VTCT Diploma mewn Therapi Harddwch Lefel 2
Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Trin Gwallt a Therapi Harddwch
Lefel
2
Llawn Amser
Lleoliad
Parth Dysgu Blaenau Gwent
Dyddiad Cychwyn
02 Medi 2025
Hyd
1 flwyddyn
Gofynion Mynediad
... Oes gennych chi o leiaf 3 TGAU ar radd D neu’n uwch
Yn gryno
Mae'r cwrs Lefel 2 mewn Therapi Harddwch ar gyfer y rheini sydd am ddechrau gweithio yn y diwydiant harddwch neu symud ymlaen o Therapi Harddwch Lefel 1 i'r triniaethau Therapi Harddwch mwyaf safonol.
Dyma'r cwrs i chi os...
... Oes gennych chi ddiddordeb brwd mewn Therapi Harddwch
... Ydych chi am ddysgu sgiliau a thechnegau harddwch newydd i wella eich gallu presennol ymhellach.
... Ydych chi’n ystyried gyrfa fel Therapydd Harddwch
Beth fyddaf yn ei wneud?
Byddwch yn dysgu am ymgynghori â chleientiaid ac yn astudio unedau cleientiaid megis:
- Trin dwylo
- Trin traed
- Trin wynebau
- Wacsio
- Colur
- Dyletswyddau derbynfa’r salon
- Iechyd a Diogelwch
- Gofal cleientiaid
- Trin blew amrant ac aeliau
- Lliw haul
- Codi blew amrant
- Estyniadau Aeliau - cyflwyniad
Ym mhob un o'r unedau hyn, byddwch yn cael asesiadau ymarferol i ddangos cymhwysedd ymarferol, yn ogystal ag arholiadau ac aseiniadau a fydd yn cwmpasu holl ganlyniadau'r meini prawf i sicrhau y cyflawnwyd pob un ohonynt.Â
Beth a ddisgwylir ohonof i?
Disgwylir i chi fynychu pob sesiwn, gweithio'n galed a chynnal asesiadau ymarferol ar gleientiaid sy’n talu, gan fod y salon yn sefydliad hyfforddi realistig.
Bydd angen i chi fod yn hunanysgogol, yn weithgar, yn ymfalchïo yn eich ymddangosiad a meddu ar bersonoliaeth gyfeillgar.
Bydd disgwyl i chi weithio ar gleientiaid sy’n talu a mynychu lleoliad gwaith fel rhan o'r rhaglen.
Beth sy'n digwydd nesaf?
Ar ôl Lefel 2 mewn Therapi Harddwch, byddwch chi’n gallu symud ymlaen i Lefel 3 er mwyn uwchsgilio eich triniaethau harddwch.
Neu, gan ddibynnu ar eich set sgiliau a'ch opsiynau, gallech symud ymlaen i Lefel 3 mewn Technoleg neu Golur Theatrig.
Ar ôl gorffen y cwrs hwn, byddwch chi hefyd yn gymwys i gynnig Lamineiddio Aeliau.
Gwybodaeth Ychwanegol
Cod Gwisg:
- Gwisg Unffurf
- Rhaid clymu gwallt yn ôl yn daclus i ffwrdd o’r wyneb
- Gwisgwch golur bob dydd
- Dim tyllu: dim ond modrwy briodas y caniateir ei gwisgo yn y salon
Fel amod o'ch lle ar y cwrs hwn, bydd disgwyl i chi brynu'r cit priodol oddi wrth ein cyflenwr cymeradwy sy'n costio tua £86 yn amodol ar adolygiad / prisiau’n codi oherwydd chwyddiant.
I adlewyrchu disgwyliadau'r diwydiant, bydd gofyn i chi wisgo gwisg salon Coleg Gwent y gellir ei harchebu oddi wrth ein cyflenwr cymeradwy. Gellir cael manylion ar sut i archebu eich gwisg, gydag opsiynau i dalu ein cyflenwr, gan eich Pennaeth Ysgol, Darlithydd neu Dechnegydd. Y pris ar gyfer 2024/2025 yw tua £45, yn amodol ar prisiau’n cynyddu oherwydd chwyddiant.
Gellir codi costau ychwanegol yn ystod y flwyddyn ar gyfer ymweliadau addysgol.
Mae'r holl gostau dan adolygiad ac maent yn amodol ar newid.
Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.
EFDI0446AA
Parth Dysgu Blaenau Gwent
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 02 Medi 2025
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr