1 Mehefin 2023
Elusen plant flaenllaw yng Nghymru sy’n darparu cysur, gofal a hwyl i blant â chyflyrau sy’n cyfyngu ar fywyd a’u teuluoedd yw TÅ· Hafan. Bob blwyddyn mae’r elusen yn gofalu am dros 300 o blant wrth gefnogi eu teuluoedd.
Trwy ei hosbis fywiog a’i raglenni cymunedol amrywiol, mae TÅ· Hafan yn cynnig gofal seibiant byr i deuluoedd a’u helpu i wneud y gorau o’r amser sydd ganddynt gyda’i gilydd; gan greu atgofion gwerthfawr a sicrhau bod bywyd byr yn fywyd llawn.
Yn Coleg Gwent, rydym wedi ymrwymo i roi yn ôl i’n cymuned, ac mae’r bartneriaeth hon yn caniatáu i ni wneud hynny. Unwaith eto eleni, rydym yn gosod targed uchelgeisiol o £10,000 i’w godi erbyn Awst 2024.
Pam TÅ· Hafan?
Er mwyn sicrhau bod ei wasanaethau am ddim ar gael i gleifion a’u teuluoedd pan fyddant ei angen fwyaf, mae angen i DÅ· Hafan godi £5.2 miliwn o bunnoedd bob blwyddyn, gyda dim ond canran fach a roddir gan Lywodraeth Cymru.
Mae gwasanaethau’r elusen i blant Cymru a’u teuluoedd yn ddibynnol ar ymrwymiad ei chefnogwyr. Rydym yn falch o gefnogi TÅ· Hafan fel ein Helusen y Flwyddyn, i helpu i godi ymwybyddiaeth o waith yr hosbis a chyfrannu cronfeydd hanfodol i gynnal ei hymdrechion parhaus.
Digwyddiadau codi arian
I gychwyn calendr digwyddiadau eleni, byddwn yn noddi, a gynhelir ddydd Sul, 16 Gorffennaf 2023.
Bydd nifer o ddigwyddiadau codi arian eraill yn cael eu cynnal dros y 12 mis nesaf a byddwn  yn annog ein staff a’n dysgwyr i gymryd rhan i helpu i godi arian ar gyfer yr hosbis.
Rydym mor gyffrous i bartneru gyda ThÅ· Hafan ac rydym am ddiolch i bawb am gymryd yr amser i bleidleisio dros eu dewis o elusen.
Gallwch ddysgu rhagor am hosbis TÅ· Hafan ar: .