VTCT Estheteg Anfeddygol Lefel 4
Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Trin Gwallt a Therapi Harddwch
Lefel
4
Rhan Amser (Dydd)
Lleoliad
Campws Crosskeys
Ffioedd
£360.00
Noder, mae’r holl ffioedd a hysbysebir yn berthnasol i un flwyddyn yn unig oni nodir yn wahanol yn yr adran gwybodaeth ychwanegol isod
Dyddiad Cychwyn
06 Ionawr 2025
Dydd Llun a Dydd Mawrth
Amser Dechrau
09:30
Amser Gorffen
16:00
Hyd
20 wythnos
Yn gryno
Cwrs therapi uwch yw hwn a gynlluniwyd ar gyfer Therapyddion Harddwch Lefel 3 sy’n dymuno ehangu eu cynnig o driniaethau.
Mae'r cwrs hwn ar gyfer...
... y rheini sy’n gymwys hyd at Lefel 3 mewn Therapi Harddwch
... y rheini sy'n 18 oed ac yn hÅ·n
... os ydych chi am ehangu eich portffolio o driniaethau
... os ydych chi'n meddu ar ddiddordeb mewn estheteg anfeddygol
Cynnwys y cwrs
Byddwch yn cyflawni'r cymwysterau canlynol drwy gydol y cwrs:
- Tystysgrif VTCT/ITEC Level 4 mewn Plicio Croen
- Dyfarniad VTCT/ITEC Level 4 mewn Nodwyddo Croen
- Dyfarniad VTCT/ITEC Lefel 4 mewn Dermaplanio
- Dyfarniad VTCT/ITEC Lefel 4 mewn Amledd Radio
- Dyfarniad VTCT/ITEC Lefel 4 mewn Triniaethau Plicio Croen
I ennill y cymwysterau hyn, rhaid i chi gyflawni'r asesiadau canlynol:
- Portffolio o Dystiolaeth
- Astudiaethau Achos ac Aseiniadau (bydd gofyn i chi ddarparu cleientiaid ar gyfer astudiaethau achos)
- Arholiadau allanol - ysgrifenedig ac ymarferol
Caiff y tystysgrifau hyn eu graddio fel Pasio, Teilyngdod neu Rhagoriaeth, a neilltuir tiwtorÌýpersonol i chi ar gyfer y cwrs i ddarparu cefnogaeth ac arweiniad personol ac academaidd.
Gallwch symud ymlaen i gyflogaeth neu i gyrsiau Lefel 5 mewn Estheteg.
Ìý
Gofynion Mynediad
- Cymhwyster lefel 3 mewn Therapi Harddwch neu gyfwerth
- 18 oed neu'n hÅ·n
Gwybodaeth Ychwanegol
Bydd gofyn i chi wisgo gwisg glinig lawn gydag esgidiau addas a bodloni disgwyliadau'r sefydliad dyfarnu. Mae presenoldeb ym mhob gwers yn hanfodol.
Nid oes yna ffioedd cwrs ond bydd gofyn i chi dalu am gofrestriad VTCT sy’n costio £450.00. Gellir talu'n llawn ar ddechrau'r cwrs neu dros 5 rhandaliad o £90.00 y mis. Trefnir hyn gyda chi ar adeg ymgeisio a chofrestru.
Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.
CPCE3701AD
Campws Crosskeys
Rhan Amser (Dydd)
Dyddiad Cychwyn: 06 Ionawr 2025
Ar ôl archebu eich lle ar gwrs mae gennych 14 diwrnod i newid eich meddwl a gofyn am ad-daliad llawn. Gallwch ofyn am ad-daliad ar ôl y dyddiad hwn, ond bydd ond yn cael ei ganiatáu os ydych chi’n bodloni meini prawf polisi ffioedd y coleg. fee policy.
Os yw eich cwrs dewisol yn dechrau o fewn 14 diwrnod i chi archebu eich lle, nid yw’r polisi ad-daliad 14 diwrnod yn gymwys, a bydd unrhyw ad-daliad yn destun polisi ffioedd y coleg.
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr