Â鶹´«Ã½

En

Buddugoliaeth i Ddylunwyr Creadigol Coleg Gwent!


14 Chwefror 2020

Buddugoliaeth i Ddylunwyr Creadigol Coleg Gwent!

Llwyddodd dau ddysgwr dawnus sy’n astudio yn yr adran Gelf a Dylunio yn Coleg Gwent i ddod yn fuddugol mewn cystadleuaeth i arddangos eu dyluniadau gwych ar draws Gwent a thu hwnt. Bu i Fred Aston a Euan White, dysgwyr Celf a Dylunio yng nghampws ±Ê´Ç²Ô³Ù-²â-±èŵ±ô, gipio’r wobr gyntaf mewn cystadleuaeth gan Lwybr Gyrfaoedd Gofal Gwent, ac mae dyluniadau’r logo a’r faner buddugol yn cael eu defnyddio fel brandio ar gyfer digwyddiadau cyhoeddus, adnoddau a thudalennau cyfryngau cymdeithasol.

Mae Llwybr Gyrfaoedd Gofal Gwent yn fenter bartneriaeth sy’n cefnogi datblygiad, cymhwyster a recriwtio gweithwyr Iechyd a Gofal Cymdeithasol ledled Gwent. Mae’r prosiect gwaith hwn, a sefydlwyd ym mis Awst 2018, wedi datblygu strwythur cydweithio newydd rhwng Coleg Gwent, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, Torfaen, Caerffili, Sir Fynwy, cynghorau Blaenau Gwent a Chasnewydd, yn ogystal â darparwyr gofal cymdeithasol annibynnol. Mae pob un o’r sefydliadau yn gweithio ynghyd i gefnogi dysgwyr Iechyd a Gofal Cymdeithasol Coleg Gwent i gyflawni eu nodau i ddod yn genhedlaeth newydd o weithwyr gofal iechyd proffesiynol.

Dywedodd Chris Hooper, Swyddog Ymgysylltiad a Hwyluso Tîm Partneriaeth Ranbarthol Gwent:

”Mae gweithio gyda myfyrwyr Coleg Gwent wedi ychwanegu gwerth i’n gwaith, ac rydym wedi gallu manteisio ar eu sgiliau a doniau mewn ffyrdd nad oeddem wedi ystyried ar gychwyn y prosiect.”

Roedd aelodau’r Llwybr Gyrfaoedd Gofal Gwent eisiau creu logo unigryw i frandio’r prosiect menter hwn, a gan fod Coleg Gwent yn bartner, bu iddynt benderfynu cynnal cystadleuaeth ymysg ein dysgwyr dylunio yng nghampws ±Ê´Ç²Ô³Ù-²â-±èŵ±ô. Darparwyd briff manwl i’r myfyrwyr yn gofyn iddynt gyflwyno syniadau am logo, gydag arweinwyr y prosiect yn pleidleisio dros eu ffefryn. Roedd safon yr holl geisiadau’n eithriadol o uchel, ond wedi trafodaeth fanwl roedd rhaid dyfarnu’r wobr gyntaf i Fred a Euan.

Dywedodd Katie Fairfax, Darlithydd Celf yn Coleg Gwent:

“Rydym yn ceisio cwblhau aseiniadau ein cyrsiau Celf a Chyfryngau drwy friff byw cymaint â phosib, sy’n galluogi’r dysgwr i ennill profiad go wir o weithio i gleient a datblygu sgiliau, trafod ac ail-ddylunio syniad i fodloni gofynion y cleient. Mae pob un ohonom yn hynod falch o Fred ac Euan am weithio’n galed i ddylunio logo i GCCP, ac yn ddiolchgar bod y myfyrwyr wedi cael cyfle i gwblhau briff byw i gyflogwr o fewn Torfaen.” 

Mae menter Llwybr Gyrfaoedd Gofal Gwent yn chwarae rôl amhrisiadwy drwy greu llwybrau mwy hwylus at swyddi Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar gyfer dysgwyr Iechyd a Gofal Cymdeithasol Coleg Gwent, ac ar yr achlysur hwn, gweler bod y gystadleuaeth wedi rhoi cyfle i’n dysgwyr Celf a Dylunio dawnus a gweithgar fod ynghlwm â’r ymrwymiad i greu dyfodol disglair i’r genhedlaeth nesaf. Llongyfarchiadau i Fred a Euan!

Am ragor o wybodaeth am ein cyrsiau Celf a Dylunio / Iechyd a Gofal cymdeithasol a mwy, ewch i: www.coleggwent.ac.uk/cy/learning/full-time