Â鶹´«Ã½

En

NCFE CACHE Tystysgrif NCFE/CACHE mewn Deall Awtistiaeth Lefel 2

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Iechyd, Gofal a’r Blynyddoedd Cynnar

Lefel

Lefel
2

Dull Astudio
Dull Astudio
Rhan Amser (Dydd)
Lleoliad

Lleoliad
Campws Dinas Casnewydd

Ffioedd

Ffioedd
£190.00

Gall gostyngiadau fod ar gael
Eisiau rhannu’r gost dros gyfnod? Cysylltwch â ni i ddysgu am ein cynlluniau talu.
Noder, mae’r holl ffioedd a hysbysebir yn berthnasol i un flwyddyn yn unig oni nodir yn wahanol yn yr adran gwybodaeth ychwanegol isod
Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
12 Chwefror 2025

Dyddiau
Dyddiau
Dydd Mercher
Amser Dechrau

Amser Dechrau
12:00

Amser Gorffen

Amser Gorffen
15:00

Hyd

Hyd
15 wythnos

Yn gryno

Nod y cymhwyster hwn yw datblygu dealltwriaeth dysgwyr o awtistiaeth a'r egwyddorion o gefnogi unigolion ag awtistiaeth.

Mae hyn yn cwmpasu dull gweithredu sy'n canolbwyntio ar yr unigolion a’r dylanwad o ddulliau cyfathrebu cadarnhaol, sut i gefnogi ymddygiad cadarnhaol a sut y gellir cefnogi unigolion ag awtistiaeth i fyw bywydau iachus a boddhaus.

Amcan y cymhwyster hwn yw helpu dysgwyr i symud ymlaen o fewn cyflogaeth mewn amrywiaeth o sectorau, ac mewn nifer o rolau swydd lle bydd angen dealltwriaeth o awtistiaeth a gwybodaeth ar sut i gefnogi pobl ag awtistiaeth.

Mae'r cwrs hwn ar gyfer...

... Hoffech ddatblygu eich dealltwriaeth o awtistiaeth a’ch gwybodaeth ar sut i gefnogi pobl ag awtistiaeth.

Cynnwys y cwrs

Gall fod yn ddefnyddiol hefyd i ddysgwyr sy'n astudio cymwysterau yn y sectorau canlynol:

  • gofal iechyd
  • gofal cymdeithasol
  • hamdden
  • addysg
  • blynyddoedd cynnar
  • gwirfoddol

Y modiwlau a gwmpesir yw:

  • Cyflwyniad i awtistiaeth
  • Defnyddio dull sy'n canolbwyntio ar unigolion i gefnogi unigolion ag awtistiaeth
  • Cyfathrebu a rhyngweithio cymdeithasol yr unigolyn ag awtistiaeth
  • Prosesu synhwyraidd, canfyddiad a gwybyddiaeth mewn unigolion ag awtistiaeth
  • Cefnogi ymddygiad positif mewn unigolion ag awtistiaeth
  • Cefnogi unigolion ag awtistiaeth i fyw bywydau iachus a boddhaus

Cynhelir gwersi gyda 152 o oriau dysgu dan arweiniad.

Gofynion Mynediad

Nid oes unrhyw ofynion dysgu blaenorol yn benodol ar gyfer y cymhwyster hwn. Fodd bynnag, efallai y bydd yn ddefnyddiol i ddysgwyr gyflawni cymhwyster Lefel 1 yn gyntaf.

Gwybodaeth Ychwanegol

Dysgir y cwrs hwn gan ein staff addysgu sydd â chymwysterau llawn yn ogystal â phrofiad o awtistiaeth ar lefel Meistr.

Bydd cwblhau portffolio o waith a aseswyd yn llwyddiannus yn arwain at ddyfarnu Tystysgrif CACHE lefel 2.

Asesir y cymhwyster hwn yn fewnol ac fe’i sicrheir ei ansawdd yn allanol.

Gallai dysgwyr sy'n cyflawni’r cymhwyster hwn symud ymlaen i:

  • Diploma Lefel 3 ar gyfer y Gweithlu Plant (Addysgwr y Blynyddoedd Cynnar)
  • Tystysgrif Lefel 3 mewn Paratoi i Weithio mewn Gofal Cymdeithasol i Oedolion
  • Diploma Lefel 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Oedolion) ar gyfer Lloegr
  • Diploma Lefel 3 ar gyfer Gofal Plant Preswyl (Lloegr)
  • Dyfarniad Lefel 3 mewn Cefnogi Plant a Phobl Ifanc ag Awtistiaeth
  • Diploma Lefel 3 mewn Gwasanaethau Cymorth Gofal Iechyd
  • Diploma Lefel 3 mewn Cymorth Gofal Iechyd Clinigol.

Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

Ble alla i astudio NCFE CACHE Tystysgrif NCFE/CACHE mewn Deall Awtistiaeth Lefel 2?

NPCE3644JS
Campws Dinas Casnewydd
Rhan Amser (Dydd)
Dyddiad Cychwyn: 12 Chwefror 2025

Ar ôl archebu eich lle ar gwrs mae gennych 14 diwrnod i newid eich meddwl a gofyn am ad-daliad llawn. Gallwch ofyn am ad-daliad ar ôl y dyddiad hwn, ond bydd ond yn cael ei ganiatáu os ydych chi’n bodloni meini prawf polisi ffioedd y coleg. fee policy.

Os yw eich cwrs dewisol yn dechrau o fewn 14 diwrnod i chi archebu eich lle, nid yw’r polisi ad-daliad 14 diwrnod yn gymwys, a bydd unrhyw ad-daliad yn destun polisi ffioedd y coleg.

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr