ILM Dyfarniad mewn Arweinyddiaeth a Rheoli Lefel 3
Mae'r cwrs hwn wedi'i deilwra i gyflogwyr sydd yn edrych i hyfforddi grwpiau o'u staff. Ar gyfer hyfforddiant unigol, defnyddiwch ein chwiliwr cyrsiau os gwelwch yn dda.
Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Yn unigryw i’r cyflogwr
Lefel
3
Hyblyg
Lleoliad
Hyblyg
Sector
Busnes, Cyllid a Rheoli
Dyddiad Cychwyn
Hyblyg
Yn gryno
Dyma gymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol, a’i fwriad y meithrin sgiliau rheoli craidd y dysgwyr gyda hyfforddiant ymarferol, cyfranogol sy’n cysylltu’n ôl â’r gweithle. Bydd y cyrsiau’n cael eu haddysgu gan diwtoriaid profiadol sydd wedi bod mewn swyddi rheoli eu hunain.
Mae'r cwrs hwn ar gyfer...
...arweinwyr tîm wrth eu gwaith sy'n ceisio symud i'r lefel nesaf o reolaeth, a rheolwyr sydd angen arwain pobl drwy newid sefydliadol, toriadau cyllidebol neu bwysau eraill.
Cynnwys y cwrs
Mae'r unedau yn y cymhwyster hwn yn cwmpasu ystod eang o sgiliau, gwybodaeth a dealltwriaeth. Gall cyflogwr eu dewis i ddiwallu eu hanghenion hyfforddi. Fel arall, rydym yn argymell dwy uned a fydd yn galluogi dysgwyr i ennill y Dyfarniad llawn:
- Deall arweinyddiaeth: datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth o arweinyddiaeth.
- Deall sut i ysgogi i wella perfformiad: i ddatblygu gwybodaeth a dealltwriaeth o ddamcaniaeth cymhelliant a sut y gellir ei chymhwyso yn y gweithle i wella perfformiad.
Bydd dysgwyr yn cael gweithdai dan arweiniad hyfforddwr ar gyfer pob uned a byddant yn cynhyrchu aseiniad ysgrifenedig o 1200 gair ar gyfer pob uned.
Gofynion Mynediad
Ni cheir unrhyw ofynion mynediad ffurfiol.
Gwybodaeth Ychwanegol
Cyflwynir y cymhwyster hwn ar safle cyflogwr ar gyfer grŵp o’u gweithwyr, nid ar y campws i unigolion ei fynychu. Cytunir ar ddyddiadau dosbarthu ymlaen llaw gyda'r cyflogwr. Gellir cyhoeddi dyfynbris ffurfiol unwaith y byddwn yn deall eich anghenion hyfforddi.
Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.
BCEM0002AA
Hyblyg
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â ni ar 01495 333777
neu e-bostiwch employers@coleggwent.ac.uk.