Â鶹´«Ã½

En
GCSE results day 2022

Dosbarth 2022 yn cael diwrnod canlyniadau TGAU llwyddiannus


25 Awst 2022

Llongyfarchiadau i’r dysgwyr hynny sydd wedi cael eu canlyniadau TGAU a BTEC Lefel 2 heddiw! Yma yn Coleg Gwent, rydyn ni’n dathlu cyfraddau llwyddo gwych dosbarth 2022. Eleni, rydyn ni wedi gweld cyfradd lwyddo arbennig o 92.5% ar gyfer Mathemateg TGAU, a chyfradd lwyddo ragorol o 85.4% ar gyfer Saesneg TGAU hefyd. Da iawn i’r holl ddysgwyr sydd wedi gweithio’n galed iawn i lwyddo a chyflawni eu graddau. Diolch i’r tiwtoriaid hefyd sydd wedi gwneud y cyfan yn bosibl!

Mae Coleg Gwent yn rhoi cyfle i ddysgwyr ailsefyll eu harholiadau TGAU Mathemateg a Saesneg gyfochr ag astudio cyrsiau lefel galwedigaethol neu academaidd eraill yn y coleg, ac mae pobl yn dewis gwneud hyn am sawl rheswm gwahanol. Efallai na chawsoch chi’r canlyniadau roeddech wedi’u disgwyl y tro cyntaf, neu efallai eich bod chi eisiau gwella’ch sgiliau, cyfoethogi’ch opsiynau o ran gyrfaoedd, neu wella’ch siawns o gael lle mewn prifysgol. Waeth beth sy’n eich ysgogi a’ch targed terfynol, gallwch lwyddo gyda chymorth gan Coleg Gwent.

Ewch i gael sgwrs gyda rhai o’n dysgwyr TGAU i gael gwybod pam eu bod nhw wedi astudio Mathemateg a Saesneg TGAU yn Coleg Gwent, a dysgwch beth mae’n ei olygu iddyn nhw:

  • Cwblhaodd John Dorling, sy’n 18 oed, ei arholiad Mathemateg TGAU ym Mharth Dysgu Torfaen eleni. Roedd angen pasio ei gwrs Mathemateg TGAU er mwyn gallu gwneud cais i astudio yn y brifysgol a dilyn gyrfa ym maes celf. Heddiw, mae’n falch o fod wedi cael gradd B, sy’n ei alluogi i wireddu ei freuddwydion. Mae John yn bwriadu cwblhau ei ail flwyddyn ar y cwrs BTEC Celf a Dylunio, a bydd hynny, law yn llaw â’i ganlyniadau Mathemateg TGAU, yn ehangu ei bosibiliadau i fynd ymlaen i’r brifysgol!
    “Roeddwn yn cael trafferth gyda mathemateg, ond cefais y cymorth gorau posibl gan Coleg Gwent. Mae’r tiwtoriaid yn garedig, a bob amser yn cynnig cymorth pan fo’i angen arnoch. Maen nhw’n cymryd pwysigrwydd eich addysg o ddifrif.”
  • Nod Yasmin, sy’n ddysgwr hÅ·n o Gasnewydd, yw dod yn gyfrifydd ac mae’n awyddus i astudio Cyfrifeg Fforensig yn y brifysgol. Er mwyn sicrhau ei lle yno, roedd angen iddi gwblhau ei TGAU Mathemateg, ac mae wedi cael gwybod heddiw ei bod wedi cyflawni gradd A. Mae’n edrych ymlaen at barhau â’i hastudiaethau.
    “Byddwn yn argymell Coleg Gwent i fyfyrwyr eraill oherwydd bod tiwtoriaid gwych i’w cael yno. Maent yn frwd dros eu gwaith ac eisiau eich gweld yn llwyddo.â€
  • Astudiodd Margaret TGAU Saesneg, gan gyflawni gradd C. Daeth i gasglu ei chanlyniadau yn hollol ddigynnwrf gan ei bod wedi gweithio mor galed. Erbyn hyn, mae hi ar ben ei digon am fynd i’r brifysgol i astudio Nyrsio.
    “Mae Coleg Gwent wedi gweithio’n wych mewn ystod o feysydd megis rhoi anogaeth barhaus, darparu adnoddau ac, yn bwysicach na dim, am gredu ynof i. Rwy’n gwerthfawrogi holl ymdrechion y Coleg.â€
  • Dewisodd Hannah, 21 oed, i astudio TGAU Mathemateg yn Coleg Gwent er mwyn ei galluogi i wneud cwrs TAR. Mae’n hynod falch ei bod wedi cyflawni gradd A:
    “Roeddwn i’n teimlo’n nerfus braidd cyn dechrau’r cwrs. Ond gwnaeth y staff a’r dysgwyr i mi deimlo’n gyfforddus iawn. Rwy’n bwriadu dechrau ar gwrs TAR fis Medi ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd. Coleg Gwent sydd wedi rhoi i mi’r hyder i wneud hyn.â€
  • Mae Richard hefyd wedi gwirioni ei fod wedi cyflawni gradd B mewn Saesneg heddiw ar ôl hirymaros am ei ganlyniadau. Mae’n edrych ymlaen at flwyddyn o seibiant cyn penderfynu ar ei gamau nesaf.
    “Deuthum i Coleg Gwent heb ddisgwyliadau o gwbl. Gyda chymorth y tiwtoriaid a’m cyfoedion, rwyf wedi cyflawni digon ac rwyf mor falch ohonof i fy hun!â€
  • Cyflawnodd Athraa, 16 oed, radd B mewn TGAU Mathemateg yn ogystal â llwyddo yn ei chwrs Gwyddoniaeth Gymhwysol Lefel 2. A hithau mor uchelgeisiol, hoffai fynd ymlaen i wneud cwrs meddygaeth yn y dyfodol a chanmolodd y “gefnogaeth wych sydd i’w chael gan athrawon Coleg Gwentâ€

Mae heddiw yn fwy na diwrnod o ddathlu ar gyfer ein dysgwyr ni. Mae diwrnod canlyniadau TGAU hefyd yn gyfle i ni ddathlu cyflawniadau miloedd o ddysgwyr o ysgolion eraill ar draws y rhanbarth. Mae’r grŵp blwyddyn hwn wedi wynebu heriau nad ydym erioed wedi’u gweld o’r blaen, gydag effaith eang pandemig byd-eang yn effeithio ar eu taith ddysgu. Er hyn, maen nhw wedi dangos gwytnwch ac ymrwymiad yn wyneb adfyd, ac rydym hefyd yn falch o bob myfyriwr am weithio’n galed i gwblhau cymwysterau TGAU a chymwysterau Lefel 2 eraill heddiw.

Bydd nifer o fyfyrwyr nawr yn edrych ymlaen at gael dechrau astudio gyda ni fis Medi, a chymryd y camau nesaf o fewn eu taith addysgiadol at gyrsiau Safon Uwch neu gyrsiau galwedigaethol. Braf fydd cael eich croesawu chi i wythnos y glas fis Medi. Os nad ydych wedi gwneud cais eto, mae gennych amser i ymuno â ni. Mae llond llaw o leoedd dros ben ar amrywiaeth o gyrsiau, ond maen nhw’n llenwi’n gyflym. Felly ewch amdani i wneud cais ac osgoi cael eich siomi. Rydyn ni’n edrych ymlaen at eich gweld fis Medi.

Llongyfarchiadau eto i ddosbarth 2022!