Â鶹´«Ã½

En
Lisa Jones and Nisha Davey with HI learners

Clwb i'r Byddar - Dod â'n Dysgwyr Sydd â Nam ar y Clyw at ei Gilydd


7 Ionawr 2021

Ar brydiau, gall y Coleg fod yn heriol i bob un ohonom (yn enwedig gydag effaith ychwanegol COVID!), ond mae dysgwyr sydd â nam ar eu clyw yn wynebu mwy o heriau na’r rhan fwyaf ohonom. Rydym yn cynnig ystod o wasanaethau cefnogi i helpu ein holl ddysgwyr pan mae pethau’n mynd yn anodd, ond mae dysgwyr gyda nam ar y clyw wedi wynebu mwy o heriau yn sgil cynnydd mewn dysgu ar-lein yn ystod pandemig COVID. Felly, mae dau o’n Cyfathrebwyr Nam ar y Clyw (HI) yng Nghampws Dinas Casnewydd, Lisa Jones a Nisha Davey, wedi sefydlu Clwb i’r Byddar, er mwyn i ni allu cefnogi ein cymuned o ddysgwyr â nam ar y clyw, a’u helpu nhw i gyflawni eu potensial llawn.

Heriau ychwanegol COVID

Gall bywyd fod yn heriol i fyfyrwyr byddar bob dydd, ac yn fwy fyth yn ystod pandemig byd-eang. O ran COVID, mae nifer o bobl yn gwisgo gorchuddion wyneb sy’n atal dysgwyr HI rhag wefus-lafur – elfen allweddol o’u modd o gyfathrebu. Yn ychwanegol, gall dysgu ar-lein wneud i ddysgwyr gyda nam ar y clyw deimlo’n fwy ynysig ac wedi’u datgysylltu, o’i gymharu â dysgu yn y dosbarth, ac mae hynny’n ei wneud yn anodd i gynnal cysylltiadau gyda chyd-fyfyrwyr a thiwtoriaid.

I fynd i’r afael â’r materion hyn, sefydlodd Lisa a Nisha Glwb i’r Byddar, a bellach maent yn cwrdd bob dydd Mawrth i ddarparu anogaeth a chymorth i ddysgwyr HI yng Nghampws Dinas Casnewydd, gyda dysgwyr o gampysau eraill hefyd yn ymuno’n rhithiol drwy Microsoft Teams. Mae Clwb i’r Byddar wythnosol yn cysylltu ein dysgwyr HI gyda’i gilydd, a staff cefnogi’r coleg. Gyda’i gilydd, maent yn sgwrsio ac yn cefnogi’r naill a’r llall, ac yn gwneud iddynt deimlo eu bod wedi’u cynnwys, ac yn rhan o dîm, wrth leihau teimladau ynysig.

HI learners on conference call

Mae’r Clwb i’r Byddar newydd yn gweithio o amgylch dosbarthiadau trefnedig cymaint â phosib, ac mae wedi bod yn llwyddiant ysgubol, gydag un ar ddeg o fyfyrwyr yn ymuno â’r sgyrsiau grŵp, gan gynnwys 9 yn ymuno dros alwad fideo bob wythnos, ac maent yn edrych ymlaen at gwrdd wyneb yn wyneb pan mae hynny’n bosib.

Dod â Dysgwr HI at ei Gilydd

Mae deg o’n dysgwyr HI sydd wedi ymuno â’r Clwb i’r Byddar eisoes yn ffrindiau da, sydd wedi astudio yn gyda’i gilydd. Roedd y myfyrwyr yn agos iawn, ac yn ffrindiau da yn yr ysgol, ond oherwydd COVID, fe orffennon nhw’r ysgol yn llawer cynt na’r disgwyl, a theimlo’n ynysig gartref. Wrth ymuno â Choleg Gwent fis Medi, gwasgarwyd y myfyrwyr ar draws ein campysau gwahanol ar gyfer eu hastudiaethau dewisol, ac ar ôl cael eu gwahanu, sylweddolon nhw y byddai cymorth yn ddefnyddiol iddynt am eu bod nhw’n colli ei gilydd; a’r Clwb i’r Byddar oedd yr ateb.

Yn ystod cyfarfodydd Clwb i’r Byddar, mae pynciau trafod yn amrywio o gyrsiau a chymorth i ddysgwyr, i sgwrsio am anifeiliaid anwes a chynlluniau ar gyfer y penwythnos. Ond, er mwyn datblygu’r clwb ymhellach, mae Lisa a Nisha wedi trefnu i siaradwr gwadd ymuno â’r cyfarfodydd bod wythnos a sgwrsio gyda’r myfyrwyr. Hyd yn hyn, mae siaradwyr gwadd wedi cynnwys Pennaeth Prif Swyddfa Nam Clyw Ysgol Uwchradd Cwmbrân, lle bu deg o’n dysgwyr HI yn ei mynychu HI a dod yn ffrindiau da yno, yn ogystal â Mike Sage o , a eglurodd sut y byddwn, gyda gobaith, yn trefnu diwrnod Rygbi Byddar yn ystod gwanwyn nesaf, pan fydd COVID yn caniatáu i ni wneud hynny.

Beth nesaf?

Yn dilyn llwyddiant y Clwb i’r Byddar, prosiect nesaf Lisa a Nisha yw gosod teilsen Iaith Arwyddion Prydain (BSL) ar ap CG Connect. Bydd Thomas Barlow, myfyriwr Celf a Dylunio Lefel 2 o Barth Dysgu Torfaen yn dylunio’r deilsen ar gyfer CG Connect, ac maent yn gobeithio cynnwys pob dysgwr Byddar yn y gwaith o recordio cyfres o arwyddion, fel bod myfyrwyr eraill ac aelodau o staff yn gallu dysgu cyfathrebiadau BSL sylfaenol. Maent yn gobeithio cychwyn y gwaith gyda llond llaw o arwyddion, megis ‘Bore Da’, ac adeiladu ar hynny drwy gydol y flwyddyn, gyda’r nod o orffen y flwyddyn gyda neges Nadoligaidd a chyflwyno cân gydag arwyddion.

I wella ymwybyddiaeth am namau clyw a’r cymorth sydd ar gael yn y coleg, hoffai Lisa a Nisha gynnwys fideo Ymwybyddiaeth o fod yn Fyddar o fewn y deilsen BSL. Byddai’n helpu i hyrwyddo Ymwybyddiaeth o fod yn Fyddar a dangos sut all pawb helpu i wneud myfyrwyr HI deimlo’n gyfforddus yn Coleg Gwent.

Rydym yn falch o fod yn goleg cynhwysfawr sy’n cefnogi a gwerthfawrogi pawb yn ein cymuned, ac yn hyrwyddo ymwybyddiaeth lle y gallwn. Felly, os ydych yn ddysgwr HI yn Coleg Gwent, neu’n ystyried astudio gyda ni a bod gennych ddiddordeb mewn ymuno â’n Clwb Byddar, ebostiwch Lisa neu Nisha am ragor o wybodaeth: lisa.jones@coleggwent.ac.ukÌý²Ô±ð³ÜÌýnisha.davey@coleggwent.ac.uk.