Â鶹´«Ã½

En

Gradd Sylfaen mewn Rheoli Iechyd, Lles a Gofal Cymdeithasol

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Iechyd, Gofal a’r Blynyddoedd Cynnar

Dull Astudio
Dull Astudio
Llawn Amser
Lleoliad

Lleoliad
Parth Dysgu Torfaen

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
19 Medi 2025

Gofynion Mynediad

Gofynion Mynediad

48 pwynt UCAS - cyfrifiannell tariff UCAS

NEU

Mynediad i AU lle rydych wedi cyflawni Diploma Llwyddiant gyda 45 Pas

HEFYD

Llwyddiannau mewn tri phwnc TGAU gradd C neu’n uwch, gan gynnwys Mathemateg a Saesneg Iaith (neu gyfwerth).

Sylwch, os nad ydych yn bodloni meini prawf y radd, yna efallai y bydd modd ystyried oedran a phrofiad.

Yn gryno

Byddwch yn dysgu am faterion iechyd cymunedol ac yn datblygu ystod o sgiliau ymarferol i’w defnyddio gyda chleifion. Byddwch yn gwella eich sgiliau cyfathrebu cyffredinol, gweithio mewn tîm, rheoli amser a TG er mwyn gallu gweithio mewn ystod o leoliadau. Cynlluniwyd y cwrs hwn yn benodol i'ch helpu i symud ymlaen i gwrs ym maes iechyd yn y brifysgol megis nyrsio, bydwreigiaeth a gwyddoniaeth barafeddygol.

Dyma'r cwrs i chi os...

... Ydych yn gweithio yn y sector iechyd a gofal ar hyn o bryd

... Hoffech ddatblygu eich gyrfa

... Ydych chi'n ystyried cwrs sy’n gysylltiedig ag iechyd yn y dyfodol

Beth fyddaf yn ei wneud?

Blwyddyn Un: Gradd mewn Iechyd, Lles a Gofal Cymdeithasol

  • Sgiliau Astudio ar gyfer Addysg Uwch - 20 credyd
  • Ymchwilio i Iechyd a Lles - 20 credyd
  • Y Gyfraith, Moeseg a Pholisi - 20 credyd
  • Datblygiad Proffesiynol 1 - 40 credyd
  • Hanfodion Arwain a Rheoli mewn Ymarfer Iechyd, Lles a Gofal Cymdeithasol - 20 credyd

Blwyddyn Dau: Gradd mewn Iechyd, Lles a Gofal Cymdeithasol

  • Lles mewn Cymunedau a Chymdeithas - 20 credyd
  • Datblygiad Proffesiynol 2 - 40 credyd
  • Cyfathrebu ac Ymyrraeth - 20 credyd
  • Arweinyddiaeth a Rheolaeth Integredig - 20 credyd
  • Cymhwyso Ymchwil i Waith - 20 credyd

Asesiad

Mae dulliau asesu yn dyblygu’r gweithgareddau hynny sydd eu hangen yn y gweithle megis ysgrifennu adroddiadau, cyflwyniadau, datblygu posteri academaidd, ysgrifennu adfyfyriol, portffolios sy’n seiliedig ar waith, adolygiadau llenyddiaeth, dadansoddi achosion cymhleth a rheoli newid.

Beth a ddisgwylir ohonof i?

Byddwch angen lleiafswm o 3 TGAU Gradd C neu uwch, yn cynnwys Mathemateg a Saesneg Iaith (neu gyfwerth) ac:

  • 48 o bwyntiau UCAS - cyfrifiannell tariff UCAS 
  • Mynediad i Addysg Uwch os ydych wedi ennill Diploma Llwyddo gyda 45 Llwyddo

Noder os nad ydych yn bodloni'r meini prawf gradd, efallai y rhoddir ystyriaeth i oed a phrofiad.

Myfyrwyr Rhyngwladol:

Yn gyffredinol, bydd angen i ymgeiswyr rhyngwladol fod wedi cyflawni gradd IELTS gyffredinol gyda sgôr o 6.0 ac isafswm sgôr o 5.5 ym mhob cydran.

Beth sy'n digwydd nesaf?

Ar ôl y cwrs hwn, gallwch fynd ymlaen at gyflogaeth mewn swydd ymarferydd cynorthwyol mewn ystod o sefydliadau gofal iechyd, megis y GIG, prosiectau iechyd cymunedol, y sector preifat, gwaith adsefydlu neu ofal cymdeithasol. Gallwch hefyd symud ymlaen at radd BA llawn mewn Iechyd a Llesiant Cymunedol neu ymgeisio ar gyfer cwrs arall sy'n gysylltiedig ag iechyd megis; nyrsio, bydwreigiaeth a gofal cymdeithasol.

Gwybodaeth Ychwanegol

Bydd angen i chi wneud profiad gwaith, gan fod hyn yn gysylltiedig â modiwlau craidd. Bydd angen gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS). Felly, mae'n hanfodol i ddysgwyr wneud cais am wiriad DBS fydd yn costio £55.00.

Rhoddir masnachfraint ar gyfer y cwrs hwn gan Brifysgol De Cymru.

Y cod UCAS yw 4A83

Efallai y byddwch angen llyfrau o'r rhestr ddarllen, fodd bynnag fe'ch anogir i ddefnyddio'r llyfrgell ac adnoddau ar-lein. 

Yn Coleg Gwent, rydym yn adolygu ein cyrsiau'n rheolaidd mewn ymateb i batrymau newidiol o ran cyflogaeth a'r galw am sgiliau i sicrhau ein bod yn cynnig profiad dysgu sydd wedi'i gynllunio i adlewyrchu anghenion myfyrwyr heddiw a gofynion cyflogwyr yfory.

Os bydd cynnwys cwrs yn cael ei newid yn sylweddol yn ystod proses adolygu, byddwn yn ysgrifennu atoch i roi gwybod i chi ac i drafod y newidiadau ar gyfer y flwyddyn i ddod. Ond beth bynnag fydd y canlyniad, ein nod yw rhoi’r sgiliau a’r meddylfryd i’n myfyrwyr i lwyddo beth bynnag ddaw yfory. Eich dyfodol, diogel ar gyfer y dyfodol.

Rydym yn ail-ddilysu cyrsiau yn rheolaidd ar gyfer sicrhau ansawdd a gwelliant.

Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

Ble alla i astudio Gradd Sylfaen mewn Rheoli Iechyd, Lles a Gofal Cymdeithasol?

PFDG0026AA
Parth Dysgu Torfaen
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 19 Medi 2025

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr