BTEC Diploma Sylfaen Cenedlaethol mewn Cyfrifiadura Lefel 3
Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Cyfrifiadura a Thechnoleg Ddigidol
Lefel
3
Llawn Amser
Lleoliad
Parth Dysgu Torfaen
Dyddiad Cychwyn
02 Medi 2025
Hyd
1 flwyddyn
Gofynion Mynediad
O leiaf 5 TGAU ar radd C neu’n uwch, gan gynnwys Mathemateg/Rhifedd a Saesneg/Cymraeg Iaith Gyntaf; neu gymhwyster Diploma Lefel 2 priodol ar radd Teilyngdod gyda TGAU Mathemateg/Rhifedd a Saesneg/Cymraeg Iaith Gyntaf ar radd C neu’n uwch.
Yn gryno
Bydd dysgwyr yn datblygu craidd cyffredin o wybodaeth TG a meysydd astudiaeth megis: y perthynas rhwng caledwedd a meddalwedd sydd yn ffurfio systemau TG, rheoli a phrosesu data, defnyddio TG i gyfathrebu ac i rannu gwybodaeth a sgiliau meddwl yn gyfrifiadurol. Byddwch hefyd yn edrych ar egwyddorion dylunio a datblygu rhaglennu cyfrifiadur er mwyn datblygu’r sgiliau sydd eu hangen nid yn unig ar y sector cyfrifiadura ond ar bob sector sy’n defnyddio technoleg yn y byd modern.
Dyma'r cwrs i chi os...
… Ydych am gael cyfuniad o wybodaeth TG a sgiliau ymarferol
… Ydych chi’n frwdfrydig am dechnoleg
… Yn mwynhau bod yn greadigol
Beth fyddaf yn ei wneud?
Dyluniwyd y rhaglen i ddatblygu eich sgiliau technegol ym meysydd diogelwch systemau, datblygu meddalwedd a dylunio gemau.
Byddwch yn astudio unedau craidd yn y flwyddyn gyntaf, ac yna symud ymlaen i Ddiploma Estynedig yn yr ail flwyddyn. Byddwch yn astudio ystod eang iawn o bynciau TG a allai gynnwys:
Blwyddyn 1:
- Systemau technoleg gwybodaeth (arholiad)
- Creu systemau i reoli gwybodaeth (arholiad)
- Defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol mewn busnes
- Rhaglennu
- Datblygu gwe
- Datblygu gemau cyfrifiadur
Blwyddyn 2:
- Seibrddiogelwch a rheoli digwyddiadau (arholiad)
- Darparu gwasanaethau TG (arholiad)
- Rheoli prosiectau TG
- Storio ac offer cydweithio ar y cwmwl
- Graffigwaith digidol 2D a 3D
- Animeiddiad ac effeithiau digidol
- Y rhyngrwyd o bethau
Cewch eich asesu drwy waith cwrs ac arholiadau yn y blynyddoedd cyntaf ac ail, a byddwch yn cyflawni:
- Lefel 3 mewn Cyfrifiadura
- Gweithgareddau Sgiliau
- Mathemateg a Saesneg
- Cymwysterau perthnasol eraill i wella eich set sgiliau
Beth a ddisgwylir ohonof i?
Er mwyn ymrestru, bydd angen o leiaf 5 TGAU ar radd C neu’n uwch arnoch, gan gynnwys Mathemateg/Rhifedd a Saesneg/Cymraeg Iaith Gyntaf; neu gymhwyster Diploma Lefel 2 priodol ar radd Teilyngdod gyda TGAU Mathemateg/Rhifedd a Saesneg/Cymraeg Iaith Gyntaf ar radd C neu’n uwch.
Mae ymrwymiad llawn i bresenoldeb yn ofynnol. Parch tuag at eraill, brwdfrydedd dros y pwnc a hunan-gymhelliant yw’r rhinweddau hanfodol yr ydym yn disgwyl eu gweld ym mhob un o’n dysgwyr. Byddwch yn cael eich asesu’n barhaol a bydd disgwyl i chi barhau gyda’ch astudiaethau a’ch gwaith cwrs yn eich amser eich hun.
Beth sy'n digwydd nesaf?
Ìý
- HND mewn Cyfrifiadura neu Radd Sylfaen mewn Diogelwch TG yn Coleg Gwent
- Cyrsiau prifysgol mewn pynciau megis cyfrifiadura, dylunio gemau cyfrifiadur, gwaith fforensig cyfrifiadurol, e-fasnachu, gemau, rheoli systemau gwybodaeth neu reoli cronfeydd data.
- Cyflogaeth fel is-ddatblygwr neu dechnegydd cyfrifiaduron ayyb
- Prentisiaeth mewn cwmni TG neu Gyfrifiadura addas
Ìý
Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.
PFBE0041AA
Parth Dysgu Torfaen
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 02 Medi 2025
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr