Â鶹´«Ã½

En

Coleg Gwent yn ennill statws o ragoriaeth gan Lywodraeth Cymru unwaith eto.


24 Mai 2019

Coleg Gwent yn ennill statws o ragoriaeth gan Lywodraeth Cymru unwaith eto.

Mae Adroddiad Deilliannau Dysgwyr diweddaraf Llywodraeth Cymru ar gyfer 2017/18 yn dangos mai unwaith eto, am y bedwaredd flwyddyn yn olynol, Coleg Gwent yw un o golegau gorau Cymru.

Mae’r coleg yn gydradd gyntaf am gymwysterau galwedigaethol a chydradd gyntaf am yr holl brif gymwysterau, gan gyflawni’n uwch na’r cyfraddau llwyddo cenedlaethol am 3 blynedd yn olynol.

Y coleg yw’r unig un yng Nghymru sydd â 18 o wahanol feysydd sector pwnc wedi’u categoreiddio fel ‘rhagorol’ ar gyfer prif gymwysterau – nid oes yr un coleg arall wedi cyflawni cymaint â hyn.

Cyhoeddir yr Adroddiad Deilliannau Dysgwyr gan Lywodraeth Cymru ac mae’n dangos perfformiad cyffredinol pob darparwr addysg bellach o Gofnod Dysgu Gydol Oes Cymru (LLWR). Ei nod yw hysbysu cyflogwyr, rhieni a’r cyhoedd ynglÅ·n â safon y cymwysterau a gyflawnwyd.

Dywedodd Pennaeth Coleg Gwent, Guy Lacey, “Rydym wedi gwirioni cael Adroddiad Deilliannau Dysgwyr mor rhagorol – mae’r adroddiadau hyn yn hollbwysig i ni gan eu bod yn cynrychioli canlyniadau ein dysgwyr. Mae’n dangos ein hymroddiad i ddarparu addysg o’r safon uchaf i’n holl fyfyrwyr.”