VTCT Diploma mewn Therapi Harddwch Lefel 3
Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Trin Gwallt a Therapi Harddwch
Lefel
3
Llawn Amser
Lleoliad
Campws Crosskeys
Dyddiad Cychwyn
02 Medi 2025
Hyd
1 flwyddyn
Gofynion Mynediad
Diploma Lefel 2 mewn Therapi Harddwch neu gyfwerth/profiad gwaith.
Yn gryno
Bydd Diploma Lefel 3 VTCT mewn Triniaethau Therapi Harddwch yn eich paratoi ar gyfer gyrfa fel therapydd harddwch a bydd yn eich cefnogi i ennill gwaith.
Dyma'r cwrs i chi os...
... ydych wedi cymhwyso mewn Therapi Harddwch ar Lefel 2
... ydych am ddatblygu gwybodaeth arbenigol
... ydych chi'n gweithio'n galed ac mae gennych bersonoliaeth gyfeillgar
Beth fyddaf yn ei wneud?
Mae'r unedau y byddwch yn ymdrin â nhw ar y cwrs hwn yn cynnwys:
- Gweithio mewn diwydiannau sy'n gysylltiedig â harddwch
- Triniaethau electrotherapi i’r wyneb
- Triniaethau electrotherapi i’r corff
- Tylino'r Corff
- Gwelliannau Ewinedd a Thechnegau Celf Ewinedd Llaw Uwch
- Technegau Lliw Haul i’r croen
- Tylino gan ddefnyddio olewau aromatherapi wedi'u cymysgu ymlaen llaw
- Gofal Cwsmeriaid
- Iechyd a Diogelwch
- Anatomeg a Ffisioleg
Byddwch yn dysgu drwy:
- Ddosbarthiadau theori
- Gweithdai ymarferol
- Amgylcheddau salon go iawn yn y coleg wrth weithio ar gleientiaid
- Sesiynau masnachol
- Arddangosiadau
- Gwaith grŵp
- Lleoliad gwaith - naill ai bob wythnos neu ar floc
Byddwch hefyd yn cael y cyfle i gymryd rhan mewn:
- Cystadlaethau o fewn y coleg
- Ysbrydoli Sgiliau Cymru a'r DU/World Skills
- Diwrnodau sba
- Arddangosiadau diwydiant ar driniaeth laser/IPL
- Ymweliadau a theithiau i arbenigwyr yn y diwydiant
- Rolau goruchwylio yn yr adran a rheoli colofnau therapyddion
Byddwch yn cael eich asesu drwy asesiadau ymarferol, aseiniadau a phrofion amlddewis ar-lein a fydd yn mynd dros yr hyn sy’n tanategu gwybodaeth. Ar ôl ei gwblhau, byddwch yn ennill:
- Diploma Lefel 3 VTCT mewn Triniaethau Therapi Harddwch (Technegol)
- Cymwysterau ategol priodol i ehangu eich set sgiliau
- Gweithgareddau Sgiliau
- Mathemateg a Saesneg
- Sgiliau Cyfoethogi Creadigol (gweithgareddau cymunedol ac arddangosiadau)
Beth a ddisgwylir ohonof i?
I gael mynediad at y cwrs hwn, bydd angen Diploma Lefel 2 mewn Therapi Harddwch neu gyfwerth/profiad gwaith. Rhaid i chi fod yn hunan-ysgogol, yn weithgar ac yn meddu ar bersonoliaeth gyfeillgar.
Cynhelir pob dosbarth ar y campws a bydd un noson yr wythnos lle mae'n bosib y bydd gofyn i chi fynychu'r coleg tan 7.30yh.
Mae profiad sy’n gysylltiedig â’r gwaith yn rhan orfodol o'r cwrs, ac mae hyn yn cynnwys lleoliadau gwaith a gweithio ar gleientiaid yng nghlinigau harddwch y campws. Presenoldeb a phrydlondeb ar gyfer pob sesiwn yw un o brif ofynion y cwrs hwn.
Beth sy'n digwydd nesaf?
Byddwch yn gallu symud ymlaen i'r cyrsiau canlynol ar ôl cwblhau Therapi Harddwch Lefel 3 yn llwyddiannus. Bydd gan rai cyrsiau ofynion mynediad ychwanegol ond bydd y rhain yn cael eu trafod gyda chi pan fyddwch yn barod i wneud cais:
- Diploma Lefel 3 mewn Therapïau Cyflenwol a Sba neu’r DiplomaÌýCenedlaethol Uwch mewn Gofal Iechyd Cyflenwol
- Tystysgrif Lefel 4 mewn Estheteg (Plicio Croen, Nodwyddo Croen, Dermaplanio (Dermaplaning) a Micro-lafnio (Micro-blading) ar gyfer Aeliau)
- Diploma Lefel 2 neu 3 mewn Colur Theatrig a'r Cyfryngau
Gwybodaeth Ychwanegol
Cod gwisg:
- Gwisg y mae'n rhaid ei gwisgo ar gyfer pob sesiwn ymarferol. Mae hwn yn ofyniad gorfodol
- Rhaid clymu gwallt yn ôl yn daclus i ffwrdd o’r wynebÌý
- Dim tyllu corff
- Ni ellir gwisgo unrhyw emwaith heblaw modrwy briodas yn y salon
Fel amod o’ch lle ar y cwrs hwn, bydd disgwyl i chi brynu'r offer priodol oddi wrth ein cyflenwr cymeradwy, a fydd yn costio tua £198,Ìýyn amodol ar adolygiad/cynnydd pris chwyddiant.
Ìý
I adlewyrchu disgwyliadau'r diwydiant, bydd gofyn i chi wisgo gwisg salon Coleg Gwent y gellir ei harchebu oddi wrth ein cyflenwr cymeradwy. Gellir cael manylion ar sut i archebu eich gwisg salon am ddim, a setiau ychwanegol, yn ogystal ag opsiynau talu’r cyflenwyr, oddi wrth eich Pennaeth Ysgol, Darlithydd neu Dechnegydd. Y pris ar gyfer 2024/2025 yw £45,Ìýyn amodol ar adolygiad/cynnydd pris chwyddiant.
Gallai costau ychwanegol godi yn ystod y flwyddyn ar gyfer ymweliadau addysgol.
Mae'r holl gostau'n cael eu hadolygu ac maent yn amodol ar newid.
Ìý
Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.
CFDI0445AA
Campws Crosskeys
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 02 Medi 2025
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr