8 Gorffennaf 2021
Fel coleg sydd wedi ymrwymo i hyfforddi’r genhedlaeth nesaf o dalent ddigidol, mae ein cwrs yn cael ei ddatblygu a’i ddysgu er mwyn bodloni anghenion cyflogwyr, sy’n golygu ei fod yn ddewis poblogaidd i lawer o ddysgwyr sydd eisiau dilyn gyrfa mewn rhwydweithiau cyfrifiadurol a diwydiannau digidol. Eleni, mae 26 o’n dysgwyr angerddol ac uchelgeisiol wedi cwblhau Diploma Cenedlaethol Estynedig Lefel 3 BTEC mewn Technolegau Digidol y Career Colleges ac mae pob un o’r dysgwyr wedi rhagori yn eu hastudiaethau, gan roi sylfaen dda iddynt ar gyfer gyrfa lwyddiannus yn y dyfodol.
Eleni, rydym yn hynod falch o’n dysgwyr sydd wedi gweithio’n galed ac wedi llwyddo ar y cwrs, gyda 100% o’r rhai a ymgeisiodd mewn arholiadau yn llwyddo mewn steil! Mae hyn yn llawer uwch na data meincnodi rheolaidd Pearson, ac mae Pennaeth yr Ysgol, Tom Corrigan o’r farn mai eu profiad gyda’r Career Colleges sy’n gyfrifol am lwyddiant rhagorol y dysgwyr hyn.
Mae cwrs BTEC mewn Technolegau Digidol y Career Colleges yn darparu hyfforddiant galwedigaethol i ddysgwyr ochr yn ochr ag ennill profiad o’r byd go iawn yn eu diwydiant, fel bod modd iddyn nhw weld perthnasedd y theori a’i chymhwyso yn ymarferol yn y gweithle. Mae llawer mwy i’r cyrsiau hyn nag astudio yn y dosbarth, ac mae myfyrwyr yn datblygu sgiliau ymarferol ochr yn ochr â dysgu’r theori sy’n sail i’r cyfan.
Mae nifer o rolau y galli di eu hystyried gyda chymhwyster mewn Technoleg Ddigidol! Rydym yn gweithio gyda chyflogwyr i osod disgwyliadau a safonau uchel, felly rydym yn hyderus y bydd ein dysgwyr yn gadael y coleg gyda’r casgliad o sgiliau a’r ansawdd y mae’r cyflogwyr yn chwilio amdanynt. Caiff dysgwyr brofiad o senarios o’r byd go-iawn a phrosiectau ble maent yn gallu rhoi eu gwybodaeth a’u hymarfer ar waith yn y gweithle, ac mae’r dull cyfunol hwn yn helpu i lenwi’r bylchau sgiliau sy’n wynebu cyflogwyr lleol. Yn ogystal â hynny, mae dysgwyr yn datblygu sgiliau cyflogadwyedd megis blaenoriaethu, dibynadwyedd a rheoli amser trwy gydol y cwrs, gan ddatblygu eu hyder a’u gallu er mwyn sicrhau eu bod yn barod am waith pa fyddant yn ymuno â’r gweithlu.
Felly, beth sydd gan ein dysgwyr i’w ddweud am eu profiad yn astudio ar gyfer Diploma’r Career Colleges mewn Technolegau Digidol?
Dywedodd Zacory Phillips o Dŷ-du;
Yn y cyfamser, eglurodd Alex Jones o Six Bells;
Ydy cyfrifiadura’n dy gyffroi di hefyd? Lansia dy yrfa mewn technoleg ddigidol trwy ganfod ein Diploma Cenedlaethol Estynedig BTEC Career Colleges mewn Technolegau Digidol.
Ymgeisia nawr i gael ymuno â ni fis Medi yma!