27 Chwefror 2020
Yn dilyn lansiad llwyddiannus Coleg Seiber Cymru’r wythnos hon gan Kirsty Williams AM: Y Gweinidog Addysg, mae Coleg Gwent yn falch o gyhoeddi manylion ein cwrs BTEC digidol cyffrous newydd yn swyddogol, y Diploma Estynedig Cenedlaethol mewn Cyfrifiadura.
Mae’r Diploma Estynedig Cenedlaethol BTEC mewn Cyfrifiadura yn ffordd newydd sbon o ddysgu digidol sy’n rhoi’r cyfle i ddysgwyr ddechrau cwrs astudio digidol arloesol sydd wedi ei arwain gan gyflogwyr. Mae’r cwrs yn cynnwys mewnbwn diwydiant sylweddol ynghyd â chwricwlwm ffres wedi ei ddatblygu mewn partneriaeth â Choleg Seiber Cymru fel rhan o Raglen Mewnwelediad Strategol Llywodraeth Cymru.
Rydym wedi bod yn gweithio ar y cyd gyda’n partneriaid diwydiant uchel eu parch, , a , sydd wedi ein helpu i lywio’r cwricwlwm, a gyda’i gilydd, byddant yn cyfrannu dros fil o oriau i gefnogi blwyddyn gyntaf y cwrs (gan gynnwys mentora, darlithwyr gwadd, lleoliadau gwaith a phrofiad diwydiant). Ar gyfer y dysgwyr hynny sy’n cael eu dewis ar gyfer Coleg Seiber Cymru, bydd y cwrs astudio arbennig hwn yn eu galluogi i ennill cymhwyster uchel ei barch sydd â galw mawr amdano, sy’n cael ei gydnabod yn genedlaethol i fod yn gyfwerth â thri phwnc Safon Uwch.
Dywedodd Ian Millward, Cyfarwyddwr y Gyfadran Astudiaethau Academaidd a Menter:
“Mae cwrs Seiberddiogelwch Coleg Gwent yn dilyn 12 mis o drafodaethau a datblygiadau dwys gyda’i bartneriaid cyflogwyr allweddol, Fujitsu, Thales ac Admiral. Rydym wedi bod yn freintiedig iawn i fod â’r lefel uchel yma o ddiddordeb ac ymgysylltiad â chyflogwyr ac yn credu bod ein cwrs Seiberddiogelwch wedi ei ddylunio’n unigryw ar gyfer y rheiny sy’n dymuno dilyn gyrfa yn y diwydiant proffidiol a chyffrous hwn.
Mae’r cwrs Diploma Estynedig Cenedlaethol BTEC mewn Cyfrifiadura yn berffaith ar gyfer ymgeiswyr sydd:
Os hoffech chi fod yn rhan o’r bennod gyffrous newydd hon mewn dysgu digidol, Coleg Gwent yn bendant, yw’r lle i chi! Cofrestrwch nawr i astudio ar y cwrs Diploma Cenedlaethol BTEC NEWYDD a chyffrous hwn mewn Cyfrifiadura drwy e-bostio student.recruitment@coleggwent.ac.uk a byddwn yn rhoi gwybod ichi pan fydd ceisiadau yn agor.