VTCT Diploma mewn Gwallt a Harddwch Lefel 1
Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Trin Gwallt a Therapi Harddwch
Lefel
1
Llawn Amser
Lleoliad
Campws Crosskeys
Dyddiad Cychwyn
03 Medi 2025
Hyd
1 flwyddyn
Yn gryno
Mae'r cwrs hwn yn ymdrin â thrin gwallt a therapi harddwch, gan eich caniatáu i ddewis eich llwybr penodol pan fyddwch yn symud ymlaen i'r lefel nesaf.Â
Mae'r cwrs hwn ar gyfer...
... ydych yn greadigol
... oes gennych ddiddordeb brwd mewn gwallt a harddwch
... ydych yn ansicr pa gwrs sy'n iawn i chi
Cynnwys y cwrs
Ar y cwrs hwn, byddwch yn dysgu am y canlynol:
- Siampw a chyflyru
- Lliw dros dro
- Plethu a steilio gwallt merched
- Gofal croen
- Manicure sylfaenol
- Colur sylfaenol a cholur ffotograffig
- Paentio wyneb
- Celf ewinedd
Darperir y cwrs drwy:
- Ddosbarthiadau theori
- Gweithdai ymarferol
- Amgylcheddau salon go iawn yn y coleg
- Arddangosiadau colur a siaradwyr gwadd o'r diwydiant
- Ymarferion chwarae rôl
- Gwaith grwp
- Lleoliadau gwaith
- Teithiau ac ymweliadau
Asesiad
Byddwch yn cael eich asesu drwy asesiadau ymarferol, aseiniadau, prosiectau a phrofion amlddewis ar-lein yn ymdrin â'r wybodaeth greiddiol.
Pan fyddwch yn cwblhau'r cwrs, byddwch yn cyflawni:
- Diploma Lefel 1 mewn Gwallt a Harddwch
- Cymwysterau cynorthwyol priodol er mwyn ehangu eich set sgiliau a bodloni anghenion y diwydiant
- Gweithgareddau Sgiliau
- Mathemateg a Saesneg
- Sgiliau Cyfoethogi Creadigol (gweithgareddau ac arddangosiadau cymunedol)
Wedi i chi gwblhau'r cwrs, gallwch fynd ymlaen i Ddiploma Lefel 1 mewn Trin Gwallt, Diploma Lefel 2 mewn Therapi Harddwch neu Ddiploma Lefel 2 mewn Gwallt a Cholur (yn dibynnu ar y graddau a gafwyd yn y cwrs cyfun).
Gofynion Mynediad
Bydd angen isafswm o 3 chymhwyster TGAU (gradd G neu uwch) gan gynnwys Mathemateg/Rhifedd a Saesneg/Cymraeg iaith gyntaf neu gymhwyster Lefel Mynediad perthnasol. Caiff ymgeiswyr nad ydynt yn meddu ar isafswm y cymwysterau TGAU eu hystyried yn seiliedig ar brofiad blaenorol neu gymwysterau eraill.
Bydd angen hunan-gymhelliant, bod yn weithiwr caled, meddu ar bersonoliaeth gyfeillgar a lefel uchel o ymgyflwyniad personol.
Mae presenoldeb a phrydlondeb yn brif ofyniad ar gyfer y cwrs hwn.
Gwybodaeth Ychwanegol
Gwisg:
- Rhaid gwisgo tiwnig gyda throwsus ac esgidiau duon mewn salonau
- Gwallt wedi'i glymu'n ôl yn daclus oddi wrth yr wyneb
- Ni ddylid gwisgo estyniadau ewinedd na farnais ewinedd
- Dim tlysau na gemwaith - caniateir gwisgo modrwy briodas yn unig
Fel amod o’ch lle ar y cwrs hwn, bydd disgwyl i chi brynu'r offer priodol oddi wrth ein cyflenwr cymeradwy. Y gost am hyn yw tua £166, yn amodol ar adolygiad/cynnydd pris chwyddiant.
I adlewyrchu disgwyliadau'r diwydiant, bydd gofyn i chi wisgo gwisg salon Coleg Gwent y gellir ei harchebu oddi wrth ein cyflenwr cymeradwy. Gellir cael manylion ar sut i archebu eich gwisg salon am ddim, a setiau ychwanegol, yn ogystal ag opsiynau talu’r cyflenwyr, oddi wrth eich Pennaeth Ysgol, Darlithydd neu Dechnegydd. Y pris ar gyfer 2024/2025 yw £45, yn amodol ar adolygiad/cynnydd pris chwyddiant
Gall fod costau ychwanegol yn ystod y flwyddyn ar gyfer ymweliadau addysgol.
Mae'r holl gostau yn cael eu hadolygu a gallent newid.
Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.
CFDI0441AA
Campws Crosskeys
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 03 Medi 2025
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr