Â鶹´«Ã½

En

Highfield Dyfarniad mewn Diogelwch Bwyd mewn Arlwyo Lefel 2

Mae'r cwrs hwn wedi'i deilwra i gyflogwyr sydd yn edrych i hyfforddi grwpiau o'u staff. Ar gyfer hyfforddiant unigol, defnyddiwch ein chwiliwr cyrsiau os gwelwch yn dda.

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Yn unigryw i’r cyflogwr

Lefel

Lefel
2

Dull Astudio
Dull Astudio
Hyblyg
Lleoliad

Lleoliad
Hyblyg

Sector

Sector
Lletygarwch, Manwerthu a Thwristiaeth

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
Hyblyg

Yn gryno

Bydd dysgwyr sy'n ennill y cymhwyster hwn yn gwybod bod diogelwch bwyd yn gyfrifoldeb ar bawb sy'n ymwneud â storio, paratoi, gwasanaeth coginio a thrin bwyd. Mae ei phynciau yn cael eu hystyried gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd fel rhai sy'n bwysig i gynnal arfer da wrth gynhyrchu bwyd diogel.

Mae'r cwrs hwn ar gyfer...

Amcan y cymhwyster hwn yw paratoi dysgwyr ar gyfer cyflogaeth mewn rôl arlwyo, neu gefnogi rôl yn y gweithle.

Cynnwys y cwrs

Mae'r pynciau ar y cymhwyster 7 awr hwn yn cwmpasu ystod eang o sgiliau, gwybodaeth a dealltwriaeth:

  •   Pa mor bwysig yw hi i’r sawl sy’n trin bwyd gadw eu hunain yn lân ac yn hylan.
  • Cadw ardaloedd gwaith yn lân ac yn hylan.
  • Pwysigrwydd cadw cynnyrch bwyd yn ddiogel
  • Egwyddorion diogelwch bwyd

Bydd dysgwyr yn cwblhau arholiad amlddewis.

Gofynion Mynediad

Nid oes unrhyw ofynion mynediad ffurfiol ar gyfer y cwrs hwn. 

Gwybodaeth Ychwanegol

Mae'r cymhwyster hwn yn cael ei ddarparu ar safle cyflogwr ar gyfer grŵp o'u gweithwyr ac nid ar gampws i unigolion ei fynychu. Cytunir ar ddyddiadau darparu’r cwrs ymlaen llaw gyda'r cyflogwr.

Mae hwn yn gwrs undydd. Bydd dyfynbris ffurfiol yn cael ei baratoi unwaith y byddwn yn deall eich anghenion hyfforddi ond fel canllaw, rydym yn codi £475 (sy’n cynnwys yr holl hyfforddiant, adborth a marcio) ynghyd â ffioedd corff dyfarnu ychwanegol (tua £14 y dysgwr).

Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

Ble alla i astudio Highfield Dyfarniad mewn Diogelwch Bwyd mewn Arlwyo Lefel 2?

BCEM0016AA
Hyblyg

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â ni ar 01495 333777
neu e-bostiwch employers@coleggwent.ac.uk.