鶹ý

En
Fashion shots at Cannes

Goleuadau, Camera, Gweithredu! Myfyrwyr ffotograffiaeth a chyfryngau Coleg Gwent yn ymweld â Gŵyl Ffilm Cannes


28 Mehefin 2023

Digwyddiad blynyddol sy’n dathlu sinema ryngwladol yw Gŵyl Ffilm Cannes, sy’n dod â gwneuthurwyr ffilm, actorion, cynhyrchwyr, dosbarthwyr a beirniaid ledled y byd at ei gilydd.

Cynhelir yr ŵyl enwog bob blwyddyn yn Cannes ar hyd y Riviera Ffrengig, ar arfordir de-ddwyrain Ffrainc.

Eleni, roedd pedwar o’n myfyrwyr Ffotograffiaeth a’r Cyfryngau Lefel A o Barth Dysgu Torfaen yn ddigon ffodus i fynychu’r ŵyl fel rhan o’u profiad gwaith drwy ein partner, asiantaeth greadigol Java. Mae Cynthia Langeveldt, Rheolwraig Brand yn Java wedi bod yn gweithio gyda’r myfyrwyr ers mis Medi yn cyflwyno gweithdai wythnosol ar bortreadaeth a ffotograffiaeth ffasiwn.

Photographing person on steps in CannesTrwy gysylltiadau rhyngwladol, llwyddodd Cynthia i roi’r cyfle unigryw i’n myfyrwyr fod yn ffotograffwyr swyddogol ar gyfer wythnos ffasiwn enwog y digwyddiad, lle bu’r myfyrwyr yn rhan o’r sefydlu, cyfarwyddo creadigol, ffotograffiaeth a chynhyrchiant.

Nod y profiad oedd ehangu eu dealltwriaeth o gyfarwyddo celf mewn digwyddiad proffesiynol tra’n meithrin eu galluoedd artistig eu hunain.

Dywedodd Charlotte Pitt, myfyriwr ffotograffiaeth: “Ar y diwrnod cyntaf tynnon ni luniau o bob gwisg i’w defnyddio yn y sioe ac roedd yr ail ddiwrnod yn cynnwys archwilio dinas Cannes a dewis lleoliadau ar gyfer ffotograffiaeth allanol. Mae’r profiad wedi bod yn hynod foddhaus. Mae gweithio gyda gweithwyr proffesiynol y diwydiant yn dod â lefel o ddisgwyliad sy’n heriol ac sydd wedi fy ngorfodi allan o fy mharth cysur. Mae’r daith wedi gwella fy ngallu i ddeall sut mae’r diwydiant ffotograffiaeth yn gweithio ac wedi rhoi profiad gwych a mewnwelediad ar sut brofiad fyddai gweithio ar brosiect mewn amgylchedd proffesiynol. O ganlyniad, rwy’n teimlo’n fwy parod ar gyfer yr hyn sydd i ddod.”

Dywedodd Holly Gough a fynychodd y daith hefyd: “Fy rôl oedd tynnu lluniau o’r modelau a bod yn greadigol. Roedd rhyngweithio â gwahanol bobl o bob rhan o’r byd yn ddiddorol iawn ac roedd cael profiad o beth mae’r bobl hyn yn ei wneud fel bywoliaeth yn wych. Mae’r daith wedi fy helpu gyda fy hyder ac wedi gwneud i mi sylweddoli faint mwy sydd gen i i’w gynnig yn y diwydiant hwn.”

Mae teithio i ddigwyddiad mawreddog fel Gŵyl Ffilm Cannes yn helpu myfyrwyr i ddysgu sut i lywio amgylcheddau newydd, goresgyn heriau, ac addasu i wahanol normau diwylliannol. Maent yn ennill annibyniaeth, hyder, a gwytnwch wrth iddyn nhw gamu allan o’u parthau cysur ac ymdrochi mewn lleoliad rhyngwladol.

Coleg Gwent students on red carpet at CannesDywedodd Lydia Lansberry, myfyrwraig ffotograffiaeth: “Roedd mynychu Gŵyl Cannes fel ffotograffydd yn brofiad anhygoel a gwnaeth fy ngwthio allan o fy mharth cysur. Cawsom gyfle i weithio gyda modelau, yn ogystal â’r holl bobl eraill a oedd yn gysylltiedig megis cynhyrchwyr ac artistiaid colur, a rhoddodd hyn gipolwg i mi ar sut y gallai bywyd fel ffotograffydd ffasiwn fod. Yr uchafbwynt i mi oedd y diwrnod a wnaethom dreulio yn gwneud ffotograffiaeth stryd gyda’r modelau. Rwyf wedi dysgu nad yw sefydlu digwyddiad fel hwn yn dasg hawdd, ac mae’n cymryd oriau o gynllunio a gwaith tîm.”

Dywedodd Sam Warr, Darlithydd yng Ngholeg Gwent: “Roedd ein hymweliad â Gŵyl Ffilm fawreddog Cannes yn antur ryfeddol a wnaeth cynnig llawer mwy na chyfle cyffrous i fyfyrwyr. Fe wnaeth eu trochi ym myd ffotograffiaeth digwyddiadau a darparu cyfleoedd rhwydweithio unigryw iddyn nhw.”

Eisiau dechrau eich gyrfa mewn ffotograffiaeth? Yn Coleg Gwent, mae gennym ni gyrsiau UG/Safon Uwch mewn Ffotograffiaeth ar gael ar draws tri o’n campysau – Parth Dysgu Torfaen, Parth Dysgu Blaenau Gwent a Champws Crosskeys.

Dysgwch sut y gallwch chi lwyddo yn niwydiant ffotograffiaeth.