鶹ý

En
From Coleg Gwent to Dragons Rugby - meet alumni Jonathan Westwood

O Goleg Gwent i Rygbi’r Dreigiau - cwrdd â’r cyn-fyfyriwr, Jonathan Westwood


20 Ebrill 2022

Dyma gyflwyno Jonathan Westwood, Pennaeth yr Adran Fasnachol yn a chyn-fyfyriwr chwaraeon balch o Goleg Gwent. Astudiodd Jonathan BTEC Cenedlaethol mewn Chwaraeon a Hamdden ar Gampws Crosskeys rhwng 1987 – 1989. Ers hynny, mae wedi cael gyrfa gyffrous iawn ym myd rygbi a busnes. Mae ei rôl bresennol gyda Rygbi’r Dreigiau yn cyfuno’r ddau beth y mae’n angerddol amdanynt, ac mae wedi dod â Jonathan ar daith yn ôl i weithio gyda’r coleg lle dechreuodd ei yrfa.

Stori Jonathan

Dweda wrthym am dy amser yn Coleg Gwent, pan roeddet ti’n astudio BTEC Chwaraeon.

“Astudiais fy Lefelau O yn Coleg Gwent, ac roedd fy nghariad parhaus at chwaraeon yn gwneud y dewis nesaf yn un hawdd iawn. Roedd y cwrs BTEC Chwaraeon y cyntaf o’i fath yn yr ardal, ac roedd yn apelio ata’ i’n fawr iawn. Roedd y ffaith fod modd imi gyfuno f’astudiaethau gyda chwaraeon yn helpu fi i sefydlu fy hun yn y gymuned rygbi. Roedd y cyfle i ganolbwyntio ar chwaraeon mewn amgylchedd ar wahân i’r ysgol yn rhywbeth positif.

Rhoddodd fy amser yn y coleg sylfaen gadarn i mi a fy ngalluogi i bontio i fywyd fel oedolyn a bywyd gwaith – mae unrhyw fusnes da yn seiliedig ar y perthnasoedd sydd ar waith, a dysgais lawer iawn o’m dyddiau cynnar ar Gampws Crosskeys. Mae’n gyfleuster da iawn sydd yn gwella drwy’r amser. Mae’r cyrsiau chwaraeon wedi gwella’n sylweddol ers fy amser i yn y coleg hefyd, ac maen nhw’n cael eu harwain gan dîm rheoli cadarn ac ymrwymedig y tu ôl i’r llenni.”

Dweda wrthym am dy yrfa, a’r hyn rwyt ti wedi’i wneud ers gadael y coleg.

“Ar ôl gadael y coleg, roedd rygbi yn rhan fawr o fy mywyd, ac mae’n dal i fod yn rhan fawr o fy mywyd a fy ngyrfa. Ymunais â Chlwb Rygbi Trecelyn ble enillais gapiau gyda thîm ieuenctid Cymru, dan 21 oed, a bues i’n aelod o’r garfan genedlaethol, ac yn cystadlu yng Nghynghrair Cenedlaethol Heineken. Ochr yn ochr â hyn, dechreuais weithio fel Rheolwr Cyfrifon gyda Bragwyr Cymru.

Ar ôl gadael Clwb Rygbi Trecelyn, treuliais dair blynedd gyda Chlwb Rygbi Casnewydd a thymor gyda Chaerdydd, ac yna Castell-nedd. Bues i hefyd yn cynrychioli Undeb Sir Fynwy yn erbyn Awstralia (oedd yn bencampwyr y byd bryd hynny) yn ystod tymor 1992-93! Yn y cyfamser, parhaodd fy nghyflogaeth yn y Diwydiant Bragu lle cefais ddyrchafiad i fod yn Rheolwr Gwerthu Rhanbarthol ym Mragdy Brains – arweiniodd ddyrchafiadau pellach fi at Heineken, lle bues i’n gweithio fel Rheolwr Cyfrifon Cenedlaethol rhwng 2008-2018.

Ar ôl i anaf difrifol i fy mhen-glin newid trywydd fy ngyrfa rygbi, datblygais fy hun fel hyfforddwr yn fy nghlwb rygbi lleol yn Abercarn, ac wedi hynny yng Nghlwb Rygbi Trecelyn ac yna gyda Crosskeys, lle bues i’n Gyfarwyddwr Rygbi. Roedd fy ngyrfa rygbi yn rhan fawr iawn o fy mywyd, ac mae’r llwyddiannau yr wyf wedi’u cyflawni ar hyd y daith yn fy ngwneud i’n hynod falch.

Yn 2018, daeth cyfle i adael Heineken a dod yn Bennaeth yr Adran Fasnachol yn Rygbi’r Dreigiau, wnaeth fy ngalluogi i gyfuno’r ddau beth rydw i’n angerddol amdanynt mewn bywyd – rygbi a busnes – mewn rhanbarth rydw i’n ei charu. Does dim dau ddiwrnod yr un peth, a gall Rygbi Cymreig fod yn amgylchedd prysur iawn sy’n newid yn gyflym!”

Gweithio gyda Phartner Masnachol y Dreigiau, Coleg Gwent

Bellach yn gweithio fel Pennaeth yr Adran Fasnachol, mae Jonathan unwaith eto mewn cyswllt agos gyda’r coleg, gan gryfhau’r cysylltiadau rhwng addysg a chwaraeon yn yr ardal leol. Fel un o’r colegau sy’n perfformio orau yng Nghymru, rydyn ni’n falch o fod yn Bartner Masnachol y Dreigiau ac yn gartref i Academi Rygbi Ieuenctid y Dreigiau. Mae ein coleg wedi cael enw da am addysg chwaraeon ers i Jonathan ddod yma yn 1987, ac rydym yn cynnig darpariaeth ardderchog o gyrsiau chwaraeon yn Ne Ddwyrain Cymru, o Hyfforddi Personol, i BTEC mewn Chwaraeon, i Radd Sylfaen mewn Hyfforddi a Datblygu.

Gan gyfuno chwaraeon ac addysg, mae ein cyfleusterau yn galluogi dysgwyr i fwynhau chwaraeon fel hobi neu fel llwybr at yrfa chwaraeon llwyddiannus fel Jonathan. Gyda neuaddau chwaraeon yn llawn offer, campfeydd, ystafelloedd ffitrwydd, caeau awyr agored ac academïau chwaraeon, ni fu cymryd rhan mewn chwaraeon erioed mor hawdd! Mae Academi Rygbi Ieuenctid y Dreigiau ar Gampws Crosskeys hyd yn oed yn galluogi dysgwyr i gyfuno hyfforddiant gyda’u hastudiaethau, gan feithrin talent rygbi newydd a chreu cyfleoedd i fynd i mewn i’r byd rygbi proffesiynol.

Dechreuodd gyrfa lwyddiannus Jonathan ym maes chwaraeon gyda BTEC ar Gampws Crosskeys, wnaeth roi sylfaen i’w fywyd gwaith. Mae llawer o enwogion chwaraeon ifanc talentog ac uchelgeisiol wedi dilyn yr un llwybr, gan gynnwys chwaraewyr y Dreigiau a Chymru, Elliot Dee, Ollie Griffiths a Tyler Morgan. Felly, beth bynnag yw eich targed, cymerwch eich camau cyntaf yn Coleg Gwent a gwnewch gais nawr i ddechrau ar eich llwybr at lwyddiant fel Jonathan!

Ymunwch â’n digwyddiad agored nesaf i gael gweld y cyfleusterau, dysgu mwy am y cyrsiau sydd ar gael ar eich campws lleol a chwrdd â’r tiwtoriaid.