10 Chwefror 2020
Yma yn Coleg Gwent rydym yn falch o nodi a dathlu mis hanes LGBTQ+ . Rydym yn falch iawn o’n hagwedd a’n cymuned flaengar, lle mae ein dysgwyr a staff yn gallu derbyn pwy ydyn nhw, a byw’n rhydd heb ofn.
Cychwynnodd mis hanes LGBTQ+ yn 2005 fel digwyddiad annibynnol, wedi ei hwyluso gan Sue Sanders a Paul Patrick, dau ymgyrchydd amlwg iawn dros hawliau LGBTQ+, fel prosiect Schools OUT UK. Llwyfannwyd y digwyddiad hwn o ganlyniad i ddiddymiad Adran 28 yn 2003. Roedd Adran 28 yn rhan o Ddeddf Llywodraeth Leol 1988 a oedd yn gwahardd “hyrwyddo” cyfunrhywioldeb gan awdurdodau lleol a holl ysgolion y DU, a olygai bod athrawon yn cael eu gwahardd rhag trafod y posibilrwydd o berthnasoedd o’r un rhywedd gyda myfyrwyr. Bu i hyn achosi cynnydd sylweddol mewn homoffobia a bwlio heb wrthwynebiad a yrrodd llawer o blant a phobl ifanc LGBTQ+ i guddio eu hunaniaeth am eu bod nhw’n pryderu. Gwaharddwyd cynghorau rhag darparu llyfrgelloedd gyda llenyddiaeth neu ffilmiau a oedd yn cynnwys themâu hoyw neu lesbiaidd, a chafodd hyn effaith sylweddol ar addysg, iechyd meddwl a llesiant cyffredinol cenhedlaeth o bobl ifanc. Hyd heddiw, mae rhai yn parhau i fyw gydag effeithiau’r hyn a ddigwyddodd iddynt yn ystod y cyfnod hwnnw.
Bellach, a ninnau yn 2020, mae Mis Hanes LGBTQ+ yn cael ei ddathlu bob mis Chwefror yn y DU (mis Hydref yn yr UDA a Canada) i ddathlu’r gymuned ac annog addysg bellach ar faterion LGBTQ+. Mae hefyd yn cydnabod hanes symudiad hawliau hoyw, a hyrwyddo cymdeithas gynhwysfawr fwy diogel lle mae’r sbectrwm cyfan o rywioldeb a rhywedd yn cael ei dderbyn a lle gellir siarad amdano yn agored heb ofn.
Yma yn Coleg Gwent mae gennym gymdeithas LGBTQ+ amrywiol, hyfryd. Mae Amy, un o’n dysgwyr yn ystyried ei hun fel merch Ddeurywiol, Trawsryweddol:
“Rwyf wedi cael profiadau gwych yn Coleg Gwent. Bu i mi ailbennu fy rhywedd yn ystod fy mlwyddyn gyntaf yma, ac mae’r holl staff rwyf wedi dod ar eu traws wedi bod yn wych yn defnyddio fy rhagenwau ac enw, hyd yn oed yn ystod y cyfnod cyntaf. Mae’r holl staff wedi bod yn gefnogol ac wedi helpu i wneud y coleg yn amgylchedd croesawgar. Rwyf wedi cychwyn fy ngrŵp cefnogi fy hun fel rhan o’m rôl fel cynrychiolydd LGBTQ+ Undeb Myfyrwyr, ac mae Ysbrydoli wedi bod yn gefn gwych i mi a myfyrwyr LGBTQ+ eraill. Mae’r coleg yn lle gwych i astudio am ei fod yn amgylchedd cyfeillgar, hamddenol a chefnogol sy’n caniatáu myfyrwyr i fod yn nhw eu hunain a chwblhau eu gwaith heb unrhyw un yn tarfu arnynt.
Mae Coleg Gwent wedi croesawu amrywiaeth erioed, a bydd yn parhau i wneud hynny, ac mae wedi ymrwymo i gefnogi ein cymuned LGBTQ+, o ran dysgwyr a staff.
Mae Coleg Gwent yn goleg cynhwysol ac mae croeso i bawb yma.