鶹ý

En
Coleg Gwent students from various subjects

O gymorth cyntaf i anfeiliaid anwes i ganu caneuon môr - dyma 7 cwrs anarferol nad oeddech chi’n gwybod eu bod ar gael yn ne Cymru


11 Mehefin 2024

Mae’r coleg addysg bellach mwyaf yng Nghymru, Coleg Gwent, yn cynnig detholiad cynhwysfawr o gyrsiau unigryw sydd wedi’u teilwra i gyd-fynd â phob diddordeb neu lwybr gyrfa – ac mae’r broses gofrestru ar gyfer nifer o gyrsiau ar agor nawr er mwyn dechrau yn yr hydref.

Ochr yn ochr â chyrsiau sy’n annog uwchsgilio proffesiynol neu hyd yn oed cyfleoedd i newid gyrfa yn gyfan gwbl, mae nifer o gyrsiau Coleg Gwent yn seiliedig ar hobïau gan rymuso unigolion i ddilyn angerddau newydd o wneud gemwaith i ffotograffiaeth a chanu.

Dyma’r 7 hobi unigryw neu sgiliau arbenigol y gallwch chi eu dilyn yn Coleg Gwent eleni…

Coleg Gwent student in small animal centreCymorth Cyntaf Sylfaenol i Gŵn a Chathod

Mae pob un ohonom yn ymwybodol o bwysigrwydd sgiliau cymorth cyntaf er lles aelodau’r teulu, ffrindiau, cydweithwyr neu hyd yn oed pobl estron ond beth am ein hanifeiliaid anwes? Wedi’i addysgu gan nyrsys milfeddygol cymwysedig, mae’r cwrs hwn yn cynnwys yr holl wybodaeth angenrheidiol ar gyfer cymorth cyntaf i gŵn a chathod — o brotocol CPR i fynd i’r afael â sefyllfaoedd o argyfwng megis gwenwyno neu dorri asgwrn.

Os ydych chi’n gweithio i sefydliad ailgartrefu neu’n berchennog ar anifail anwes, gallai’r cwrs hwn fod yn ddefnyddiol iawn. Cadwch eich lle ar y cwrs sy’n dechrau ym mis Hydref.

Coleg Gwent student face paintingCyflwyniad i Baentio Wynebau

Bydd mynychwyr y cwrs hwn yn dysgu technegau yng nghelfyddyd peintio cymeriadau, anifeiliaid a phatrymau prydferth ar wynebau. Os hoffech chi ddysgu ar gyfer gwaith, gwirfoddoli neu i greu argraff ar eich plant, mae’r cwrs hwn yn berffaith ar gyfer y rhai â dawn artistig.

Cofiwch ddod â’ch camera – ar ôl y cwrs undydd hwn, byddwch chi’n dymuno dechrau portffolio llawn ar gyfer paentio wynebau! Cadwch eich lle yma.

Coleg Gwent student creating music on a Mac computerSgiliau DJ a Chynhyrchu Cerddoriaeth

Os ydych chi’n ddarpar gynhyrchydd neu’n ddarpar DJ, mae’r cwrs hwn yn garreg gamu at ddatblygu sgiliau hanfodol ym maes cynhyrchu cerddoriaeth a gweithgarwch DJ.

Nid oes angen meddu ar wybodaeth flaenorol a bydd dysgwyr yn derbyn cyflwyniad ymarferol i’r deciau a meddalwedd Ableton Live a Rekordbox DJ. Cadwch eich lle yma.

Coleg Gwent student repairing a PCTrwsio Cyfrifiaduron / Cynnal a Chadw Cyfrifiaduron

Trawsnewidiwch yn arbenigwr mewn technoleg trwy’r cwrs ymarferol hwn sy’n cynnig cyfle i ennill sgiliau a gwybodaeth hanfodol trwy gymhwyso bywyd go iawn, ar unwaith. Dysgwch sut i ddatrys y problemau caledwedd a meddalwedd mwyaf cyffredin gan gynyddu eich sgiliau technegol!

Mae eich taith at ddod yn arbenigwr ym maes cyfrifiaduron yn dechrau yma.

Coleg Gwent student singingCanu Caneuon Môr

Os oeddech chi’n hoffi’r duedd TikTok yn 2021 yn feiral yna gall y cwrs hwn fod yn berffaith i chi.

Mae’n berffaith ar gyfer dysgwyr ag angerdd am ganu, harmonïau a cherddoriaeth ac mae canu caneuon môr yn croesawu’r rhai o bob lefel sgiliau i astudio’r genre canu gwerin traddodiadol. Yr unig ofyniad yw cariad at gerddoriaeth a’r gallu i gydweithio. Cadwch eich lle i ddechrau ym mis Mehefin.

Coleg Gwent student with horseClipio Ceffylau

Mae’r cwrs hwn wedi’i deilwra ar gyfer berchnogion ceffylau angerddol sy’n awyddus i feistroli’r dechneg, gwella eu sgiliau presennol neu arbed arian. Ydych chi’n barod i gymryd yr awenau a meistroli clipio? Ewch amdani a chadwch eich lle.

Coleg Gwent student doing carpentryUwchgylchu a Chrefftio Celfi

Wedi’i ddylunio ar gyfer dechreuwyr, mae’r cwrs hwn yn cynnwys elfennau sylfaenol uwchgylchu, technegau paentio, staenio a defnyddio offer a chynhyrchion i roi bywyd newydd i hen gelfi.

Mae’r cwrs cost-effeithiol hwn yn berffaith ar gyfer perchnogion tai neu bobl sy’n rhentu tai. Os ydych chi newydd symud tŷ ac yn chwilio am ffyrdd o adnewyddu eich cartref heb dalu llawer neu hoffech chi helpu’r amgylchedd drwy ailwampio celfi a fyddai, fel arall, wedi mynd i safle tirlenwi.

Cadwch eich lle ar y cwrs 5 wythnos hon.

Pa bynnag gwrs sy’n apelio, mae Coleg Gwent yn cynnig llawer o hyblygrwydd trwy gyrsiau amser llawn, cyrsiau rhan-amser, cyrsiau gyda’r nos a chyrsiau ar-lein ar draws ystod o bynciau o hobïau i ddatblygiad proffesiynol.

Mae rhaglenni’r cyrsiau wedi’u dylunio gan gadw anghenion oedolion mewn cof a helpu i gydbwyso amserlenni gwaith prysur, bywyd teulu neu ymrwymiadau eraill er mwyn rhoi cyfle i ddysgwyr ddilyn datblygiad personol a datblygiad proffesiynol ar eu cyflymder eu hunain.

Meddai Victoria Davies, Pennaeth Cynorthwyol – Cwricwlwm ac Ansawdd yn Coleg Gwent: “Rydym wedi ymrwymo i helpu dysgwyr o bob cefndir a diddordeb i ddatgloi eu potensial, nid yn unig i wella sgiliau proffesiynol ond hefyd o ran twf personol a datblygu hobïau newydd.

“Mae ein hystod amrywiol o gyrsiau am ddim a chyrsiau hyblyg yn ei gwneud yn bosibl i ddysgwyr fynd ar drywydd eu hangerdd ar amser sy’n gyfleus iddynt gan olygu nad yw dechrau ar daith ddysgu erioed wedi bod yn haws.”

I gael rhagor o wybodaeth am y cyrsiau uchod neu i gyflwyno cais, ewch i: www.coleggwent.ac.uk/cy