鶹ý

En
Dorian Payne

Dewch i gwrdd â Dorian Payne, Cyn-fyfyriwr Coleg Gwent


27 Hydref 2023

“Byddwn yn argymell bod unrhyw un sy’n ystyried astudio ar gwrs Cyfrifeg yn Coleg Gwent yn mynd amdani”

Dewch i gwrdd â Dorian Payne, 27 mlwydd oed, sef cyn-fyfyriwr cyfrifeg Coleg Gwent. Dorian yw’r grym y tu ôl i , cwmni datblygu eiddo sydd â chenhadaeth.

Eisteddom i lawr gyda Dorian i trafod ei fagwraeth, ei ysbryd entrepreneuraidd a’i brofiad yn y Coleg.

Pan oeddwn yn tyfu i fyny, roedd trin rhifau yn dod yn naturiol i mi”

Magwyd Dorian yng Nghasnewydd, Sain Silian, lle’r oedd ei deulu’n gweithio fel labrwyr cyffredinol. Un o’i atgofion cynharaf oedd ailwampio’r tŷ. Yn ei fywyd ysgol, dangosodd Dorian sgiliau entrepreneuraidd a’i hysgogodd i fentro i sawl busnes megis gwerthu beiciau modur, mynychu llawer o werthiannau cist car a hyd yn oed dysgu ei hun i fewnforio o Tsieina.

Ar ôl archwilio gwahanol ddiwydiannau, dysgodd yn fuan mai ym maes eiddo yr oedd ei angerdd, a lansiodd ei asiantaeth gosod tai, Castell Group.

Gan edrych i gymryd ei sgiliau i’r lefel nesaf, dysgodd Dorian mai’r cefndir mwyaf cyffredin ar gyfer Prif Weithredwyr hynod lwyddiannus oedd cyfrifeg.

Gwnes i ychydig o ymchwil a darganfod bod gan Coleg Gwent gwrs o’r enw AAT neu’r Gymdeithas Technegwyr Cyfrifyddu. Ac ymrestrais ar gyfer y cwrs.

Gan edrych i gymryd ei sgiliau i’r lefel nesaf, dysgodd Dorian mai’r cefndir mwyaf cyffredin ar gyfer Prif Weithredwyr hynod lwyddiannus oedd cyfrifeg.

Pan ddechreuodd Dorian astudio yn Coleg Gwent, roedd ganddo asiantaeth gosod tai yn barod, a sefydlwyd pan oedd yn 16 oed. Mae Dorian yn cofio dwli ar y cwrs a bod yn fodlon ar brofiad ac arweiniad ei ddarlithwyr, wrth iddo jyglo coleg a busnes.

“Rwy’n cofio i un o fy narlithwyr, Caroline Carr eistedd i lawr gyda mi a rhoi geiriau hynod ddoeth a fy annog gyda’r busnes, gan nodi pa mor ardderchog ydoedd, ond hefyd yn tynnu sylw at werth addysg a phwysigrwydd deall y broses gyfrifon yn ei chyfanrwydd, a sut y byddai hynny o fudd i’m busnes yn y dyfodol.”

Dorian Payne at college

Trwy gydol ei gwrs, canolbwyntiodd Dorian ar ei astudiaethau, gan ddysgu sut y gallai weithredu’r hyn yr oedd yn ei ddysgu mewn bywyd go iawn. Ymunodd â Chystadleuaeth Wordskills y DU, sef cystadleuaeth genedlaethol sy’n darparu cyfleoedd datblygu sgiliau a chydnabyddiaeth ym meysydd proffesiynol. Cyrhaeddodd Dorian a’i dîm Coleg Gwent y rownd derfynol ac wrth edrych yn ôl, mae’n cofio pa mor bwysig oedd y digwyddiadau hyn iddo yn ystod ei astudiaethau.

“Mae amlygiad i ddigwyddiadau o’r fath yn hybu’ch hyder a’ch gallu i weithio dan bwysau yn ac yn rhoi’r holl ddamcaniaeth honno ar waith.”

“Byddwn yn argymell bod unrhyw un sy’n ystyried astudio ar gwrs Cyfrifeg yn Coleg Gwent yn mynd amdani.”

Graddiodd Dorian yn llwyddiannus o’r Coleg gydag AAT Lefel 4, a’i galluogodd i symud ymlaen i ACCA (Cymdeithas y Cyfrifwyr Ardystiedig Siartredig) ym Mhrifysgol De Cymru. Yn ystod y cyfnod hwn ehangodd Dorian ei fusnes i froceriaeth cyllid masnachol a phreswyl, gan weithio gyda buddsoddwyr a chodi cannoedd o filoedd o bunnoedd

 “Roedd fy sgiliau rhif a’r ffordd roeddwn i’n gallu cyflwyno a chyfleu rhifau a deall ystyr  gwerthuso bargen yn llawn wastad yn cael argraff arnyn nhw.”

Ar hyn o bryd mae Grŵp Castell yn cynhyrchu trosiant misol rhwng 1 ac 1.5 miliwn y mis, ac mae hynny’n debygol o dyfu. Mae’r cwmni wedi sicrhau banc tir o dros 600 o gartrefi, a thros £120 miliwn o brosiectau, a sy’n cyfeirio at ddyfodol disglair.

Mae Dorian yn falch bod Grŵp Castell yn adeiladu tai cymdeithasol, yn buddsoddi yn ôl mewn i gymunedau lleol ac yn gwneud gwahaniaeth ym mywydau’r rheini sydd mewn angen.

Dorian Payne in a hi vis jacket

“Byddwn yn argymell unrhyw un sy’n ystyried astudio cyfrifeg yn Coleg Gwent i wneud hynny oherwydd, wrth gofio’n ôl, roedd yn wych. Roedd fy narlithwyr yn anhygoel. Fe wnaethon nhw fy annog a’m cefnogi cymaint. Gwnes i gyfarfod â phobl wych yn ystod fy nghwrs rwy’n yn dal i siarad â nhw dros ddeng mlynedd yn ddiweddarach. Ond yn bwysicaf oll, ar wahân i’r wybodaeth dechnegol yr wyf wedi’i dysgu, rhoddodd yr hyder i mi wir ragori yn fy musnes a’m llwybr gyrfa o ddewis a meithrin hyder pobl eraill oherwydd fy mod yn gwybod beth rwy’n ei wneud.”

Dorian Y 4 Agwedd Allweddol ar Fusnes

Roedd Dorian hefyd yn ddigon caredig i rannu ychydig o fewnwelediad gwych â ni ar agweddau allweddol ar fusnes: strategaeth, tîm, gweithrediad busnes a chyllid.

I roi hwb i’ch gyrfa ym myd busnes a chyllid, dewch o hyd i’n hystod o gyrsiau amser llawn a chyrsiau rhan-amser neu cofrestrwch ar gyfer ein digwyddiad agored nesaf i gael rhagor o wybodaeth.