鶹ý

En

Adroddiad ardderchog gan Estyn ar Bartneriaeth Dysgu Oedolion Gwent Fwyaf


23 Ebrill 2024

Cafodd Partneriaeth Dysgu Oedolion Gwent Fwyaf, a arweinir gan Coleg Gwent, ei chanmol yn arw yn dilyn adolygiad a gynhaliwyd gan Estyn, sef arolygiaeth addysg Cymru. Mae’r adroddiad yn amlygu effaith drawsnewidiol gwaith y bartneriaeth ar ddysgwyr a chymunedau fel ei gilydd.

Mae Partneriaeth Dysgu Oedolion Gwent Fwyaf yn gydweithrediad sefydledig sydd yn cynnwys pum darparwr craidd awdurdodol lleol, (Aneurin Leisure (Blaenau Gwent), Caerffili, Sir Fynwy, Casnewydd, Torfaen) gyda’r coleg yn ymgymryd â rôl arweinyddiaeth strategol. Mae’r bartneriaeth yn cynnig ystod o gyrsiau a chlybiau teilwredig i ddiwallu anghenion amrywiol ei chymunedau, gan gynnwys sgiliau hanfodol, sgiliau byw’n annibynnol, Saesneg i siaradwyr ieithoedd eraill (SSIE), TGCh, cyflogadwyedd a chyrsiau hamdden a llesiant.

Yn ystod y broses arolygu, mae arolygwyr Estyn yn arolygu pob agwedd ar weithrediadau’r bartneriaeth, yn ogystal â chyfarfod â rhanddeiliaid allweddol sydd yn cynnwys cadeirydd y bartneriaeth, yr uwch arweinwyr, tiwtoriaid ac, yn bwysicaf oll, y dysgwyr.

Trwy ymweld â sesiynau, arsylwi ar ryngweithiadau ac adolygu dogfennaeth, enillodd yr arolygwyr ddealltwriaeth gyflawn o gryfderau’r bartneriaeth a’r meysydd y gellir eu datblygu.

Uchafbwyntiau allweddol yr adroddiad oedd:

Ymrwymiad i rymuso dysgwyr

Un o nodweddion amlwg y bartneriaeth a amlygwyd yn yr adroddiad yw ei hymrwymiad i rymuso dysgwyr. Soniodd dysgwyr yn angerddol am effaith gadarnhaol y bartneriaeth ar eu bywydau, gan ddweud y byddent “ar goll heb y ganolfan” sydd wedi dod yn rhaff achub ar ôl amgylchiadau bywyd heriol. Mae dysgwyr mewn dosbarthiadau sgiliau digidol yn arbennig o werthfawrogol o ddysgu am seiberddiogelwch ac maent yn gwerthfawrogi dysgu am sut i gadw eu hunain yn ddiogel wrth bori, bancio a siopa ar-lein.

Profiad dysgu sydd yn gynhwysol ac yn gefnogol

Mae adroddiad Estyn yn canmol ymroddiad y tiwtoriaid i feithrin amgylcheddau dysgu cynhwysol lle mae pob unigolyn yn teimlo ei fod yn cael ei werthfawrogi a’i gefnogi. Datganodd yr adroddiad bod tiwtoriaid “yn creu amgylcheddau cynnes a chroesawgar y mae dysgwyr yn teimlo’n gyfforddus yn eu cyrchu.”

Nodir bod y bartneriaeth yn hyblyg ac yn ymatebol, sydd yn cyflwyno rhaglenni ar amseroedd ac mewn lleoliadau sydd yn gweddu i anghenion dysgwyr, gyda chynlluniau sydd wedi’u strwythuro’n dda ac sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn. Mae tiwtoriaid yn gweithio gyda dysgwyr i greu targedau ystyrlon megis: “Rydw i’n gwneud hyn i gyflawni fy nod hirdymor o ddod yn fydwraig” neu “Rydw i’n cefnogi fy mab i gyflawni TGAU mathemateg.” Roedd pwyslais y bartneriaeth ar iechyd a llesiant meddyliol hefyd wedi atseinio’n ddwfn gyda’r arolygwyr a nododd y manteision diriaethol a brofir gan ddysgwyr. Er mwyn cefnogi iechyd meddwl dysgwyr, llwyddodd 17 tiwtor ar draws y bartneriaeth i gyflawni’r cwrs Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl Achrededig L2, ac aeth saith o’r rhain ymlaen i Ddyfarniad L3 mewn Goruchwylio/Arwain Cymorth Cyntaf ar gyfer Iechyd Meddwl. Fe wnaeth y cyrsiau hyn alluogi staff i ennill gwell ddealltwriaeth o gyflyrau iechyd meddwl ac i gyfeirio dysgwyr at sefydliadau priodol.

Meddai un dysgwr: “Fyddwn i ddim yn gallu ymdopi heb y gefnogaeth hon” ac “Mae mor bwysig gan mai dyma’r unig ddiwrnod o’r wythnos pan rydyn ni’n gwybod lle rydyn ni.”

Diwylliant o welliant parhaus

Bu adroddiad Estyn hefyd yn canmol prosesau hunan-werthuso cadarn a chynlluniau gwella ansawdd y bartneriaeth. Trwy ddadansoddi data asesu dysgwyr yn ofalus, monitro cynnydd, a gofyn am adborth, mae’r bartneriaeth yn sicrhau bod ei rhaglenni’n parhau i fod yn berthnasol i anghenion newidiol. Mae’r gweithgareddau arsylwi hefyd yn cefnogi’r bartneriaeth gyda monitro ansawdd y ddarpariaeth, nodi arferion da a datblygu’r aelodau o staff y mae angen cymorth arnynt. Yn olaf, adlewyrchir yr ymrwymiad i welliant parhaus yn y canlyniadau cadarnhaol a gyflawnir gan ddysgwyr ar draws ystod eang o raglenni.

Wrth i ni ddathlu cyflawniadau Partneriaeth Dysgu Oedolion Gwent Fwyaf a amlygwyd yn adroddiad Estyn, cydnabyddwn waith caled ac ymroddiad pawb sydd yn ymwneud â’r bartneriaeth.

Yn Coleg Gwent, rydym ni ar y trywydd i adeiladu ar y llwyddiannau a byddwn yn parhau i helpu i wneud gwahaniaeth ystyrlon ym mywydau dysgwyr a chymunedau ledled Gwent Fwyaf.

Dysgwch ragor am y cyrsiau sydd ar gael yn eich cymuned.