IMI Diploma mewn Egwyddorion Cynnal a Chadw a Thrwsio Cerbydau (Beiciau Modur) Lefel 3
Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Moduro
Lefel
3
Llawn Amser
Lleoliad
Campws Crosskeys
Dyddiad Cychwyn
03 Medi 2025
Hyd
1 flwyddyn
Yn gryno
Caiff y cwrs hwn ei ardystio fel Diploma Technegol a’i fwriad yw diwallu elfen ddamcaniaethol y cwrs VCQ Lefel 3 mewn Cynnal a Chadw a Thrwsio Beiciau Modur. Mae hefyd yn diwallu gofynion y Fframwaith Prentisiaeth Beiciau Modur.
Mae'r cwrs hwn ar gyfer...
... Ydych eisoes wedi cwblhau Diploma Lefel 2 mewn Cynnal a Chadw a Thrwsio Cerbydau (Beiciau Modur)
... Oes gennych ddiddordeb ysol mewn beiciau modur
... Ydych yn dda am ddatrys problemau ac yn weithgar
Cynnwys y cwrs
Ceir 9 o fodiwlau i’w cwblhau trwy gyfuniad o elfennau ymarferol a damcaniaethol. Byddwch yn astudio unedau fel:
- Iechyd, diogelwch a threfniadau da yn yr amgylchedd modurol
- Cymorth ar gyfer rolau swyddi yn yr amgylchedd modurol
- Deunyddiau, dulliau saernïo, offer a dyfeisiadau mesur a ddefnyddir yn yr amgylchedd modurol
- Diagnosio a chywiro diffygion trydanol mewn beiciau modur
- Paratoi ac archwilio beiciau modur
- Diagnosio a chywiro diffygion mewn injans beiciau modur
- Diagnosio a chywiro diffygion mewn systemau siasis beiciau modur
- Diagnosio a chywiro diffygion trawsyrru a diffygion llinellau gyriant mewn beiciau modur
- Gwybodaeth am sut i ganfod a chytuno ar anghenion gwasanaeth cwsmeriaid cerbydau modur
Byddwch hefyd yn datblygu sgiliau cyflogadwyedd hanfodol, fel hunanreoli, gweithio mewn tîm, ymwybyddiaeth busnes ac ymwybyddiaeth cwsmeriaid, datrys problemau, cyfathrebu, llythrennedd a rhifedd sylfaenol ac agwedd gadarnhaol at waith.
Byddwch yn cael eich asesu trwy gyfrwng arholiadau, gwaith cwrs, aseiniadau, gwaith portffolio ac asesiadau ymarferol. Ar ôl cwblhau’r cwrs, byddwch yn ennill:
- IMI Lefel 3 mewn Cynnal a Chadw a Thrwsio Cerbydau (Beiciau Modur)
- Cymwysterau ategol priodol i ehangu eich set sgiliau a diwallu anghenion y diwydiant
- Gweithgareddau Sgiliau
- Saesneg a Mathemateg
Gofynion Mynediad
Cynnal a Chadw ac Atgyweirio Cerbydau (Beiciau Modur) Lefel 2, neu Ddiploma Lefel 2 Cyfwerth.
Gwybodaeth Ychwanegol
Mae'r cwrs hwn ar gyfer myfyrwyr sydd ar hyn o bryd yn gwneud lefel 2 amser llawn ac a fydd yn symud ymlaen i lefel rhan amser 3 y flwyddyn nesaf.
Bydd angen y PPE cywir arnoch ar gyfer y cwrs hwn.Â
Mae hyn yn costio tua £40.
Mae'r cwrs hwn yn 12 awr yr wythnos.
Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.
CFDI0465AA
Campws Crosskeys
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 03 Medi 2025
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr