鶹ý

En

Ymwybyddiaeth Gweithio ar Uchder

Mae'r cwrs hwn wedi'i deilwra i gyflogwyr sydd yn edrych i hyfforddi grwpiau o'u staff. Ar gyfer hyfforddiant unigol, defnyddiwch ein chwiliwr cyrsiau os gwelwch yn dda.

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Yn unigryw i’r cyflogwr

Dull Astudio
Dull Astudio
Hyblyg
Lleoliad

Lleoliad
Hyblyg

Sector

Sector
Adeiladu

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
Hyblyg

Yn gryno

Mae Rheoliadau Gweithio o Uchder 2005 yn golygu bod gan gyflogwyr, yr hunangyflogedig ac unrhyw un sy’n rheoli gwaith eraill (megis rheolwr cyfleusterau neu berchennog adeilad) ddyletswydd i sicrhau bod unrhyw waith a wneir o uchder yn cael ei wneud mewn ffordd gyfrifol. Bydd y cwrs hwn yn rhoi’r wybodaeth rydych ei angen i chi.

Mae'r cwrs hwn ar gyfer...

... unrhywun sy’n gweithio o uchder lle mae perygl y gall disgyn achosi niwed personol.

Cynnwys y cwrs

Ar y cwrs hanner diwrnod (3 awr) hwn byddwch yn cael dealltwriaeth o bwysigrwydd:

● Cynllunio a threfnu gwaith o uchder.

● Yr angen am asesu risg o waith o uchder a dewis a defnyddio offer gwaith priodol.

● Rheoli risgiau gweithio ar neu yn ymyl arwynebeddau bregus yn y ffordd gywir.

● Archwilio a chynnal yr offer a ddefnyddir ar gyfer gweithio o uchder.

Gofynion Mynediad

Nid oes gofynion mynediad ffurfiol ar gyfer y cwrs hwn.

Gwybodaeth Ychwanegol

Cyflwynir y cwrs hwn dros 3 awr fel rheol.

Gall yr ymgeiswyr sy’n cwblhau'r cwrs yn llwyddiannus, eu dyfarnu â thystysgrif presenoldeb Coleg Gwent, a gallent symud ymlaen, os ydynt yn dymuno gwneud hynny,  i un o'n cymwysterau iechyd a diogelwch ardystiedig megis Diogelwch Safle Plws CITB neu Reoli'n Ddiogel IOSH.

Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

Ble alla i astudio Ymwybyddiaeth Gweithio ar Uchder?

BCEM0052AA
Hyblyg

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â ni ar 01495 333777
neu e-bostiwch employers@coleggwent.ac.uk.