Â鶹´«Ã½

En

HNC Colur Arbenigol

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Trin Gwallt a Therapi Harddwch

Dull Astudio
Dull Astudio
Llawn Amser
Lleoliad

Lleoliad
Campws Crosskeys

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
10 Medi 2025

Gofynion Mynediad

Gofynion Mynediad

4 TGAU A*- C yn cynnwys Saesneg a Chelf, neu gymhwyster Lefel 3 mewn Colur Theatrig ac i'r Cyfryngau (o leiaf proffil Teilyngdod galwedigaethol) neu brofiad diwydiannol cyfwerth.

Yn gryno

Y cwrs lefel uwch hwn yw blwyddyn gyntaf rhaglen dwy flynedd ac mae'n ymdrin â'r sgiliau technegol uwch a'r wybodaeth sydd eu hangen i weithio yn y diwydiant colur ar gyfer ffilm, teledu a theatr.

Dyma'r cwrs i chi os...

... Oes gennych chi ddiddordeb proffesiynol mewn colur theatr neu ffilm
... Ydych chi’n greadigol
... Ydych chi’n weithgar ac yn ymroddedig

Beth fyddaf yn ei wneud?

Mae artistiaid colur effeithiau arbennig yn gweithio gyda modelau byw neu berfformwyr i'w trawsnewid yn gymeriadau neu greaduriaid (fel arfer ar gyfer act neu sioe a ddisgrifir mewn sgriptiau ffilm a theledu). Mae eu gwaith yn cynnwys rhoi colur a/neu brostheteg i gyflawni'r effaith theatrig ddelfrydol.

Mae'r cwrs Effeithiau Arbennig Theatrig, Gwallt a Cholur y Cyfryngau yn ddelfrydol i chi os oes gennych ddiddordeb mewn colur theatr neu ffilm, rydych yn bwriadu dilyn gyrfa yn y diwydiant ac wedi cyflawni Colur Theatrig Lefel 2, neu yn meddu ar brofiad cyfwerth yn y diwydiant.

Byddwch yn datblygu'r sgiliau hanfodol i gychwyn gyrfa lwyddiannus mewn colur theatrig a'r cyfryngau, ac yn dysgu am weithio yn y diwydiant. Yn ystod eich amser yn y coleg byddwch yn cael cyfleoedd i wneud profiad gwaith a chymryd rhan mewn cystadlaethau rhanbarthol a chenedlaethol.

Yn ystod eich amser yn y coleg byddwch yn cael cyfleoedd i wneud profiad gwaith a chymryd rhan mewn cystadlaethau rhanbarthol a chenedlaethol. Mae’n arbenigo mewn datblygu sgiliau a gwybodaeth bellach sydd eu hangen i weithio ym myd ffilm, teledu a theatr.

Byddwch yn astudio unedau sy'n cynnwys:

Blwyddyn 1

  • Y Diwydiant Celfyddydau Perfformio
  • Datblygiad Proffesiynol
  • Ffasiwn a Cholur Golygyddol Ffasiwn
  • Creu Gwisgoedd
  • Gwallt a Cholur Cyfnod
  • Trin Gwallt a Rhoi Colur - Postiche Wyneb
  • Effeithiau Arbennig
  • Crefft Llwyfan

Blwyddyn 2

  • Effeithiau Arbennig
  • Prosiect Ymchwil Creadigol
  • Gweithio yn y Diwydiant Celfyddydau Perfformio
  • Creu Mygydau a Phypedau
  • Yr Artist Colur Llawrydd - Creu Wigiau
  • Rôl Rheoli
  • Dylunio Gwisgoedd

Asesir sgiliau ymarferol trwy gyfres o aseiniadau ymarferol wedi’u hamseru wedi’u gosod o friff sy’n gysylltiedig â’r diwydiant, a gefnogir gyda chyfnodolion helaeth o log ymchwil a datblygu. Asesir unedau theori trwy astudiaethau achos, cyfnodolion ymchwil a chyflwyniadau.

Cynhelir dosbarthiadau meistr a hwylusir gan arbenigwyr y diwydiant trwy gydol y rhaglen 2 flynedd.

Ar ôl ei gwblhau, byddwch chi’n cyflawni HND Pearson yn y Celfyddydau Perfformio (Colur Arbenigol) - Lefelau 4 a 5, fodd bynnag byddwch chi’n ennill HNC yn y Celfyddydau Perfformio ar ôl y flwyddyn gyntaf o astudio.

Beth a ddisgwylir ohonof i?

I ddechrau ar y cwrs, mae gofyn i chi gael 4 gradd TGAU A*- C sydd yn cynnwys Saesneg a Chelf, cymhwyster Lefel 3 mewn Colur Theatr a’r Cyfryngau (Proffil Teilyngdod Galwedigaethol Gofynnol) neu brofiad cyfwerth yn y diwydiant.

Bydd disgwyl i’r dysgwyr fod yn greadigol, ymroddgar ac yn ysbrydoledig

Beth sy'n digwydd nesaf?

Ar ol cwblhau’r HNC yn llwyddiannus, byddwch yn symud ymlaen i’r HND yn Coleg Gwent. Ar ol cwblhau eich HND yn llwyddiannus gallech symud ymlaen ymhellach i ychwanegu at radd BA (Anrh) mewn Colur Cyfryngau mewn prifysgol briodol.

Gwybodaeth Ychwanegol

Bydd disgwyl i chi i brynu gwisg arbennig a phecyn wig a fydd yn costio tua £250

Efallai y bydd costau eraill sy'n gysylltiedig â theithio a llety ar gyfer hyfforddiant Meistr.

Cod gwisg:

  • Gwisg arbennig
  • Mae’n rhaid clymu’r gwallt yn daclus i ffwrdd o’r wyneb

Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

Ble alla i astudio HNC Colur Arbenigol?

CFHC0038AA
Campws Crosskeys
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 10 Medi 2025

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr