Cynnal a Chadw Sylfaenol / Adnewyddu Cerbydau
Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Moduro
Rhan Amser (Noswaith)
Lleoliad
Campws Crosskeys
Ffioedd
£60.00
Dyddiad Cychwyn
01 Ebrill 2025
Dydd Mawrth
Amser Dechrau
17:00
Amser Gorffen
20:00
Hyd
10 wythnos
Yn gryno
Os ydych yn awyddus i weithio ar geir a cherbydau eraill, naill ai fel gweithgaredd hamdden neu fel gyrfa, y cwrs hwn yw’r cwrs cychwynnol i chi. Byddwch yn dysgu am egwyddorion sylfaenol cerbydau modur mewn awyrgylch gweithdy cyfeillgar braf, dros gyfnod o naw wythnos.
Mae'r cwrs hwn ar gyfer...
…rhywun sy’n awyddus i weithio ar geir a cherbydau eraill, naill ai fel gweithgaredd hamdden neu gychwyn gyrfa.
…rhai sydd eisiau datblygu sgiliau sylfaenol cerbydau modur.
Cynnwys y cwrs
Bydd angen unigolion awyddus, brwdfrydig sy’n dangos diddordeb mewn cerbydau modur, a bydd cyfle i chi ddysgu am yr holl systemau sy’n creu cerbydau modur clasurol a modern gan gynnwys:
- Systemau brecio
- Systemau crogiant
- Systemau tanwydd
- Teiars
- Systemau trawsyriant
- Systemau aerdymheru
- Systemau trydanol gan gynnwys ABS a SRS
- Gwasanaethu
- Systemau taniad
- Gofal cerbyd
- Egsosts
- Systemau rheolaeth injan
- Addasiadau cerbyd
Byddwch yn cael eich asesu drwy gyfres o asesiadau ymarferol a byddwch yn derbyn tystysgrif coleg ar ôl cwblhau. Nesaf, gallech symud ymlaen i gwrs llawn amser Lefel Mynediad neu Lefel 1.
Gofynion Mynediad
Nid oes unrhyw ofynion mynediad ffurfiol ar gyfer y cwrs hwn.
Gwybodaeth Ychwanegol
Yn ystod y cwrs, byddwch angen Offer Amddiffyn Personol addas.
Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.
CCFF0002AC
Campws Crosskeys
Rhan Amser (Noswaith)
Dyddiad Cychwyn: 01 Ebrill 2025
Ar ôl archebu eich lle ar gwrs mae gennych 14 diwrnod i newid eich meddwl a gofyn am ad-daliad llawn. Gallwch ofyn am ad-daliad ar ôl y dyddiad hwn, ond bydd ond yn cael ei ganiatáu os ydych chi’n bodloni meini prawf polisi ffioedd y coleg. fee policy.
Os yw eich cwrs dewisol yn dechrau o fewn 14 diwrnod i chi archebu eich lle, nid yw’r polisi ad-daliad 14 diwrnod yn gymwys, a bydd unrhyw ad-daliad yn destun polisi ffioedd y coleg.
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr