Highfield Dyfarniad mewn Diogelwch Bwyd mewn Arlwyo Lefel 2
Mae'r cwrs hwn wedi'i deilwra i gyflogwyr sydd yn edrych i hyfforddi grwpiau o'u staff. Ar gyfer hyfforddiant unigol, defnyddiwch ein chwiliwr cyrsiau os gwelwch yn dda.
Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Yn unigryw i’r cyflogwr
Lefel
2
Hyblyg
Lleoliad
Hyblyg
Sector
Lletygarwch, Manwerthu a Thwristiaeth
Dyddiad Cychwyn
Hyblyg
Yn gryno
Bydd dysgwyr sy'n ennill y cymhwyster hwn yn gwybod bod diogelwch bwyd yn gyfrifoldeb ar bawb sy'n ymwneud â storio, paratoi, gwasanaeth coginio a thrin bwyd. Mae ei phynciau yn cael eu hystyried gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd fel rhai sy'n bwysig i gynnal arfer da wrth gynhyrchu bwyd diogel.
Mae'r cwrs hwn ar gyfer...
Amcan y cymhwyster hwn yw paratoi dysgwyr ar gyfer cyflogaeth mewn rôl arlwyo, neu gefnogi rôl yn y gweithle.
Cynnwys y cwrs
Mae'r pynciau ar y cymhwyster 7 awr hwn yn cwmpasu ystod eang o sgiliau, gwybodaeth a dealltwriaeth:
-   Pa mor bwysig yw hi i’r sawl sy’n trin bwyd gadw eu hunain yn lân ac yn hylan.
- Cadw ardaloedd gwaith yn lân ac yn hylan.
- Pwysigrwydd cadw cynnyrch bwyd yn ddiogel
- Egwyddorion diogelwch bwyd
Bydd dysgwyr yn cwblhau arholiad amlddewis.
Gofynion Mynediad
Nid oes unrhyw ofynion mynediad ffurfiol ar gyfer y cwrs hwn.Â
Gwybodaeth Ychwanegol
Mae'r cymhwyster hwn yn cael ei ddarparu ar safle cyflogwr ar gyfer grŵp o'u gweithwyr ac nid ar gampws i unigolion ei fynychu. Cytunir ar ddyddiadau darparu’r cwrs ymlaen llaw gyda'r cyflogwr.
Mae hwn yn gwrs undydd. Bydd dyfynbris ffurfiol yn cael ei baratoi unwaith y byddwn yn deall eich anghenion hyfforddi ond fel canllaw, rydym yn codi £475 (sy’n cynnwys yr holl hyfforddiant, adborth a marcio) ynghyd â ffioedd corff dyfarnu ychwanegol (tua £14 y dysgwr).
Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.
BCEM0016AA
Hyblyg
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â ni ar 01495 333777
neu e-bostiwch employers@coleggwent.ac.uk.