Â鶹´«Ã½

En

CBAC Diploma Sylfaenol mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Egwyddorion a Chyd-Destunau Lefel 3

Gallwch chi ddewis campws arall neu ddyddiad oddi ar y rhestr isod:

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Iechyd, Gofal a’r Blynyddoedd Cynnar

Lefel

Lefel
3

Dull Astudio
Dull Astudio
Llawn Amser
Lleoliad

Lleoliad
Parth Dysgu Torfaen

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
02 Medi 2025

Hyd

Hyd
1 flwyddyn

Gofynion Mynediad

Gofynion Mynediad

O leiaf 5 TGAU gradd C neu uwch, yn cynnwys Mathemateg/Rhifedd a Chymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg. Yn ogystal, dylai myfyrwyr feddu ar o leiaf gradd D mewn Bioleg neu Wyddoniaeth; neu radd Teilyngdod mewn cymhwyster Diploma Lefel 2 priodol gyda TGAU Mathemateg/Rhifedd a Saesneg

Yn gryno

Mae’r cwrs yma yn gyfuniad o ddysgu yn y dosbarth a phrofiad gwaith yn y diwydiant iechyd a gofal cymdeithasol.

Dyma'r cwrs i chi os...

...woffech gael gyrfa mewn iechyd a gofal cymdeithasol
...woffech symud ymlaen i gwrs uwch
...woffech wella eich gwybodaeth a’ch sgiliau yn y maes

Beth fyddaf yn ei wneud?

Pynciau cysylltiedig ag Iechyd a Gofal Cymdeithasol:

Cyflwynir y cwrs hwn trwy waith grŵp/trafodaethau dosbarth, dysgu yn yr ystafell ddosbarth a phrofiad gwaith, sy’n rhan orfodol o’r cwrs.

Byddwch yn cael eich asesu trwy arholiadau ac asesiadau di-arholiad NEA a byddwch yn cyflawni:

Lefel 3 Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Cymwysterau ategol priodol i ehangu eich set sgiliau a chwrdd ag anghenion diwydiant

Beth a ddisgwylir ohonof i?

Er mwyn cael lle ar y cwrs, byddwch angen o leiaf 5 TGAU Gradd C neu uwch, yn cynnwys Celf, Mathemateg/Rhifedd a Chymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg. Yn ogystal, dylai myfyrwyr feddu ar o leiaf gradd D mewn Bioleg neu Wyddoniaeth neu Radd Teilyngdod mewn cymhwyster Lefel 2 priodol gyda TGAU Mathemateg/Rhifedd a Chymraeg/Saesneg.

Mae ymrwymiad llawn i bresenoldeb yn ofynnol, yn ogystal â pharch tuag at eraill, brwdfrydedd dros y pwnc, y gallu i gymell eich hun a brwdfrydedd tuag at y diwydiant gofal. Byddwch yn cael eich asesu yn barhaus ac mae disgwyl eich bod yn parhau gyda'ch astudiaethau a'ch gwaith cwrs/lleoliad gwaith yn ystod eich amser eich hun.

Beth sy'n digwydd nesaf?

Cwblhau Iechyd a Gofal Cymdeithasol Lefel 3 yn llwyddiannus: Bydd Egwyddorion a Chyd-destun yn eich galluogi chi i fynd ymlaen i'r ail flwyddyn a chwblhau rhaglen lawn y cwrs. Wedyn gallwch fynd ymlaen i Addysg Uwch neu gyflogaeth yn y sectorau galwedigaethol statudol, gwirfoddol a phreifat mewn gwaith gofal, gwaith cymunedol, gwasanaeth cyhoeddus, llesiant addysg neu waith cymorth.

Gwybodaeth Ychwanegol

Rhaid i bob dysgwr gael gwiriad DBS Manwl boddhaol cyn dechrau'r cwrs (ar eu cost eu hunain).

Rhaid i geisiadau DBS gael eu cynnal yn Coleg Gwent.

Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

Ble alla i astudio CBAC Diploma Sylfaenol mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Egwyddorion a Chyd-Destunau Lefel 3?

PFBE0026AB
Parth Dysgu Torfaen
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 02 Medi 2025

Efallai bydd y cwrs hwn ar gael ar ddyddiadau, amseroedd neu gampysau eraill, cliciwch i weld eich opsiynau.

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr