CIPD Tystysgrif Sylfaen mewn Ymarfer Pobl Lefel 3
Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Cyfrifeg, Busnes a’r Gyfraith
Lefel
3
Rhan Amser (Dydd)
Lleoliad
Campws Crosskeys
Ffioedd
£590.00
Noder, mae’r holl ffioedd a hysbysebir yn berthnasol i un flwyddyn yn unig oni nodir yn wahanol yn yr adran gwybodaeth ychwanegol isod
Dyddiad Cychwyn
16 Ionawr 2025
Dydd Iau
Amser Dechrau
09:30
Amser Gorffen
16:30
Hyd
20 wythnos
Yn gryno
Mae'r cymhwyster Tystysgrif Sylfaen hwn mewn Ymarfer Adnoddau Dynol yn rhoi cyflwyniad clir i Adnoddau Dynol. Yn ogystal â darparu cymhwyster proffesiynol cydnabyddedig, bydd yn eich helpu i ennill ystod eang o sgiliau perthnasol, ymarferol y gallwch eu defnyddio yn y gweithle.
Mae'r cwrs hwn ar gyfer...
...y rhai sy’n astudio, yn dyheu am, neu’n dechrau ar, yrfa mewn ymarfer pobl.
...y rhai sy'n gweithio mewn swydd cefnogi ymarfer pobl ac yn dymuno datblygu eu gwybodaeth a darparu gwerth uniongyrchol a thymor byr i'w sefydliad.
...y rhai sy’n dymuno datblygu’r wybodaeth, y sgiliau a’r ddealltwriaeth arbenigol sydd eu hangen i fod yn weithiwr pobl proffesiynol.
Cynnwys y cwrs
Mae’r rhaglen dystysgrif wedi’i threfnu’n fodiwlau, gydag aseiniad 1500-2000 gair ar gyfer pob modiwl. Trwy astudio’r holl fodiwlau, bydd ymgeiswyr yn cwrdd â meini prawf penodol o ran cynnwys a nifer yr oriau hyfforddi a bennir gan y Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu (CIPD):
Modiwl 1 – Diwylliant Busnes a Newid mewn Cyd-destun
Modiwl 2 – Egwyddorion Dadansoddeg
Modiwl 3 - Ymddygiad Craidd ar gyfer Gweithwyr Pobl Proffesiynol
Modiwl 4 - Hanfodion Ymarfer Pobl (Recriwtio a Dethol; Rheoli Perfformiad;Hyfforddiant).
Gofynion Mynediad
Mae'r cymhwyster hwn wedi’i gynllunio ar gyfer dysgwyr 18+ oed sydd eisiau dysgu am ymarfer pobl. Er nad oes unrhyw feini prawf mynediad ffurfiol, rhaid i ddysgwyr allu bodloni gofynion y deilliannau dysgu a chael mynediad at y llythrennedd a rhifedd priodol sydd eu hangen i gwblhau’r Dystysgrif Sylfaen Lefel 3 CIPD mewn Ymarfer Pobl.
Cynhelir cyfweliad ar y ffôn gydag Arweinydd y Cwrs i egluro hyn, os oes angen, er mwyn sicrhau bod y dysgwyr ar y cwrs cywir sy’n bodloni eu hanghenion.
Gwybodaeth Ychwanegol
Mae Tystysgrif Sylfaen CIPD yn darparu cymhwyster a gydnabyddir yn broffesiynol ac mae'n hanfodol eich bod yn dod yn aelod o’r CIPD ar ôl i chi ddechrau astudio'r cymhwyster. Nid yw pris y cwrs yn cynnwys ffioedd cofrestru ar gyfer aelodaeth myfyriwr o’r CIPD (y mae'n rhaid eu talu'n uniongyrchol i'r CIPD).
Bydd angen i chi fynychu’r cwrs naill ai am un diwrnod neu un noson yr wythnos am 20 neu 40 wythnos yn y drefn honno (120 awr).
Mae myfyrwyr sy’n cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus yn cael Tystysgrif Sylfaen CIPD mewn Ymarfer Pobl.
Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus gallwch drosglwyddo i’r Diploma Cyswllt Lefel 5 mewn Rheoli Pobl.
Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.
CPCE3445AB
Campws Crosskeys
Rhan Amser (Dydd)
Dyddiad Cychwyn: 16 Ionawr 2025
Ar ôl archebu eich lle ar gwrs mae gennych 14 diwrnod i newid eich meddwl a gofyn am ad-daliad llawn. Gallwch ofyn am ad-daliad ar ôl y dyddiad hwn, ond bydd ond yn cael ei ganiatáu os ydych chi’n bodloni meini prawf polisi ffioedd y coleg. fee policy.
Os yw eich cwrs dewisol yn dechrau o fewn 14 diwrnod i chi archebu eich lle, nid yw’r polisi ad-daliad 14 diwrnod yn gymwys, a bydd unrhyw ad-daliad yn destun polisi ffioedd y coleg.
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr