Â鶹´«Ã½

En
Our Employer Pledge goes from strength to strength

Addewid Cyflogwr yn mynd o nerth i nerth


12 Gorffennaf 2022

Mae’r Addewid Partneriaeth Cyflogwr, a lansiom fis Medi 2021, yn parhau i dyfu a datblygu wrth nesáu at ei ben-blwydd cyntaf eleni. Bwriad yr addewid pwysig hwn yw cryfhau ein cysylltiadau gyda’r diwydiant a chyflogwyr lleol, a chynnig mwy o gyfleoedd addysgol i chi ar yr un pryd a bod o fudd i’r cwmnïau sydd ynghlwm hefyd. Mae’r addewid wedi cael blwyddyn gyntaf wych, gyda mwy a mwy o gyflogwyr yn cofrestru a mwy a mwy o gyfleoedd yn cael eu cynnig i’n dysgwyr.

Ym mis Mehefin, cynaliasom ddigwyddiad rhwydweithio ar gyfer cyflogwyr ar safle cwmni sydd newydd gofrestru gyda ni, . Cafodd pawb a oedd yn bresennol olwg manwl ar gynnydd yr addewid, mwynhau gwrando ar Gyfarwyddwr , Richard Selby, deall mwy am sut y dechreuodd Tiny Rebel, a chael taith o amgylch y bragdy llwyddiannus sydd dafliad carreg o Gampws Crosskeys.

Our Employer Pledge goes from strength to strength

Siaradodd Beccy Legge, Pennaeth Pobl yn Tiny Rebel, am eu rhesymau dros ymuno â’r addewid:

“Mae Tiny Rebel yn frwd dros gynnig cyfleoedd sy’n tynnu sylw at lwybrau gwahanol i mewn i gyflogaeth, a gallu rhoi profiadau o hynny, yn ogystal â gallu cynnig sgiliau a phrofiadau newydd i’r byd gwaith mewn ffordd wahanol. Rydym bob amser wedi gweithio gyda sefydliadau lleol a grwpiau cymunedol i allu cynnig rhywbeth yn ôl, ac roeddem yn teimlo mai dyma’r cam nesaf o fewn hynny. Erbyn hyn, mae Tiny Rebel yn gartref i nifer o gyn-fyfyrwyr Coleg Gwent, ac roeddem eisiau dathlu hyn ymhellach gyda chenhedlaeth y dyfodol y gweithle.”

O fewn y digwyddiad, dathlwyd croesawu dau bartner newydd i’r addewid, a Tiny Rebel, sydd wedi cael eu croesawu i mewn i’n teulu o gyflogwyr wedi hir ddisgwyl. Heddiw, mae cyfanswm o 14 cwmni lleol arbennig wedi ymrwymo i weithio’n agos gyda Coleg Gwent, ac mae’r buddion i’n dysgwyr a’r cwmnïau eisoes yn amlygu eu hunain mewn sawl maes.

Mae rhai o’r llwyddiannau hyn yn cynnwys lansio Interniaethau gyda Chefnogaeth Ysbrydoli i Gyflawni mewn partneriaeth â , lleoliadau gwaith i fyfyrwyr yng , lansio Hwb Seiber ym Mharth Dysgu Blaenau Gwent mewn partneriaeth ag a , a rhoi cyfle i fyfyrwyr ddefnyddio peiriannau o’r un maint â rhai’r diwydiant yn Pro Steel Engineering. Yn ogystal â sicrhau bod cwmnïau ar eu hennill, mae’r cyfleoedd hyn hefyd yn sicrhau bod ein dysgwyr yn meithrin sgiliau, profiadau a gwybodaeth newydd am y byd gwaith gyda diolch i’r Addewid Partneriaeth Cyflogwr.

Our Employer Pledge goes from strength to strength

Roeddem yn falch iawn fod cymaint o’n cyflogwyr partner wedi dod i’r digwyddiad hwn, i ddathlu llwyddiant y fenter hyd yn hyn. Mae cymaint o gydweithio cadarnhaol wedi digwydd yn barod eleni, gyda sefydliadau o amrywiaeth o sectorau gwahanol yn cymryd rhan. Rydym yn ddiolchgar iawn am yr amser maen nhw wedi’i roi i’n myfyrwyr, er mwyn sicrhau ffyniant ein hardal fusnes leol yn y dyfodol.

Os oes gennych ddiddordeb mewn cydweithio â Coleg Gwent a’n myfyrwyr, gallwch weld mwy o wybodaeth am gofrestru’ch sefydliad gyda’r Bartneriaeth Addewid yma.