Â鶹´«Ã½

En
Prospective students attending an open event at Coleg Gwent

10 Ffordd i Wneud y Mwyaf o Ddigwyddiad Agored Eich Coleg


16 Ionawr 2024

Mae llawer o bethau i’w hamsugno, llawer o gwestiynau i’w gofyn a llawer o bethau ar eich meddwl mewn digwyddiad agored coleg. Ond peidiwch â phoeni, rydym yma i’ch arwain chi drwy bob cam o’r ffordd, i’ch helpu chi wneud y dewis cywir.

Dyma ein prif awgrymiadau i’ch helpu chi ddysgu popeth rydych ei angen, ac i wneud y mwyaf o fynychu digwyddiad agored yn Coleg Gwent:

  1. Dewiswch eich campws

Mae bob un o’n campysau yn cynnig cyrsiau a chyfleusterau gwahanol, felly mae’n ddefnyddiol ail wirio fod y campws rydych yn ei archwilio yn cynnig y cwrs (neu gyrsiau) rydych yn chwilio amdanynt.

  1. Nodwch ddyddiad ac amser

Rydym yn gwybod fod gennych fywyd prysur â bod llawer yn digwydd, ac mae’n hawdd anghofio am ddigwyddiad agored coleg y cofrestroch chi ar ei gyfer wythnosau’n flaenorol. Felly, wrth gofrestru ymlaen llaw i gadw lle yn y digwyddiad agored, nodwch y dyddiad yn eich dyddiadur neu osod nodyn i’ch atgoffa ar eich ffôn symudol, fel nad ydych yn methu’r cyfle i archwilio bywyd coleg, dod o hyd i’ch cwrs delfrydol, a chwrdd â’n tiwtoriaid arbenigol.

  1. Cynlluniwch ymlaen llaw

Efallai bod gennych syniad da o’r hyn yr hoffech ei astudio yn y coleg, neu efallai nad ydych wedi penderfynu, beth bynnag yw eich sefyllfa, bydd gennych lawer o gwestiynau i’w gofyn mewn digwyddiad agored. Felly, byddwch yn barod i nodi pa bwnc a meysydd cefnogi rydych eisiau ymweld â nhw, ac unrhyw gwestiynau allweddol rydych angen eu gofyn, yna, ticiwch nhw oddi ar eich rhestr wrth fynd yn eich blaen, i sicrhau nad ydych yn methu unrhyw beth.

  1. Byddwch angen papur a phensil

Byddwch yn cael llawer o wybodaeth bwysig a defnyddiol mewn digwyddiad agored, ac mae’n anodd amsugno’r cyfan mewn cyfnod byr o amser. Felly gwnewch nodiadau y gallwch gyfeirio’n ôl atynt yn nes ymlaen! Gallwch ymweld â chymaint o feysydd pwnc a sesiynau cefnogi ag y dymunwch, ac mae nodi ffeithiau allweddol a meysydd o ddiddordeb yn ffordd wych o’ch helpu chi wrth wneud penderfyniadau ac ymgeisio ar gyfer eich cwrs yn y coleg.

  1. Archwilio y tu hwnt i’ch cwrs

Mae dysgu mwy am eich cwrs yn bwysig, ond mae digwyddiad agored hefyd yn gyfle i chi archwilio llawer mwy am fywyd yn y coleg. Edrychwch o gwmpas y campysau a darganfyddwch weithgareddau allgyrsiol ac ystod enfawr o gefnogaeth. Dysgwch am fywyd ar ol coleg, fel cyfleoedd cyfoethogi, profiad gwaith, gwirfoddoli, clybiau myfyrwyr, chwaraeon a mwy!

  1. Darllenwch ein prosbectws

Mewn digwyddiadau agored campws, gallwch godi prosbectws cwrs canllaw cwrs neu edrych yn eich pecyn croeso i sganio’r cod QR sy’n mynd â chi i’n fersiwn ar-lein. Mae ein prosbectws yn cynnwys llawer o awgrymiadau a chyngor ar eich maes pwnc, bywyd coleg a chymorth i ddysgwyr, i’ch helpu chi wneud y penderfyniad cywir.

  1. Dod â ffrind

Mae dod ag aelod o’r teulu neu ffrind i ddigwyddiad agored yn ddefnyddiol hefyd. Efallai y byddant yn meddwl am ofyn cwestiynau nad ydych chi wedi’u hystyried, a byddant yn gallu eich cefnogi a’ch helpu chi i gofio gwybodaeth bwysig hefyd.

  1. Gofyn eich cwestiynau pwysicaf

Mae digwyddiad agored yn rhoi cyfle i chi ofyn yr holl gwestiynau sydd ar eich meddwl. Does dim cwestiwn yn wirion – rydym wedi eu clywed ganwaith – ac mae’n bwysig eich bod yn gallu gwneud penderfyniad gwybodus drwy gael yr atebion rydych yn chwilio amdanynt. Felly, dewch draw i ddigwyddiad i gwrdd â’n tiwtoriaid, cyllid, trafnidiaeth a thimau cefnogi, a gofyn eich cwestiynau i ni.

  1. Cael help gyda’ch cais

Bydd ein staff wrth law i ateb unrhyw gwestiynau a helpu gyda’ch cais. Mae cyrsiau’n llenwi’n gyflym a chynigir lleoedd ar sail y cyntaf i’r felin felly rydym yn argymell gwneud cais yn gynt a phosibl i sicrhau eich lle.

  1. Mynychu sgwrs campws

Argymhellir yn gryf eich bod yn mynychu sgwrs campws yn ystod y digwyddiad gan y bydd yn rhoi trosolwg i chi o’ch dewis gampws, cynigion cymorth, a gwybodaeth werthfawr am yr hyn i’w ddisgwyl yn ystod y digwyddiad agored. Mae sgyrsiau wedi’u hamserlennu trwy gydol y digwyddiad, felly cymerwch sylw o’r amseroedd a’r lleoliadau i wneud yn siŵr nad ydych chi’n colli allan.

Barod i wneud cais?

Gallwch wneud cais yn y digwyddiad agored, lle gallwch gael cymorth a chefnogaeth gan ein tîm ar y campws, neu gallwch ymgeisio ar-lein o gartref hefyd. Efallai bod mis Medi yn ymddangos yn bell i ffwrdd, ond mae’n syniad da i baratoi a chadw eich opsiynau’n agored, a does dim gorfodaeth i dderbyn lle yn y coleg ar hyn o bryd. Felly, cysylltwch â’n tîm recriwtio myfyrwyr os oes gennych unrhyw gwestiynau neu ymgeisiwch heddiw, ac rydym yn gobeithio eich gweld chi mewn digwyddiad agored yn fuan iawn. Cynhelir ein digwyddiadau agored drwy gydol y flwyddyn, a gallwch ddysgu mwy amdanynt a chofrestru drwy fynd i www.coleggwent.ac.uk/cy/open-events.