NPTC PA6 mewn Defnyddio Taenwyr Llaw yn Ddiogel Lefel 2
Gallwch chi ddewis campws arall neu ddyddiad oddi ar y rhestr isod:
Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Astudiaethau Tir, Gofal Anifeiliaid a Cheffylau
Lefel
2
Rhan Amser (Dydd)
Lleoliad
Campws Brynbuga
Ffioedd
£300.00
Noder, mae’r holl ffioedd a hysbysebir yn berthnasol i un flwyddyn yn unig oni nodir yn wahanol yn yr adran gwybodaeth ychwanegol isod
Dyddiad Cychwyn
11 Mawrth 2025
Dydd Mawrth a Dydd Mercher
Amser Dechrau
09:00
Amser Gorffen
16:00
Hyd
2 ddiwrnod
Yn gryno
Mae angen PA6 ar unrhyw un sy'n dymuno taenu plaladdwyr gan ddefnyddio chwistrellydd ffon llaw neu chwistrellydd cefn. Gall y chwistrellydd ffon llaw fod ar gefn cerbyd, e.e. ar dractor neu gerbyd pob tir.
Cynnwys y cwrs
Mae'r hyfforddiant hwn yn rhoi'r wybodaeth hanfodol i daenu plaladdwr â chwistrellydd cefn yn gywir:
- Gosod a gwirio cyfarpar
- Mesur ardaloedd
- Graddnodi cyfarpar
- Cymysgu a mesur cemegion
- Glanhau a storio cyfarpar
Gofynion Mynediad
Wedi cyflawni'r Cymhwysiad Plaladdwr (PA1).
Gwybodaeth Ychwanegol
Mae hwn yn gwrs 3 diwrnod (2 ddiwrnod o hyfforddiant ac 1 diwrnod o asesu).
Byddwch yn astudio drwy ddysgu yn y dosbarth a gwaith ymarferol.
Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.
UPEU0156AC
Campws Brynbuga
Rhan Amser (Dydd)
Dyddiad Cychwyn: 11 Mawrth 2025
Efallai bydd y cwrs hwn ar gael ar ddyddiadau, amseroedd neu gampysau eraill, cliciwch i weld eich opsiynau.
Ar ôl archebu eich lle ar gwrs mae gennych 14 diwrnod i newid eich meddwl a gofyn am ad-daliad llawn. Gallwch ofyn am ad-daliad ar ôl y dyddiad hwn, ond bydd ond yn cael ei ganiatáu os ydych chi’n bodloni meini prawf polisi ffioedd y coleg. fee policy.
Os yw eich cwrs dewisol yn dechrau o fewn 14 diwrnod i chi archebu eich lle, nid yw’r polisi ad-daliad 14 diwrnod yn gymwys, a bydd unrhyw ad-daliad yn destun polisi ffioedd y coleg.
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr