City & Guilds Diploma NVQ mewn Trin Gwallt (Oedolion) Lefel 3
Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Trin Gwallt a Therapi Harddwch
Lefel
3
Llawn Amser
Lleoliad
Campws Dinas Casnewydd
Dyddiad Cychwyn
04 Medi 2025
Hyd
1 flwyddyn
Gofynion Mynediad
Er mwyn dilyn y cwrs yma, bydd angen i chi fod yn gyflogedig mewn lleoliad addas.
Yn gryno
Cynhelir y diploma yn eich gweithle a choleg, lle bo’n angenrheidiol. Nid yn unig y mae hwn yn gam perffaith yn eich gyrfa trin gwallt, ond mae hefyd yn rhoi amrywiaeth o sgiliau hanfodol i’ch helpu i ddatblygu eich gyrfa.Dyma'r cwrs i chi os...
…brentisiaethau trin gwallt sydd am wella eu sgiliau a datblygu’n uwch steilydd.Beth fyddaf yn ei wneud?
Fel arfer, fe gymer y City & Guilds Diploma Lefel 3 mewn Trin Gwallt8 mis i’w gwblhau, ac mae’n ymdrin â nifer o bynciau gorfodol a dewisol, gydag asesydd yn ymweld i gwblhau asesiadau yn y gweithle ac adolygiadau cynnydd.
Ìý
Y pynciau gorfodol yw:
- Darparu gwasanaethau ymgynghori ar drin gwallt
- Hyrwyddo gwasanaethau ychwanegol neu gynhyrchion i gwsmeriaid
- Torri gwalltÌýyn greadigol gan ddefnyddio cyfuniad o dechnegau
- Monitro gweithdrefnau i reoli gweithrediadau gwaith yn ddiogel
Ìý
Gall pynciau dewisol gynnwys:
- Lliwio gwallt gan ddefnyddio amrywiaeth o dechnegau
- Triniaethau gwallt a chroen y pen
- Gwasanaethau cywiro lliw
- Gwasanaethau ymestyniadau gwallt creadigol
- Steilio a gwisgo gwallt yn greadigol
- Gwasanaethau ymgynghori arbenigol i gyflyrau gwallt a chroen y pen
- Gwisgo gwallt hir yn greadigol
- Datblygu a gwella sgiliau trin gwallt yn greadigol
- Cyfrannu at effeithiolrwydd ariannol y busnes
- Creu amrywiaeth o effeithiau a bermiwyd
- Cyfrannu at gynllunio a gweithredu gweithgareddau hyrwyddo
- Cefnogi gwella gwasanaeth i gwsmeriaid.
Hefyd, mae’r cwrs yn cynnwys amrywiaeth o gymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru (SHC) a fwriadwyd i’ch helpu i ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen arnoch i wneud y gorau o’ch dysgu, eich gwaith a’ch bywyd. Maent yn cynnwys:
- Cymhwyso Rhif Lefel 2 – bydd y cymhwyster hwn yn eich helpu i wella eich sgiliau rhif, gan gynnwys rhoi dealltwriaeth o ddata rhifiadol i chi, gwneud cyfrifiadau, dehongli canlyniadau a chyflwyno canfyddiadau.
- Cyfathrebu Lefel 2 – bydd hwn yn eich helpu i wella eich sgiliau cyfathrebu wrth siarad, gwrando, darllen ac ysgrifennu.
- Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu (TGCh) Lefel 1 – fe’i bwriadwyd i wella eich sgiliau TGCh, gan gynnwys canfod, dewis a chyfnewid gwybodaeth a datblygu a chyflwyno gwybodaeth.
Gwybodaeth Ychwanegol
Fel amod o’ch lle ar y cwrs hwn, bydd disgwyl i chi brynu'r offer priodol oddi wrth ein cyflenwr cymeradwy.ÌýY gost am hyn yw tua £140,Ìýyn amodol ar gynnydd mewn prisiau chwyddiant.
I adlewyrchu disgwyliadau'r diwydiant, bydd gofyn i chi wisgo gwisg salon Coleg Gwent y gellir ei harchebu oddi wrth ein cyflenwr cymeradwy. Gellir cael manylion ar sut i archebu eich gwisg salon am ddim, a setiau ychwanegol, yn ogystal ag opsiynau talu’r cyflenwyr, oddi wrth eich Pennaeth Ysgol, Darlithydd neu Dechnegydd.Ìý Y pris ar gyfer 2024/2025 yw £45,Ìýyn amodol ar gynnydd mewn prisiau chwyddiant.
Gall fod costau ychwanegol yn ystod y flwyddyn ar gyfer ymweliadau addysgol.
Mae'r holl gostau yn cael eu hadolygu a gallent newid.
Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.
NFDI0011AB
Campws Dinas Casnewydd
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 04 Medi 2025
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr