Gymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg
Yn gryno
Byddwch yn datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth o’r sector busnes i’ch galluogi i gael sgiliau technegol a chyflogadwyedd a chael cymhwyster galwedigaethol sy’n cael ei gydnabod yn genedlaethol.
Dyma'r cwrs i chi os...
... Oes gennych ddiddordeb dilyn gyrfa mewn busnes
... Ydych eisiau gwybod mwy am y byd busnes a marchnata
... Hoffech fynd ymlaen i astudio Diploma Estynedig Lefel 3 mewn Busnes.
Beth fyddaf yn ei wneud?
Byddwch yn canolbwyntio ar y sgiliau y mae cyflogwyr yn edrych amdanynt fel cyfathrebu, rhifedd, sgiliau cyfathrebu, dadansoddi, dehongli, cymhwyso a gwerthuso gwybodaeth. Mae’r unedau yn cynnwys:
- Mentergarwch yn y byd busnes
- Hyrwyddo brand
- Y gyfraith a hawliau defnyddwyr
Beth a ddisgwylir ohonof i?
Rhaid cael o leiaf 4 TGAU gradd D neu uwch sy’n cynnwys un ai Mathemateg/Mathemateg Rhifedd neu Saesneg/Cymraeg Iaith Gyntaf; NEU gymhwyster Diploma Lefel 1 priodol mewn maes galwedigaethol perthnasol sy’n cynnwys un ai gradd TGAU Mathemateg/Mathemateg Rhifedd neu Saesneg/Cymraeg Iaith Gyntaf.
Bydd angen i chi ymrwymo’n llawn i fod yn bresennol, parchu eraill, dangos brwdfrydedd am y pwnc a chael hunan-gymhelliant. Cewch eich asesu’n barhaus drwy waith cwrs a fydd yn cynnwys gweithgareddau ysgrifenedig ac ymarferol a bydd yna arholiadau. Mae yna ddisgwyliad i chi barhau â’ch astudiaethau a’ch gwaith cwrs yn eich amser eich hun.
Pa gymwysterau y byddwch yn eu cael:
- Lefel 2 Busnes
- Gweithgareddau Sgiliau
- Mathemateg a Saesneg Ìý
- Cymwysterau perthnasol eraill i fwyhau eich set o sgiliau
Beth sy'n digwydd nesaf?
Diploma Estynedig Lefel 3 mewn Busnes neu raglen Lefel 3 perthnasol arall.
Gwybodaeth Ychwanegol
Bydd disgwyl i chi wneud cyfraniad wedi ei gymorthdalu tuag at dripiau a gweithgareddau busnes.
Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.
CFBD0066AA
Campws Crosskeys
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 01 Medi 2025
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr