BTEC Diploma mewn Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig / Peirianneg Sifil Lefel 3
Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Adeiladu
Lefel
3
Llawn Amser
Lleoliad
Campws Dinas Casnewydd
Dyddiad Cychwyn
02 Medi 2025
Hyd
1 flwyddyn
Gofynion Mynediad
Byddwch angen o leiaf 5 TGAU gradd C neu uwch, gan gynnwys Mathemateg a Chymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg neu radd Teilyngdod mewn cymhwyster Diploma Lefel 2 priodol a TGAU gradd C mewn Mathemateg a Chymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg.
Yn gryno
Mae’r cwrs hwn yn cwmpasu ystod eang o ddisgyblaethau adeiladu gan sicrhau eich bod yn gymwys i ddod o hyd i’ch llwybr gyrfaol dewisol.Ìý
Dyma'r cwrs i chi os...
... Hoffech yrfa yn nisgyblaethau’r diwydiant adeiladu technegol
... Ydych yn dda am weithio fel rhan o dîm
... Oes gennych ddiddordeb yn y theori y tu ôl i adeiladuÌýa dyluniad yr amgylchedd adeiledig
Ìý
Beth fyddaf yn ei wneud?
Wrth ennill gwybodaeth fanwl am y diwydiant, byddwch yn paratoi eich hun ar gyfer gyrfa bosibl mewn amrywiaeth o rolau gan gynnwys, ond nid yn gyfyngedig i; bensaernïaeth, cynllunio, peirianneg sifil, dylunio adeiladau, rheoli prosiectau, mesur meintiau, tirfesur adeiladau a thechnegwyr CAD.
Mae Prentisiaethau Dysgu Seiliedig ar Waith Coleg Gwent ar gael, a bydd hyn hefyd yn ffurfio dilyniant naturiol i'r prentisiaid hynny sydd eisoes wedi cyflawni NVQ seiliedig ar grefft.
Os oes gennych ddiddordeb mewn dilyn llwybr proffesiynol mewn adeiladu, mae hwn yn gwrs dilyniant da i chi. Fe allai’r cwrs gynnwys cynllunio, cynaliadwyedd, dylunio a gweithio fel rhan o dîm ar safle adeiladu. Byddwch yn astudio unedau craidd ac unedau dewisol, gan gynnwys:Ìý
- Dylunio
- Adeiladu
- Tirfesur
- Amcangyfrif
- Cynllunio a gweinyddu
Byddwch yn ymgymryd â phrosiectau rhyng-broffesiwn cyfredol a gweithgareddau ymarferol ar y safle, gan gynnwys tirfesur topograffaidd ac unionlin, cynllunio gyda chymorth cyfrifiadur (CAD) a thechnegau lluniadu graffegol.
Cewch eich asesu drwy waith cwrs, a fydd yn cynnwys gweithgareddau ysgrifenedig ac ymarferol. Ar ôl ei gwblhau, byddwch yn cyflawni:
- Lefel 3 mewn Adeiladu
- Cymwysterau priodol cefnogol i ehangu eich set sgiliau a diwallu anghenion y diwydiant
- Gweithgareddau Sgiliau
- Saesneg a Mathemateg
Beth a ddisgwylir ohonof i?
Er mwyn ymuno â’r cwrs hwn, bydd angen o leiaf 5 TGAU Gradd C neu uwch arnoch, gan gynnwys Saesneg/Cymraeg Iaith Gyntaf neu gymhwyster Diploma Lefel 2 priodol gyda Gradd Deilyngdod a Gradd C mewn TGAU Mathemateg a Saesneg/Cymraeg Iaith Gyntaf.
Gofynnir i chi hefyd:
- Fod â diddordeb mewn adeiladau a’r adeiladwaith trefol ehangach – nid yw adeiladu yn swydd sydd wedi’i chyfyngu i oriau gwaith y dydd ond yn hytrach yn ffordd o fywÌý Ìý
- Gallu gweithio o dan bwysau fel unigolyn neu fel rhan o dîm er mwyn cwblhau’r aseiniadau i derfynau amser a manylebau tynn Ìý
- Mae amgyffred gweddol o fathemateg yn ddymunol, gan fod llawer o’r modiwlau yn dibynnu ar egwyddorion mathemategol sylfaenol mewn cyd-destun adeiladu
Mae’n rhaid cael ymrwymiad llawn i bresenoldeb, ynghyd â pharch tuag at eraill, brwdfrydedd am y pwnc a hunangymhelliant.
Beth sy'n digwydd nesaf?
Bydd cwblhau Diploma 90 Credyd Blwyddyn 1 yn eich galluogi i symud ymlaen i’r ail flwyddyn a chwblhau’r Diploma Estynedig llawn. O’r fan honno, mae’r llwybrau cynnydd yn cynnwys:
- Gradd Sylfaen/HNC/HND neu gwrs gradd llawn
- Prentisiaethau lefel uwch
Gwybodaeth Ychwanegol
Adolygir yr holl gostau, sy’n agored i newidiadau.
Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.
NFBE0025AA
Campws Dinas Casnewydd
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 02 Medi 2025
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr