Â鶹´«Ã½

En
Apprenticeship Awards 2023 students

Dathlu llwyddiant yn ein gwobrau prentisiaeth blynyddol


26 Mehefin 2023

Cynhaliwyd gwobrau prentisiaeth blynyddol 2022/23 eto eleni, gan ddathlu’r gorau o’n grŵp talentog o brentisiaid.

Mae prentisiaethau wastad wedi bod yn opsiwn poblogaidd yn Coleg Gwent ac nid yw eleni wedi bod yn eithriad, gyda thua 650 o brentisiaid rhestredig ar amrywiaeth o gymwysterau, o adeiladu i arlwyaeth. Trwy brentisiaeth gall myfyrwyr ennill profiad byd go iawn yn y gwaith, gan weithio tuag at gymhwyster cydnabyddedig, a chael eu talu wrth astudio.

Mae’r gwobrau blynyddol yn gyfle gwych i ddathlu gwaith caled ein prentisiaid a chydnabod eu cyflawniadau, gan helpu i ysbrydoli’r garfan nesaf o brentisiaid gobeithiol. Eleni mwynhaodd myfyrwyr, eu cyflogwyr, rhieni a staff Coleg Gwent noson gyffrous yng Ngwesty’r Parkway yng Nghwmbrân, gyda chyflwyniad gwobrau ac wedyn bwffe blasus.

Gyda channoedd o fyfyrwyr yn astudio ar brentisiaethau Coleg Gwent ar hyn o bryd, roedd y gwobrau yn gystadleuol iawn. Cafwyd enwebiadau oddi wrth aseswyr a chyflogwyr ac mae’n hyfryd clywed am y cyfraniadau gwych y mae ein prentisiaid yn eu gwneud i’w cwmnïau yn barod.

Noddwyd dwy o’r gwobrau, a oedd yn canolbwyntio ar sgiliau hanfodol, gan Mark Harding, Pennaeth Sgiliau Coleg Gwent. Mae’r gwobrau hyn yn cydnabod pwysigrwydd sgiliau Mathemateg a Saesneg o fewn y fframwaith prentisiaeth a’r myfyrwyr sydd wedi perfformio’n eithriadol o dda yn y maes hwn.

Noddwyd gweddill y gwobrau gan , gyda’r Meistr John Charles yn cyflwyno gwobrau ar y noson. Wrth gyflwyno araith fer i’r rheini oedd yn bresennol, nododd fod “prentisiaethau yn sylfaenol at gynnal y wlad hon” a pha mor falch oedd ef i weld bod “gwerth prentisiaethau yn edrych fel ei fod yn ennill cydnabyddiaeth unwaith eto”.

Roedd Llywodraethwyr y Coleg, Mark Langshaw ac Andrew Clark hefyd yn bresennol i weld y dysgwyr yn derbyn eu tystysgrifau.

Meddai Mark: “Mae’n bleser i Andrew a minnau allu dod draw i’r gwobrau heddiw a dathlu llwyddiant ein myfyrwyr. Mae gan brentisiaethau werth sylweddol i gyflogwyr, myfyrwyr a’r gymuned gyfan.”

Dyma’r rhestr gyflawn o enillwyr y gwobrau:

Cynnal a Chadw Peirianneg Fecanyddol – Prentis y Flwyddyn: Ben Hamilton
Cymeradwyaeth Uchel: Harry Hoskins

Cynnal a Chadw Peirianneg Drydanol – Prentis y Flwyddyn: Daniel Furmage

Sector Gwasanaeth (Lletygarwch ac Iechyd a Gofal Cymdeithasol) – Prentis y Flwyddyn: Geraint Booth

Prentis Adeiladu y Flwyddyn: Brychan Loch
Cymeradwyaeth Uchel: Aaron Tidball a Scott Webber

Gweithgynhyrchu a Pheirianneg Adeiladu (Gosod Trydanol/Electro-Technegol a Weldio – Prentis y Flwyddyn: Jordan Price

Y Diwydiant Moduro (MV a VBR) – Prentis y Flwyddyn: Joshua Warren

Prentis Peirianneg Sifil y Flwyddyn: Duane Richards

Prentis Sylfaenol SHC y Flwyddyn: Ellis Channing

Prentis SHC y Flwyddyn: Matthew Bulpin

Prentis Sylfaenol Cyffredinol y Flwyddyn: Katie Hall

Prentis Cyffredinol y Flwyddyn: Caleb Davies

Gallwch ddysgu rhagor am astudio prentisiaeth yn Coleg Gwent neu am y manteision o gyflogi prentis yn eich busnes.