City & Guilds Tystysgrif mewn Trin Gwallt Lefel 1/2
Gallwch chi ddewis campws arall neu ddyddiad oddi ar y rhestr isod:
Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Trin Gwallt a Therapi Harddwch
Lefel
1/2
Llawn Amser
Lleoliad
Parth Dysgu Blaenau Gwent
Dyddiad Cychwyn
02 Medi 2025
Hyd
1 flwyddyn
Gofynion Mynediad
Isafswm o 3 chymhwyster TGAU, gradd G neu uwch, gan gynnwys: Mathemateg/Rhifedd a Saesneg/Cymraeg iaith gyntaf neu gymhwyster Lefel Mynediad perthnasol. Caiff ymgeiswyr nad ydynt yn meddu ar isafswm y cymwysterau TGAU eu hystyried yn seiliedig ar brofiad blaenorol neu gymwysterau eraill.
Yn gryno
Mae'r sector trin gwallt yn symud yn gyflym a bydd cyfleoedd i ddysgu sgiliau newydd yn ystod ac ar ôl y rhaglen hyfforddi ddiddorol hon
Dyma'r cwrs i chi os...
... Ydych chi am gael gyrfa mewn trin gwallt
... Ydych chi’n weithgar ac yn gyfeillgar
... Ydych chi’n caru popeth sy’n ymwneud â gwallt a harddwch
Beth fyddaf yn ei wneud?
Mae nifer o fanteision i fod yn driniwr gwallt a byddai steilwyr cymwys yn dweud wrthych chi am y rhain. Os ydych chi’n meddwl am ddod yn driniwr gwallt, dyma’r prif resymau dros ddod yn un.
- Â Gallwch fod yn greadigol
- Byddwch yn cwrdd â phobl newydd
- Bydd cael gyrfa mewn trin gwallt yn rhoi cyfle i chi fod yn hyblyg gyda'ch oriau gwaith
- Byddwch yn gallu darparu amrywiaeth o wasanaethau
- Mae'n rhoi boddhad ac yn werth chweil
Mae ein cwrs wedi’i ddylunio ar gyfer pobl sydd â diddordeb gyrfa mewn trin gwallt ac mae'n ddelfrydol os oes gennych ychydig neu ddim profiad neu sgiliau mewn trin gwallt. Byddwn yn eich helpu i ddatblygu eich sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid wrth ddelio â chleientiaid a sgiliau cyflogadwyedd ar gyfer pob math o swyddi.
Byddwch yn dysgu am:
- Ymgynghoriadau cleient
- Sgiliau derbynfa
- Siampwio
- Chwyth-sychu
- Torri sylfaenol
- Y grefft o wisgo gwallt
- Gwallt i fyny
- Lliwio gwallt
- Creu golwg cyflawn gan ddefnyddio lliw.
Mae disgwyliad eich bod yn mynychu lleoliad gwaith yn ystod y flwyddyn academaidd naill ai bob wythnos neu mewn bloc. Gallwch chi drefnu hyn neu bydd eich tiwtoriaid yn eich cefnogi i ddod o hyd i leoliad addas.
Caiff y cwrs ei gyflwyno drwy:
- Ddosbarthiadau theori
- Gweithdai ymarferol
- Amgylcheddau salon go iawn yn y coleg
- Sesiynau masnachol
- Arddangosiadau
- Ymarferion chwarae rôl
- Gwaith grwp
- Lleoliad gwaith
- Gweithgareddau cyfoethogi megis tripiau, ymweliadau, siaradwyr gwadd ac arddangosiadau allanol.
Byddwch yn cael eich asesu drwy asesiadau ymarferol, aseiniadau, prosiectau a phrofion amlddewis ar-lein sy'n cwmpasu gwybodaeth sylfaenol. Ar ôl ei gwblhau, byddwch yn cyflawni:
- NVQ Lefel 1 Trin Gwallt ac Unedau L2 mewn Trin Gwallt
- Cymwysterau ategol priodol i ehangu eich set sgiliau a diwallu anghenion y diwydiant
- Gweithgareddau Sgiliau
- Mathemateg a Saesneg
- Sgiliau Cyfoethogi Creadigol (gweithgareddau cymunedol ac arddangosiadau)
Beth a ddisgwylir ohonof i?
Isafswm o 3 chymhwyster TGAU, gradd G neu uwch, gan gynnwys: Mathemateg/Rhifedd a Saesneg/Cymraeg iaith gyntaf neu gymhwyster Lefel Mynediad perthnasol. Caiff ymgeiswyr nad ydynt yn meddu ar isafswm y cymwysterau TGAU eu hystyried yn seiliedig ar brofiad blaenorol neu gymwysterau eraill.
Bydd angen hunan-gymhelliant, bod yn weithiwr caled, yn gyfeillgar a meddu ar lefel uchel o ymgyflwyniad personol.
Disgwylir i chi fynychu lleoliad gwaith yn ystod y flwyddyn academaidd. Cyflwynir y cwrs ar y campws ac efallai y bydd angen i chi fod yn y coleg tan yn hwyr un noswaith yr wythnos.
Mae presenoldeb a phrydlondeb ar gyfer pob sesiwn yn brif ofyniad ar gyfer y cwrs hwn.
Beth sy'n digwydd nesaf?
NVQ Lefel 2 mewn Trin Gwallt neu gyflogaeth ar lefel prentis iau.
Gwybodaeth Ychwanegol
Cod gwisg:
- Mae’n rhaid gwisgo tiwnig gyda throwsus du ac esgidiau du mewn salonau
- Mae’n rhaid clymu’r gwallt yn daclus i ffwrdd o’r wyneb
- Ni ddylid gwisgo estyniadau ewinedd na lliw ewinedd
- Dim tyllau’r corff: modrwy briodas yn unig a ganiateir ei gwisgo yn y salon
Fel amod o’ch lle ar y cwrs hwn, bydd disgwyl i chi brynu'r offer priodol oddi wrth ein cyflenwr cymeradwy. Y gost am hyn yw tua £192, yn amodol ar gynnydd mewn prisiau chwyddiant.
I adlewyrchu disgwyliadau'r diwydiant, bydd gofyn i chi wisgo gwisg salon Coleg Gwent y gellir ei harchebu oddi wrth ein cyflenwr cymeradwy. Gellir cael manylion ar sut i archebu eich gwisg salon am ddim, a setiau ychwanegol, yn ogystal ag opsiynau talu’r cyflenwyr, oddi wrth eich Pennaeth Ysgol, Darlithydd neu Dechnegydd. Y pris ar gyfer 2024/2025 yw £45, yn amodol ar gynnydd mewn prisiau chwyddiant.
Gall fod costau ychwanegol yn ystod y flwyddyn ar gyfer ymweliadau addysgol.
Mae'r holl gostau yn cael eu hadolygu a gallent newid.
Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.
EFDI0023AB
Parth Dysgu Blaenau Gwent
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 02 Medi 2025
Efallai bydd y cwrs hwn ar gael ar ddyddiadau, amseroedd neu gampysau eraill, cliciwch i weld eich opsiynau.
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr