Â鶹´«Ã½

En

VTCT Tystysgrif Mynediad i Therapïau Esthetig Lefel 3

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Trin Gwallt a Therapi Harddwch

Lefel

Lefel
3

Dull Astudio
Dull Astudio
Rhan Amser (Dydd)
Lleoliad

Lleoliad
Campws Crosskeys

Ffioedd

Ffioedd
£84.00

Noder, mae’r holl ffioedd a hysbysebir yn berthnasol i un flwyddyn yn unig oni nodir yn wahanol yn yr adran gwybodaeth ychwanegol isod
Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
09 Ionawr 2025

Dyddiau
Dyddiau
Dydd Iau
Amser Dechrau

Amser Dechrau
09:30

Amser Gorffen

Amser Gorffen
16:00

Hyd

Hyd
20 wythnos

Yn gryno

Cymhwyster therapi harddwch yw’r Dystysgrif VTCT (ITEC) Lefel 3 mewn Mynediad i Therapïau Esthetig a anelir at y rheini sydd heb unrhyw gefndir ffurfiol mewn hyfforddiant therapi harddwch ac sydd am gael mynediad at astudiaeth ychwanegol o driniaethau therapi uwch ar lefelau 4 ac uwch.

Mae'r cwrs hwn ar gyfer...

...y rheini sydd am gynnig triniaethau esthetig anfeddygol fel rhan o’u busnes

...y rheini sydd heb unrhyw gymwysterau therapi harddwch ffurfiol

Cynnwys y cwrs

Mae'r cymhwyster hwn yn cynnwys unedau ar lefel 2 a 3 a gyfunwyd i ddarparu chi â’r wybodaeth greiddiol sy’n ofynnol i chi allu symud ymlaen yn uniongyrchol i hyfforddiant moddolrwydd penodol ar lefel 4+.

Mae’r pynciau a gwmpesir ar y cwrs yn cynnwys:

  • Cynnal iechyd a diogelwch yn y salon
  • Dadansoddi croen a gofal croen yr wyneb
  • Ymgynghoriad a gofal cleientiaid
  • Anatomeg, ffisioleg a phatholeg
  • Gwyddoniaeth drydanol

Drwy gydol y cymhwyster hwn, byddwch yn datblygu eich gwybodaeth a dealltwriaeth o ofynion iechyd a diogelwch perthnasol, anatomeg, ffisioleg, patholeg a gwyddor drydanol, ochr yn ochr â phrotocolau dadansoddi croen a thriniaeth ddiogel ar gyfer gofal croen yr wyneb. Byddwch hefyd yn datblygu'r wybodaeth, y ddealltwriaeth a'r sgiliau a fydd eu hangen arnoch chi i ymgynghori â chleientiaid a darparu cyngor penodol ar ôl-ofal a gofal cartref.

Cynhelir asesiadau ar ffurf arholiadau theori a osodir yn allanol, asesiadau ymarferol a phortffolio o dystiolaeth.

Gofynion Mynediad

Nid oes gofynion mynediad ffurfiol, ond bydd angen lefel dda o allu academaidd arnoch chi i'ch cefnogi chi drwy'r cwrs hwn.

Gwybodaeth Ychwanegol

Bydd yn ofynnol i chi wisgo gwisg glinig ac esgidiau addas.

Mae’r ffioedd cwrs yn cynnwys ffioedd dysgu a chofrestru. Mae’r ffioedd tiwtora yn ddyledus ar adeg archebu/ymrestru. Gellir talu hyn trwy ddebyd uniongyrchol dros bum rhandaliad os bydd angen. Os yw eich cyflogwr yn ariannu eich cwrs, bydd angen cadarnhad ysgrifenedig o hyn fel bod y coleg yn gallu trefnu i'w anfonebu.

Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

Ble alla i astudio VTCT Tystysgrif Mynediad i Therapïau Esthetig Lefel 3?

CPCE3775AC
Campws Crosskeys
Rhan Amser (Dydd)
Dyddiad Cychwyn: 09 Ionawr 2025

Ar ôl archebu eich lle ar gwrs mae gennych 14 diwrnod i newid eich meddwl a gofyn am ad-daliad llawn. Gallwch ofyn am ad-daliad ar ôl y dyddiad hwn, ond bydd ond yn cael ei ganiatáu os ydych chi’n bodloni meini prawf polisi ffioedd y coleg. fee policy.

Os yw eich cwrs dewisol yn dechrau o fewn 14 diwrnod i chi archebu eich lle, nid yw’r polisi ad-daliad 14 diwrnod yn gymwys, a bydd unrhyw ad-daliad yn destun polisi ffioedd y coleg.

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr